Thursday, 7 December 2017

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?


Credai’r llywodraeth “Education is the engine of our economy, it is the foundation of our culture, and it’s an essential preparation for adult life.” (GOV, 2017) Credaf yn gryf efo hyn oherwydd mae addysg gynradd yn gweithio fel sylfaen ar gyfer eich dyfodol. Mae mynedi addysg gynradd yn orfodol ac felly rhaid iddi gael effaith bositif ar blant er mwyn iddyn nhw dyfu i fod yn llwyddiannus.
     Cefnogai Kolb (2008) y syniad yma o baratoi blant at eu dyfodol, dywed “It is a holistic theory that defines learning as the major process of human adaptation involving the whole person. As such, ELT (Experiential Learning Theory) is applicable not only in the formal education classroom but in all arenas of life” (Kolb, 2008, p.3). Felly gwelwch yma bod dysgu ac addysg yn broses lle y mae plant yn gallu datblygu eu addasiadau fel person cyfan ag all hyn ei pharatoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau datblygiad llwyddianus.
      Gweler fod Hewitt and Tarrant, (2015) hefyd yn cytuno efo’r syniad yma wrth ddweud “Education is important in itself, because it helps children to develop as individuals.” (Hewitt and Tarrant, (2015). Hefyd dywed “Education enables young people to be prepared for adult life.” (Hewitt and Tarrant, (2015) ac felly mae’r syniad fod pwrpas addysg yn paratoi plant at bywyd a dyfodol yn cael ei gefnogi gan nifer.
      Mae’r clip fideo yma yn pwysleisio ar ein cwricwlwm presenol, a beth gallwn wella o’i fewn:


      O fewn y clip fideo, dengys pynciau o fewn y cwricwlwm megis meddylfryd, lles a hunan  ymwybyddiaeth. Gweler fod y cwricwlwm newydd y mae Graham Donaldson yn ei gyflwyno ym mhwysleisio’n fawr ar lles y plentyn, paratoi plant am fywyd a gadael i’r plant arwain eu dysgu. Wrth ddarllen adroddiad ‘Successful Futures’ gan Donaldson, dywed, wrth ofyn ‘Beth ydy’r tair elfen orau o addysg yng Nghymru?’,  un elfen oedd  “the health and well-being of our children and young people.” (Donaldson, 2015, p.24). Mae hyn yn dangos y pwyslais ar y plentyn yn lle canlyniadau. Wrth ffocysu ar y disgybl mi fydd canlyniadau fwy llwyddianus gan ystyried cymhelliant ac ymddygiad y plant. O fewn cwricwlwm Donaldson gweler ei fod yn cyflwyno “The intention is to signal the importance of educational experiences as an integral part of the curriculum, to broaden children and young people’s horizons, stimulate their imaginations and promote enjoyment in learning. The education of children and young people should include rich experiences that are valuable in their own right.” (Donaldson, 2015, p.38). Felly gwelwch eto bod y pwyslais o fewn addysg ydy sicrhau fod y plentyn ym mhrif ffocws pob gweithred.
      Cytunaf ym mhersonol, dylai addysg a phwrpas addysg fod yn seiliedig ar ffocysu ar y plentyn a’i lles, a hefyd addasu dysgu i gallu’r plentyn. O fewn darlith yn y brif ysgol, cafon ddarlith gan Emma ar ‘Independent coastal schools’. Credaf fod yr ysgolion yma yn wych oherwydd maent yn pwysleisio ar iechyd a lles y plentyn wrth hyfforddi gwersi tu allan yn unig. O’r ddarlith dengys Emma wybodaeth am yr ysgol, y gweithgareddau, manteision a heriau’r ysgol. Credai Emma taw dysgu tu allan yw’r ffordd gorau o ddysgu ac y mae hi’n manteisio sgiliau a hyder y plant. Ffocws pedagogaidd fwyaf Emma oedd rhyddid y plant. Fel manteision dywed bod y plant yn chwarae wrth ddefnyddio’i ddychymig yn fwy, yn ffocysu ar y dasg yn fwy manwl, yn gwrando’n well a hefyd yn ymddwyn yn well. Wrth ddysgu tu allan mae’r elfenau yma yn cael ei phrofi a hefyd y maent yn helpu gwella iechyd a lles y plant yn y broses. Mae gwefan ar gael er mwyn cael ymweld y math o wersi y mae’r ysgol yn cynnig a hefyd mae modd trefnu ymuno efo rhai o’r gwersi a teithiau y maent yn mynedi.
  
Ac felly credaf fel casgliad taw pwrpas addysg ydy darparu lleoliad i blant cael yr hawl I ddysgu o fewn ffyrdd eu hun. Wrth sicrhau dysgu llwyddianus credaf dylai plant fod yng nghanol y dysgu a taw nhw dylai arwaid y dysgu efo tipyn o hyfforddiant oherwydd y ffordd y mae plant yn dysgu gorau ydy wrth gael ei cymhellu a’I ymddiried i fod yn hyderus a chael dysgu diddordebau’n rhydd.


Cyfeiriadau:

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.24-38. Available at: http://file:///Users/amypippen/Downloads/Donaldson%20Report%20-%20Successful%20Futures%20-%20Independent%20Review%20of%20Curriculum%20and%20Assessment%20Arrangements%20in%20Wales%20(3).pdf [Accessed 26 Nov. 2017]

GOV (2017). The purpose of education - GOV.UK. [online] Gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20 Nov. 2017].

Hewitt, D. and Tarrant, S. (2015). Innovative teaching and learning in primary schools. Des Hewittt, p.2.

Kolb, A., & Kolb, D. A. (2008). Experiential learning theory: A dynamic, holistic approach to management learning. Education and Development Department of Organizational Behavior. Case. Western Reserve University. 

Sut y gall dysgu cydweithredol effeithio ar addysg cynradd?


Nid oedd Dillenbourg (1999) ac weddill o’r ysgolheigion yn gallu cytuno ar diffiniad o dysgu cydweithredol, mae yna amrywiath eang o diffiniadau ar gyfer y term yma mewn wahanol meysydd academaidd. Mae Dillenbourg (1999) yn ddweud ‘The broadest (but unsatisfactory) definition of 'collaborative learning' is that it is a situation in which two or more people learn or attempt to learn something together’. Er hyn mae gwahanol elfen yn gallu cael ei ddehongli mewn ffyrdd wahanol. Mae “two or more” yn gallu cael ei ddehongli mewn par, grwp fach (3-5 pobl), ddosbarth (20-30), cymdeithas neu chymuned. Mae hefyd yn ddweud sut mae “leanring something” ac “together” yn gallu cael ei ddehongli (Dillenbourg, 1999).

Mae dysgu cydweithreol yn digwydd phob dydd yn yr dosabarth, trwy gweithio ar tasgau, prosiectau ac gweithgareddau. Mae yna nifer o manteision i dysgu cydweithredol.Mae Laal ac Ghodsi (2011) wedi rhannu’r mantesion mewn i pedwar categori, gan ddyfynnu gwaith Johnsons (1989) ac Pantiz (1999) sydd yn rhestru dros 50 mantais ar gyfer ddysgu yn cydweithredol. Y pedwar categori yma yw cymdeithasol, seicolegol, academaidd ac asesiadau.

·         Manteision Cymdeithasol;
-          Helpu i ddatblygu system cymdeithasol i ddysgwyr.
-          Adiladu dealltwriaeth ymysg myfyrwyr a staff.
-          Sefydlu awyrgylch cadarnhoal ar gyfer modelu ac ymarfer chydweithredu.
-          Datblygu cymunedau dysgu.
·         Manteision Seicoloegol;
-          Mae student-centered instruction yn cynyddu hunan-barch myfyrwyr.
-          Lleihau pryder.
-          Datblygu agweddau positif tuag at athrawon.
·         Mantesion academaidd;
-          Hyrwyddo sgiliau o feddwl yn beirniadol.
-          Cynnwys myfyrwyr yn weithgar yn y broses dysgu.
-          Canlyniadau dosbarth yn wella.
-          Modelu technegau datrys problemau myfyrwyr priodol.
-          Ddefnyddiol trwy ysgogi myfyrwyr mewn cwricwlwm penodol.
·         Technegau asesu myfyrwyr eiledol ac athrawon;
-          Mae technegau addysgu cydweithredol yn defnyddio amrywiaeth o asesiadau.

Er mwyn i phlant ysgol gynradd gweithio yn cydweithredol mae hyn yn gallu weithio trwy grwpio. Yn ol Harris a Lowe (2014) mae grwpio effeithiol yn ganlyniad allweddol o asesiad ffurfiannol, lle mae’r athrawon yn gallu creu gweithgareddau cymywys ar gyfer phob grwp o ddysgwyr, ar eu lefel gallu (Harris and Lowe, 2014). Mae hyn yn gysylltiedig i’r Standard 5 (DfE 2013) sydd yn focysu ar y angen o ‘adapt teaching to the strengths and needs of pupils, knowing when and how to differentiate properly, using approaches which enable children to effectively’. Mae hyn yn cydfynd gyda’r syniad o gweithio yn cydweithredol oherwydd mae’n amlygu bod disgyblion yn gallu weithio yn well gyda disgyblion eraill sydd ar yr un lefel academaidd.

Mae Vygotsky (1978) wedi datblygu’r syniad o ‘Zone of Proximal Development’ sydd yn adnabod beth mae phlant yn gallu wneud ar ben ei hunain ac beth mae nhw’n gallu wneud gyda cymorth gan cyfoedion ac oedolion. Wrth gwahanu nhw yn effeithiol, gall athrawon cael mynediad i’r cyfle dysgu hwn gan grwpio’r phlant yn effeithiol i cynnig amgylchedd orau posib ar gyfer dysgu (Vygotsky, 1978).

Er hyn mae yna anfantesion trwy denfyddio y grwpio yma, mae athrawon yn tebyg o grwpio o fewn ei lefelau llythrennedd ac rhifedd ond yn cadw y grwpiau yma ar gyfer pwnciau eraill (Harris and Lowe, 2014). Mae hyn yn meddwl bod y disgyblion sydd gyda cryfderau mewn pwnciau eraill ddim yn teimlo ei fod wedi cael ei herio oherwydd y grwpio gwahanol (Harris and Lowe, 2014). Yn fy marn i ddylai phlant cael ei chymysgu er mwyn gallu gweithio yn cydweithredol gyda phlant eraill. Mae hyn yn gallu wella perthnasau y dosabarth trwy creu ffrindiau ac rhannu syniadau gwahanol.
I grynhoi dwi’n credu fod cydweithrediad yn hynod bwysig yn addysg gynradd oherwydd mae’n ffordd newydd o ddysgu lle mae phlant gyda annibyniaeth. Mae gweithio fel grwp yn sgil pwysig o fewn y dosbarth heddiw yn hytrach na gwrando i’r athrawes ac ysgrifennu. Mae yna nifer o mantesion fel es i siarard am yn gynharach. Felly mae dysgu yn cydweithredol yn gallu cael effaith positif ar addysg gynradd.

Yn ystod ein darlithoedd, cawsom ni y siawns i cysylltu gyda ysgol gynradd yn Nairobi, Kenya, or enw Cheery school. Cawsom ni amser i gwneud galwad skype gyda sylfaenydd yr ysgol. Wnaeth e cynnig llawer o wybodaeth ynglyn yr amygylchedd a sut mae’r ysgol wedi cael ei leoli yn slym. Dechreuoedd yr ysgol gyda tri disgyblion on erbyn heddiw wedi cynddu gyda cannoedd o disgyblion, sydd yn teithio yn bell i mynegi ysgol. Aethom ati I cydweithio gyda’r ysgol trwy codi arian i helpi adiladu wal ar gyfer dosbarth sefydlog. Penderfynais fy nghrwp gwerthu cacennau yn ein amser rhydd yn y prifysgol. Llwyddodd ein grwp codi £101 ar gyfer ysgol Cheery. I ategu at hyn yn ei seminar fe defnyddiodd ein sgiliau creadigol i chreu fideo am Chaerdydd ac yr iaith Cymraeg. Yn unigol wedyn es i chreu taflen waith ar gyfer y disgyblion I ddysgu nhw lliwiau’r enfys yn Gymraeg. Dwi wedi atodi fideo a chopi taflen waith isod. Mae hyn yn profi bod cydweithrediad yn gallu cael effaith positif ar ysgolion cynradd oherwydd mae’n cynnig cefnogaeth yn enwedig ar gyfer phlant sydd yn llai ffodus as ddim gyda mynediad hawdd ac syml i addysg. Mae ysgol Cheery nawr wedi ddysgu am diwylliant Caerdydd ac rydym wedi ddysgu am diwylliant ac sefyllfa addysg yn Kenya.


                                                                                                                                                   


Cyfeiriadau
DfE (2013) Teachers’ standards (DFE-00066-2011), Available at: https://www.gov.uk
Dillenbourg P. (1999) What do you mean by collaborative learning? In P. Dillenbourg (Ed) Collaborative-learning: Cognitive and Computational Approaches. (pp.1-19). Oxford: Elsevier.
Harris, K. and Lowe, S. (2014). Monitoring, assessment and record keeping. In Cooper, H. eds. Professional Studies in Primary Education. 2nd ed. London: SAGE, pp. 93.
Johnson, D.W. & Johnson, R.T. (1989). Cooperation and Competition Theory and Research. Edina, Minnesota; USA. Interaction Book Co. Publishing.
Laal, M. and Ghodsi, S. (2011) Benefits of collaborative learning. Elsevier. Available at: https://ac.els-cdn.com/S1877042811030205/1-s2.0-S1877042811030205-main.pdf?_tid=533bdea4-db5b-11e7-8bb3-00000aacb361&acdnat=1512657274_ace43ca0b6175697db25fb15a86a56e7 (Accessed: 1 December 2017).
Panitz, T. (1999). Benefits of Cooperative Learning in Relation to Student Motivation", in Theall, M. (Ed.) Motivation from within: Approaches for encouraging faculty and students to excel, New directions for teaching and learning. San Francisco, CA; USA. Josey-Bass publishing.
Vygotsky, L. (1978) Mind in Society: The Development of Higher Psychological processes. Cambridge, MA: Harvard University Press.



Wednesday, 6 December 2017

Sut all dysgu draws gwriciwlaidd cael effaith ar addysg gynradd?


Erbyn heddiw mae dysgu draws gwricwlaidd yn dod yn fwy a fwy poblogaidd o fewn ysgolion cynradd. Y bwriad yw paratoi plant gyda sgiliau trosglwyddadwy sy’n fuddiol i’r dyfodol. “The education we currently offer our children may not be good enough to help them thrive in and live fulfilling lives through, the century.” (Barnes, 2011, p.18). Mae’r dyfyniad yma gan Barnes (2011) yn pwysleisio bod ein haddysg bresennol ddim yn cynnig digon o gyfleoedd na sgiliau er mwyn i blant lwyddo yn y dyfodol agos.

Dyle dysgu draws gwricwlaidd fod yn elfen hanfodol o fewn y cwricwlwm ag addysg gynradd yn ôl Donaldson (2015). O fewn adolygiad Donaldson (2015)  sef ‘Successful Futures’ mae’n pwysleisio'r pwysigrwydd o ddysgu traws cwricwlaidd ac yn awgrymu fod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gyd yn dod yn gyfrifoldebau traws cwricwlaidd gyda chyfleoedd a phrojectau aml er mwyn i’r disgyblion ennill cymhwysedd uchel o fewn yr adrannau yma.



Mae sgiliau'r dyfodol yn bwysig ofnadwy i blant y genhedlaeth hon, gan fod y byd yn datblygu ar sgil effaith mawr mae’n rhaid sicrhau bod plant y dyfodol yn gallu ymdopi gyda newidiadau mawr sydd am ddigwydd. Wrth edrych ar dechnoleg, rydyn yn ei ddefnyddio trwy’r amser mewn bywyd pob dydd a hefyd o fewn diwydiannau gwahanol fyd gwaith. Trwy ddysgu technoleg a’i gynnwys o fewn gwersi traws cwricwlaidd rydyn yn arfogi disgyblion gyda’r sgiliau sydd am i lwyddo.  “Children and young people need to learn how to be more than consumers of technology and to develop the knowledge and skills required to use that technology creatively as learners and future members of a technologically competent workforce.” (Donaldson, 2015).



Wrth edrych ar fodel dysgu SAMR (fig.1) mae 4 cam ar sail ysgol sy’n dangos sut mae addysgwyr yn gallu gwella a thrawsnewid technoleg o fewn yr ystafell dosbarth. Yn dechrau gyda ‘Substiution’ mae’r addysgwr yn gallu gwella technoleg yn y dosbarth trwy ddefnyddio adnodd fel ipad neu ffon a’i ofyn i’r plant darllen oddi ar, hyd at ‘redefinition’ lle mae’r addysgwr yn defnyddio ap megis imovie neu garageband i drawsnewid technoleg yn y dosbarth. (Hamilton, et al, 2016). “to support and extend student learning with technology, educators must seek out and use flexible and adaptive, vetted frameworks that promote a deeper understanding of teaching and learning.” (Hamilton, et al, 2016, p.438). Trwy ddefnyddio SAMR mae addysgwyr yn gallu sicrhau ei bod nhw’n datblygu cymhwysedd digidol y disgyblion a’i pharatoi am y dyfodol.


(figure.1)


Y fwyaf rydych yn cysylltu, y fwyaf gwybodus gallwch chi fod. Trwy ddysgu traws gwricwlaidd rydyn yn galluogi plant i ddysgu a chasglu gwybodaeth mewn ffurf sy’n gallu fod yn fwy hwylus ac effeithiol. O ganlyniad i’r cwricwlwm presennol sy’n dysgu pynciau mewn segmentau, dyw plant ddim yn deall sut mae pynciau yn gallu cyfuno. “One of the most frustrating things to hear from eighth-grade students is that biology doesn’t use math.” (Ackerson, et al, 2010, p.23). Yn ol Kerry (2015) dylai’r cwricwlwm cadw lle ar gyfer dysgu tu hwnt i ddysgu sy’n seiliedig ar un pwnc yn unigol, er mwyn galluogi plant i greu cysylltiadau rhwng meysydd dysgu gwahanol. Trwy seilio gwersi ar brojectau a thasgau grŵp, rydyn yn sicrhau ei bod nhw’n cyrraedd targedau'r cwricwlwm wrth gynnig profiadau dysgu perthnasol a heriol er mwyn cyrraedd anghenion amrywiol y plant a phobl ifanc. Rhai manteision o ddysgu trwy brojectau yw bod y plant yn gweithio gyda’r gyfres cof o “rydw i eisiau gwybod” yn hytrach na gwrando ar athro yn dweud yr hyn mae’n rhaid iddynt ddysgu. Mae’r plant hefyd yn datblygu sgiliau cyffredinol megis gwaith tîm, cyfathrebu, gwrando a datrys problemau. (Lenz, et al, 1991).

 Yn fy marn i mae dysgu draws cwricwlaidd yn ffordd lwyddiannus iawn o gynnig profiadau dysgu gwahanol i ddisgyblion er mwyn cadw diddordeb. O fewn seminar dan arweiniad myfyriwr, roedd cyfle gen i geisio rhoi gwers a oedd yn dilyn dysgu traws cwricwlaidd. Roedd tri rhan i’r sesiwn, yn ystod rhan un, dangoswn fideo i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw gasglu ffeithiau a gwybodaeth ar y topig. Rhan dau oedd bwrdd stori (fig.2), roedd rhaid i’r disgyblion ei lenwi gyda’r wybodaeth casglwyd mewn partneriaid. Ac i gloi rhan 3 oedd tasg greadigol, gofynnwyd i’r disgyblion defnyddio ei ddychymig i greu beth oedden nhw’n meddwl oedd yr hyn dysgant nhw am yn edrych. (fig.3).

Wrth gyfuno technoleg gyda rhyw faint o hanes a chreadigrwydd, credwn fy mod i wedi cynnig digon o gyfleoedd i’r disgyblion datblygu mewn sawl maes dysgu gwahanol a hefyd rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu sgiliau megis casglu gwybodaeth, gwrando, cyfathrebu a gweithio fel tîm, sydd hefyd yn dilyn gofynion y cwricwlwm. Ac o ganlyniad yn cynnig profiad dysgu cadarnhaol i’r disgyblion.

(figure.2)

(figure.3)


 “Our experience of the world is cross-curricular. Everything which surrounds us in the physical world can be seen and understood from multiple perspectives.” (Barnes, 2011, p.1) Mae Barnes (2011) yn tanlinellu sut rydyn yn edrych ar fywyd mewn sawl prospectif er mwyn darganfod y canlyniad gorau, felly pam nad ydynt yn defnyddio'r un rhagolwg ar gyfer addysg? 

Cyfeiriadau.



Ackerson, N., Piser, C. and Walk, K. (2010). ittle Shrimp, Big Results: A Model of an Integrative, Cross-Curricular Activity. Science scope, pp.16-52.
BARNES, J. (2011). Cross-curricular learning 3-14. 2nd ed. London: Sage publications
Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales.. [ebook] Graham Donaldson, p.8. Available at: http://Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [Accessed 5 Dec. 2017].
Hamilton, E., Rosenberg, J. and Akcaoglu, M. (2016). The Substitution Augmentation Modification Redefinition (SAMR) Model: a Critical Review and Suggestions for its Use. TechTrends, 60(5), pp.433-441.
Kerry, T. (2015). Cross-Curricular teaching in the primary school. 4th ed. New York: Routledge, pp.33-40.
Lenz, B., Wells, J. and Kingston, S. (1991). Transforming schools using project-based deeper learning, performance assessment, and common core standards. John Wiley & Sons, Incorporated, pp.66-69.




Sunday, 3 December 2017

Beth yw pwrpas addysg gynradd?

Mae Donaldson (2015) yn cynnig pedwar pwrpas addysg, yn ei addrodiad, i’r cwricwlwm yng Nghymru ac yn ddweud, os fyddwn yn cael ei cefnogi, dyle nhw ‘guide all future decisions about national and local educational priorities and underpin all teaching and learning in Wales’ (Donaldson, 2015). Y pedwar pwrpas yma yw:

  • ·         Dysgwyr gydoel oes – sydd yn barod i ddysgu trwy gydol ei fywydau.
  • ·         Cyfranwyr mentrus a chreadigol – barod I chwarae rol mewn bywyd a gwaith.
  • ·         Dinasyddion Cymru a’r byd – barod I bod yn dinasyddion o Gymru a weddill y byd.
  • ·         Iechyd a Lles – barod i arwain bywydau cyflan fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(Donaldson, 2015)

Mae gen nifer o arbenigwyr addysg ei damcaniaethau pedagogaidd gwahanol pam ddaw i addysg gynradd. Pedagogy yw ddull ac ymarfer addysgu, yn enwedig fel pwnc academaidd neu gysyniad damcaniaethol (Google Dictionary, 2017). Mae yna llawer o feirniadaeth o ran diffinio pedagogy. Mae rhai yn diffinio pedagogy fel ‘the art or science of learning’ gyda pwyslais ar y gweithgaredd o dysgu. Mewn amglychedd sydd yn canolbwyntio ar y ddysgwyr, mae nhw yn cynnig, ddylai'r addysgu ddim fod yn destun o pryder (Beethan a Sharpe, 2007).

Yn cyfeirio nol at Donaldson (2015) mae ef yn cynnig deuddeg egwyddorion pedagogaidd. Roedd rhai o rhain yn cynnwys focws ar y pwrpas cyffredinnol y cwricwlwm, pwysleisio cydweithredu, perthynas positif, dysgu cyfunol yn cynnwys y rhai sydd yn hyrwyddo datrys problem, creadigrwydd ac meddwl yn feirniadol (Donaldson, 2015).

Yn fy marn i pwrpas addysg yw i addysgu phlant sut i datblygu sgiliau, datrys problemau ac cynnig profiadau newydd o fewn y dosabrth. Mae yna llawer o straen heddiw ar phlant gynradd ac athrawon i cyrraedd targedau ac pharatoi nhw ar gyfer ei TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd). Dwi’n credu dylai phlant cael yr hunanreolaeth o sut mae nhe yn cael ei ddysgu, un o rhain yw trwy dysgu tu allan i’r dosbarth. Gall dysgu tu allan cael pwyslais fwy o fewn y cwricwlwm na sydd dyddiau yma. Mae phlant yn gallu trwy profiad, ac mae dysgu yn yr awyr agored yn profiad mawr. O fewn seminar ddysgom am ysgol goedwig ac pa fath o effaith mae hyn yn gallu cael ar plant gynradd. Isod, dwi wedi rhoi llun o fy ddiagram o’r rhai pethau mae phlant yn dysgu trwy’r awyr agored.


 O fewn Denmark mae ganddo nhw nifer o ysgolion coedwig, y coedwig yw ei ddosabarth neu ‘Kindergarten’. Dwi wedi atodi link I fideo sydd yn siarad am y ysgol coedwig yn Denmark sydd yn cynnig fwy o wybodaeth ac arddangos sut mae’r plant yn dysgu ac proses y dydd. Dwi’n credu all prydain mabwysiadu rhai syniadau oddi wrth ysgolion yn Denmark ac ymgorffori mewn i’r 
cwricwlwm.



“the value of working outside the classroom is in providing pupils with experiences that are different from those inside it. … We want them to learn to behave in ways that are different to classroom behaviour.” (Waite, 2011, p.14). Dwi’n cyntuno beth mae Waite (2011) yn cynnig yma oherwydd nid yw pwrpas addysg yw i eistedd ar bwyd ddesg gyda pen yn ysgifennu trwy’r dydd. Mae angen dysgu gyda emosiwn. Yn ol Waite, Bolling a Benson (2015) mae yna pedwar prif nod i ysgol goedwig, 1. iechyd corfforol, 2. Datblygiad hunan-hyder ac hunan-barch, 3. Ymddygiad, cymdeithasol, emosiynol a lles ac 4. Ymwybyddiaeth a pharch tuag at natur a’r amgylchedd (Waite, Bolling a Bensen, 2015).

I ychwanegu, nid yn unig ydy dysgu yn yr awyr agored yn gallu cael effaith ar dysgu a phrofiad. Roedd 85% o athrawon yn credu bod dysgu yn yr awyr agored yn cael effaith positif ar ymyddygiad. Dywedodd  72% o disgyblion eu bod yn gweithio’n dda gyda'u cyd-ddisgyblion, yn yr awyr agored (Smith, 2017). Cafodd y ymchwil yma ei cynnal gan Woodland Trust Nature gyda 8,500+ o athrawon dros 40,000 ysgolion gynradd ac uwchradd.  Yn amlwg mae angen bod yn critigol wrth ystyried y ddata yma, er hyn mae’r ymchwiliad yn arwyddocaol.

Felly i grynhoi, mae dysgu tu allan y dosbarth yn hynod o bwysig i addysg heddiw. Nid oes digon a pwyslais ac mae yna llawer o cyfleoedd mae’r awyr agored yn gallu cynnig i’r phlant. Cafodd ni darlith gan Emma, a wnaeth sefydlu Beach School Academy, roedd yn ddiddorol i weld ei waith ac sut mae hi’n cymryd disgyblion lawr i’r traeth ac cynnig gweithgareddau. Trwy wneud hyn mae yna nifer o fanteision:
  • ·         Chwarae – defnyddio eu dychymyg.
  • ·         Profiadau newydd
  • ·         Gweithgareddau corfforol (sydd yn gallu cyfeirio nol at un o pedwar pwrpas Donaldson (2015) o iechyd a lles)..
  • ·         Focysu mwy,
  • ·         Ymwybodol o’r amgylchedd a natur.
  • ·         Gweithio fel tim.
  • ·         Rhyddid.

Mae fantesion yma yn bwysig i phlant heddiw, ac felly dyma pam dwi’n credu dysgu yn yr awyr agored yw un o’r factorau pwrpas addysg.

Cyfeiriadau

Beetham, H. and Sharpe, R. (2007) Rethinking pedagogy for a digital age. New York, N.Y.: Routledge.
Dictionary - Google Search (2017). Available at: https://www.google.co.uk/search?site=async/dictw&q=Dictionary#dobs=pedagogy (Accessed: 27 November 2017).
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.
Smith, D. (2017) Why should teachers take the classroom outdoors?, Woodlandtrust.org.uk. Available at: https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2017/05/teachers-and-outdoor-classrooms/ (Accessed: 27 November 2017).
Waite, S. (2011) Children Learning Outside the Classroom. London: Sage
Waite, S., Bølling, M., & Bentsen, P. (2015). Comparing apples and pears?: a conceptual framework for understanding forms of outdoor learning through comparison of English Forest Schools and Danish udeskole. Environmental Education Research, 1-25.






Sut allai creadigrwydd effeithio ar addysg gynradd?


Yn ôl y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer y cyfnod sylfaen (2008), sy'n dair i saith oed, yng Nghymru, mae datblygiad creadigol yn un o'r saith prif faes dysgu. Mae'r rhain wedi'u nodi a'u disgrifio fel cwricwlwm priodol ar gyfer plant 3-7 oed. Dylai plant ddatblygu eu dychymyg a'u creadigrwydd yn barhaus ar draws y cwricwlwm. Gallai plant wneud hyn trwy ymgystylltu mewn gweithgaeddau creadigol, dychmygol ac mynegiant trwy celf, crefft, dylunio, cerddoriaeth, dawns ac symudiad (Welsh Assembly Goverment, 2008).

Trwy gydol y blog yma, dwi’n mynd  canolbwyntio ar sut gall creadigrwydd cael effaith ar addysg gynradd. I ddechrau, mae Donaldson (2015) yn cynnig chwe Meysydd dysgu a phrofiad yn ei adroddiad ‘Successful Futures’. Expressive Arts yw un ohonyn, dywedodd Donaldson (2015) ‘The expressive arts provide opportunities to explore thinking, refine, and communicate ideas, engaging thinking, imagination and senses creatively.’ Mae hyn yn cynnig bod Donaldson (2015) yn credu bod creadigrwydd yn gallu cael effaith positif ar phlant trwy datblygu sgiliau newydd. Dwi’n cyntuno gyda beth mae Donadlson (2015) yn ddewud oherwydd mae creadigrwydd o fewn y dosbarth yn gallu cynnig rhywbeth newydd i phlant. Nid yw phob plant yn gallu mynegi eu hunain yn academaidd. Felly, trwy rhoi siawns teg iddi nhw mae creadigwrydd yn gallu apelio I phlant gwanahol ac effallai annog nhw I ddysgu ac cyrraedd targedau, sydd yn rhoi llawer o straen ar phlant dyddiau yma. Yn ystod ein seminarau yn prifysgol Cardiff Metropolitan, cafodd ni siawns I fod yn creadigol trwy adiladu rafft gyda partneriaid. Rhaid I ni mynd lawr I’r coedwig I gasglu adnoddau ar gyfer y rafft, ac ei nod oedd I sicrhau fod ein rafft yn gallu arnofio ar y ddwr. Roedd yn gwahanol I weld roedd rafft grwpiau eraill yn gwahanol, felly mae uniglion gyda syniadau gwbl gwahanol. Roedd y tasg yma wedi ddysgu I mi sgiliau cynllunio, cyfathrebu, gweithio gyda eraill ac cyflwyno. Rwyf wedi atodi llun isod o'n rafft wedi'i gwblhau.


Yn dilyn ymlaen o'm pwynt am plant gwahanol yn dysgu trwy dull gwahanol, mae gwaith Gardner (1993, 1999) ar deallusaethau lluosog yn cynnig bod yna naw gwahanol fath o deallusrwydd; ‘it is the job of the teacher to notice what children are enthused by so that they can plan lessons to develop those interests’ (Gardner, 1993, 1999). Mae’r point yma yn diddorodol i mi, oherwydd ar un llaw mae’n cytuno gyda pwynt Donaldson (2015) on yn mynd yn bellach trwy ddewud dylai plant gael ffordd dysgu personol, sydd yn gallu bod o fudd iddyn nhw. Mae hyn yn gallu fod yn anodd wrth rheoli dosbarth o 30 o phlant sydd i gyd ar tasg gwahanol, ac yn gallu rhoi straen ar yr athrawes.

Nid oes gan creadigwrydd digon o pwyslais are y cwricilwim heddiw ac mae llawer o pobl yn trio pwysleisio pwysigrwydd creadiwgrydd ar phlant. Er hyn mae Slater (2014) yn adnabod y materion cyfredol ac yn codi cwetisynnau ynglyn a creadigrwydd. Mae Slater (2014) yn meddwl yn beirniadol. ‘Do schools which place an emphasis upon creativity achieve high standards? Is there evidence that a lack of creativity leads to low standard of attainment? Do children vary in their responses to creative approaches in the classroom?’ (Slater, 2014). Yn amlwg dyma cwestiynau hanfodol rydym angen ystyried. Er mwyn gallu cyflwyno creadigrwydd o fewn y dosbarth, mae rhaid gweld canlyniadau.

“teaching kids to read and write should be an artistic event. Instead, many teachers transform these experiences, into something without emotions, without invention, without creativity-but with repetition. Many teachers work bureaucratically when they should work artistically.“  (Freire, 1985, p.79). Mae’r pwynt yma, sydd yn cael ei codi gan Freire (1985) yn bwysig iawn. Trwy defnyddio profidadau o creadigrwydd mae hyn yn gallu cadw sylw y plant o fewn y dosbarth, neu hyd yn oed tu allan I’r dosbarth. Ni does angen i gweithgareddau creadigol digwydd o fewn y dosbarth, mae mynd tu allan yn gallu newid amgylchedd ac bod o fudd i’r phlant o bod gyda natur. Yn hytrach na eistedd ar bwys desg trwy’r dydd yn ysgrifennu, mae angen i’r phlant cael cyfle I gael profiadau newydd. Dylai ni ddim ailadrodd pob beth, mae hyn yn gallu fod yn diflas i’r phlant.

Felly i grynhoi, creadigwrydd yn gallu cael effaith positif ar addysg gynradd oherwydd mae’n arddangos sgiliau newydd, datblygiad ar fordd newydd o ddysgu i'r plant. Nid yn unig ydy hyn yn gallu bod o fudd i plant ond i athrawon hefyd oherwydd gall nhw datblygu ei wersi ac profi gwhanaol technegau a fydd yn gallu cael ei defnyddio phob dydd, a fydd y plant yn mwynhau ac dysgu ar yr un pryd.

 Cyfeiriadau
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.
Freire, P. (1985) The politics of education. South Hadley, Mass.: Bergin & Garvey.
Gardner, H. (1993) Creating minds. New York: BasicBooks.
Slater, A. (2014) Exploring issues in Education. In Cooper, H. eds. Professional Studies in Primary Education. 2nd ed. London: SAGE, pp. 327.
Welsh Assembly Government (2008) Foundation Phase: Framework for Children’s Learning for 3 to 7-year-olds in Wales. Cardiff: Welsh Assembly Government, pp. 39-41. Available at: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/130424-framework-for-childrens-learning-en.pdf (Accessed: 6 November 2017).