Monday 16 April 2018

Beth yw gwerth yr iaith Gymraeg o fewn Addysg Gynradd?


“Mai’r unig gyfrwng sy’n tyfu yn nhermau defnydd iaith ymhlith yr ifanc yng Nghymru yw’r system addysg cyfrwng Cymraeg” (Hodges, 2010, p.10).

Fel mae’r dyfyniad yn nodi, mae’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn dod yn fwy a fwy poblogaidd ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Gall hyn fod o ganlyniad i sawl elfen megis rhieni yn penderfynu ar addysg Gymraeg yn ifanc, plant yn ei harddegau yn mwynhau’r iaith ac yn penderfynu dysgu’n bellach, neu hyd yn oed y defnydd cyson o sefydliadau fel yr Urdd a’r Eisteddfod sy’n hynod o boblogaidd gyda phlant. Mae’n amlwg bod nifer o resymau cryf dros ddewis addysg Gymraeg yng Nghymru, gyda 98 y cant o blant yn dysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ne-ddwyrain Cymru (Hodges, 2010, p.10).

Yn ôl hanes, agorwyd yr ysgol gyntaf Cymraeg yn Aberystwyth ym 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards a oedd hefyd wedi sefydlu Urdd Gobaith Cymru ym 1922 (Crump, 2014). Gyda threftadaeth yn elfen holl bwysig i Gymru, mae sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cadw’n fyw yn hanfodol, a pa ffordd well i wneud hyn na trwy addysg. Trwy ddysgu a hybu'r iaith Gymraeg ymysg plant ac oedolion rydyn yn gallu sicrhau bod yr iaith yn goroesi.


wrth edrych ar yr iaith Gymraeg o fewn addysg, mae Donaldson (2015) yn nodi o fewn y pedwar pwrpas y cwricwlwm, dylai dysgwyr yn gallu cyfathrebu yn effeithiol o fewn ffurf a lleoliadau gwahanol yn defnyddio’r iaith Gymraeg a Saesneg. Yn ôl Hodges (2010) patrwm pendant sy’n codi gan rieni dros ddewis addysg Gymraeg oedd y manteision dwyieithog.

 “O’n i am iddyn nhw gael beth gollais i, y dywilliant, yr ymrwymiad, yr ymdeimlad o berthyn i gymuned Gymraeg glos…” (Hodges, 2010, p.21).

Mae’r manteision dwyieithog yn codi’n aml ymysg yr iaith Gymraeg a pham dyle plant cael ei addysgu trwyddi. A gyda’r pwyslais ar y cwricwlwm i baratoi plant ar gyfer y byd gwaith mawr, a’i harfogi gyda sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer y dyfodol, bydd y gallu o fod yn ddwyieithog o fudd mawr iddyn nhw. Mae Gov.Wales (2003) yn rhedeg y cynllun ‘Iaith Pawb’ sy’n hybu a chefnogi'r iaith Gymraeg ymysg siaradwyr Cymraeg a di-gymraeg yng Nghymru gyda’r gobaith o dangos y manteision o fod yn ddwyieithog ac i godi’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg.


Er bod gymaint yn nodi'r manteision o addysg gyfrwng Gymraeg, mae rhai yn uwcholeuo pryderon a all effeithio plant wrth iddynt fynd trwy addysg ddwyieithog. Mae Bialystok (2009) yn nodi bod plant dwyieithog gyda sgiliau cognitif fwy gwan na phlant sydd yn dysgu trwy un iaith yn unig. Er hyn nodwyd Bialystok (2009) hefyd bod plant dwyieithog gyda sgiliau cyfathrebu well, a gyda’r gallu i newid ieithoedd gyda hyder.

Mae hefyd pryderon dros niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn cwympo yn raddol, sy’n gwneud i drigolion cwestiynu'r penderfyniad o ddysgu’r iaith os yw ar fin marw mas (miller, 2012).



Mae sawl mantais a phryder yn codi wrth drafod addysg gyfrwng y Gymraeg ac addysg ddwyieithog, ond pa mor werthfawr yw’r iaith Gymraeg i addysg?

Er bod dysgu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn holl bwysig o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, nid dyna yw’r unig reswm dros ddewis a dysgu trwy’r Gymraeg. Gyda’r dathliadau Dydd gŵyl dewi, rygbi, cerddoriaeth a diwydiant Cymraeg o fewn ysgolion dros Gymru i gyd, yn amlwg mae’r iaith a diwydiant Cymraeg yn werthfawr iawn i addysg. Mae’r cwricwlwm Cymraeg yn sicrhau bod diwydiant yn cael ei ddysgu trwy gydol addysg a’i sicrhau bod teimlad o berthyn (Llywodraeth Cymru, 2003, p.4). “Pupils should be given opportunities, where appropriate, to develop and apply knowledge and understanding of the cultural, economic, environmental, historical and linguistic characteristics of Wales” (Llywodraeth Cymru, 2003, p.4).

Mae’r balchder o’r gallu i siarad Cymraeg yng Nghymru yn amlwg wrth ystyried y niferoedd sy’n dewis addysg Gymraeg i’w phlant a’r pwyslais ar ddiwydiant y wlad.

“You get a sense of being proud when you hear them speaking Welsh, you feel immensely proud that they can do it and I love to hear them speak it” (Hodges, 2010, p.20).

Mae’r iaith Gymraeg o werth enfawr i’r unigolion sy’n mynychu ysgolion Gymraeg a’i rhieni sy’n ei ddanfon. Ar y cyfan, dewis personol yw dewis addysg Gymraeg, ond wrth edrych ar yr ystadegau o rieni sy’n danfon plant i ysgolion Gymraeg, mae’n awgrymu bod y dewis cywir ydy.



Cyfeiriadau.

Bialystok, E (2009), The good, the bad and the indifferent. Bilingualism: Language and cognition. 12 (1), 3-11

Crump, E. (2014). First Welsh medium school celebrates 75th anniversary. Daily Post.


Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.

Gov.Wales (2003). Iaith Pawb - A National Action Plan for a Bilingual Wales. Wales: Llywodraeth Cymru, pp.1-9.


Hodges, R. (2010). Tua’r goleuni’: Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i’w plant yng Nghwm Rhymni. Gwerddon. 6 (3), 9-13

Llywodraeth Cymru (2003). y Cwricwlwm Cymraeg. Wales: Gov,Wales, pp.4-7.


Miller, C. (2012). Fall in Welsh speakers is 'crisis' for language, campaigners warn. Wales online. [online] Available at: https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/fall-welsh-speakers-crisis-language-2013532 [Accessed 14 Apr. 2018].

1 comment:

  1. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedwch am fwy o bobl ifanc sy'n mynychu ysgolion Cymraeg, gan fy mod wedi sylwi ar hyn. Rwy'n credu mai'r genhedlaeth iau yw'r dyfodol i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Dywedodd Davies (2013) ‘The future of Welsh and Welsh culture is wholly dependent on transmitting the language to our young people’. Yn ol Baker (1996) mae plant ifanc yn fwy alluog o codi iaith yn hawdd i gymharu a phlant yn ysgolion uwchradd. Yn dy farn dy, wyt yn cytuno gyda hyn? Mae’n bwysig i hybu rhieni i anfon ei phlant i ysgolion gymraeg. Wyt yn credu os fydd fwy o rhieni yn ddanfon ei blant i ysgolion Cymraeg, fydd hyn yn cynyddu werth yr iaith?

    Rydych hefyd yn sôn am rôl addysg a'r iaith Gymraeg, gan yr hyn a ddywed Donaldson. Rwy'n credu bod gan addysg rôl fawr i annog mwy o siaradwyr Cymraeg. Dywedodd Lewis (2015) bod gan yr system addysgu rôl hollbwysig i sicrhau dyfodol yr iaith. Wyt yn cytuno gyda hyn? Yn eich brofiad personol chi, wyt yn fwy tebygol o annog blant ifanc Yng Nghymru i mynegi ysgolion Cyrmraeg?

    Cyfeiriadau
    Baker, C. (1996) 2nd Edition Foundations of Bilingual Education and Bilingualism: London; Multilingual Matters.

    Davies, S. (2013) One language for all: Review of Welsh second language at Key Stages 3 and 4 – Report and recommendations Welsh Government. Available at: http://gov.wales/docs/dcells/publications/130926-review-of-welsh-second-lan-en.pdf

    Lewis, H. (2015) Welsh Second Language within our new curriculum. Wales: Welsh Government.

    ReplyDelete