Tuesday 17 April 2018

Sut y gall sesiynau celf mynegiannol ymwneud â phedwar pwrpas y cwricwlwm (Donadlson, 2015)?


Sut y gall sesiynau celf mynegiannol ymwneud â phedwar pwrpas y cwricwlwm (Donadlson, 2015)?


Mae yna gwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer lleoliadau ac ysgolion yng Nghymru. Bydd fersiwn derfynol ar gael ym mis Ionawr 2020, a bydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru erbyn 2022. Bydd yr ymagwedd gyfan ar ddatblygu pobl ifanc rhwng 3 a 16 oed yn newid. Bydd gan y cwricwlwm newydd fwy o bwyslais ar baratoi pobl ifanc am fywyd oes, trwy adeiladu eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a chymhwyso eu gwybodaeth bynciol yn fwy cadarnhaol a chreadigol. Wrth i’r byd newid, byddent yn fwy galluog i addasu’n gadarnhaol (Llywodraeth Cymru, 2018).


Pwrpas y cwriciwlwm newydd yw cefnogi plant a pobl ifanc i fod yn:
  •  Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i’w ddysgu trwy gydol eu bywydau
  • Cyfranogwyr creadigol, mentrus, yn barod i chwarae rhan mewn y byd gwaith
  • Moesegol, dinasyddion gwybodus Cymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

Bydd ganddo chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
  • ·         Celfyddau mynegiannol
  • ·         Iechyd a Lles
  • ·         Dyniaethau
  • ·         Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • ·         Mathemateg a Rhifedd
  • ·         Gwyddoniaeth a Thechnoleg


Beth yw Celfyddau Mynegiannol?
Mae gan ddamcaniaethwyr farn wahanol ar yr hyn sy’n ‘greadigrwydd’, ond mae’r rhan fwyaf yn cytuno ei fod yn cynnwys: Dychymyg, cynhyrchiant (y gallu i gynhyrchu amrywiaeth o syniadau gwahanol trwy feddwl gwahanol), gwreiddioldeb (y gallu i ddod o hyd i syniadau a chynhyrchion newydd ac anarferol), Datrys Problemau (Cymhwyso gwybodaeth a dychymyg i sefyllfa benodol), cynhyrchu canlyniad o werth (Sharp 2004, p.5). “Creativity as: imaginative activity fashioned so as to produce outcomes that are both original and of value” (NACCCE 1999, p.30).

Dywed Donaldson (2015) trwy Celfyddau Mynegiannol fydd athrawon yn gallu annog plant a phobl ifanc i ddatblygu eu gwerthfawrogiad a thalent greadigol. Mae celfyddau mynegiannol yn darparu cyfleoedd i archwilio meddwl, mireinio a chyfleu syniadau, denu eich meddwl, dychymyg a synhwyrau yn greadigol. Maent hefyd yn hyrwyddo archwilio materion hunaniaeth bersonol a diwylliannol.  Bydd Maes Dysgu a Phrofiad y celfyddydau Mynegiannol yn rhychwantu celf, drama, cerddoriaeth, dawns, ffilm a chyfryngau digidol, gan gynnwys agweddau creadigol ehangach megis byrfyfyr (Donaldson, 2015).

O fewn y adolygiad ‘Arts in Education in the Schools of Wales’ a a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Professor Dai Smith ‘It is clear…that countries across the world recognise the significance and potential of the arts in enabling improved educational, social and economic outcomes’ (Smith, 2013).

Mae Donaldson (2015) yn cynnig enghreifftiau ar sut mae profiadau plant a phobl ifanc o fewn celfyddau mynegiannol yn gallu cyfrannu i bob un o’r pedwar pwrpas y cwricwlwm.

Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
Mae celfyddau mynegiannol yn gallu annog dysgwyr uchelgeisiol a galluog trwy gyfathrebu yn effeithiol gydag eraill, datrys problemau personol a dangos mynegiant hunanol. Mae Donaldson (2015) yn ddweud bydd celfyddau mynegiannol yn annog plant i archwilio profiadau newydd a heriol ac i wella ei pherfformiad. Fydd dysgwyr yn fwy galluog o fod yn annibynnol ac archwilio syniadau newydd.

Cyfranogwyr creadigol, mentrus
Mae celfyddau mynegiannol yn gallu cysylltu ag cymhwyso eu gwybodaeth a sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion newydd a gwahanol. Fydd plant yn fwy hyderus o gymryd risg a ddim yn rhy ofnus o fynegi ei hunain yn greadigol. Trwy wneud hyn fydd plant a phobl ifanc yn gallu mynegi ei theimladau. Dywed Donaldson (2015) gan ddatblygu eu creadigrwydd mewn ffurfiau mynegiant, gan ddarparu cyd-destunau a heriau maent yn gallu cydweithio, trwy ddysgu o arfarniad critigol o’u gwaith.

Dinasyddion gwybodus, moesegol
Trwy celfyddau mynegiannol fydd gan blant a phobl ifanc llawer fwy o ryddid tra bod yn greadigol. Gallent ddefnyddio ei gwybodaeth a sgiliau maent wedi dysgu mewn i dasgau eraill. Dywed Donaldson (2015) fydd celfyddau mynegiannol yn eu galluogi i ddeall eu hunaniaeth ddiwylliannol a chymdeithasau o’u gwmpas, ac i archwilio materion cymhleth ac anodd.

Unigolion iach, hyderus
Mae creadigrwydd yn hynod o bwysig wrth ddelio gyda hyder, nid oed llawer o straen ar blant a phobl ifanc. Mae creadigrwydd yn gwbl bersonol a dim dyfarniad. Mae creadigrwydd yn rhoi cymorth i rai trwy adeiladu ei lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu ei hyder. Mae creadigrwydd yn rhoi hyder trwy annog plant i gymryd rhan mewn perfformiad. Dywed Donaldson (2015) fydd celfyddau mynegiannol yn helpu datblygu eu hyder wrth iddynt fwynhau mynegiant creadigol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at gyfoeth ansawdd eu bywydau.

Fe welwn i ba mor bwysig yw creadigrwydd o fewn dysgu ac y cwricwlwm. O fewn grwpiau cawson y cyfle i ddysgu grŵp o blant ysgol gynradd am yr spring equinox. Roedd rhaid i ni greu gweithgaredd a benderfynodd ni fod yn greadigol gan greu poster, gan ddefnyddio deunyddiau gwahanol. Roedd rhaid i’r plant gweithio fel tîm i greu poster perthnasol i’r pwnc. Gwelais roedd phob plentyn wedi cymryd rhan yn y dasg yma, trwy a chael rôl benodol yn y grŵp. Roedd rhaid i’r plant cyflwyno ei phoster i weddill y grŵp gan esbonio beth aethant nhw wneud. Trwy gydol y sesiwn fe welais pa mor hyderus roedd y plant ar y diwedd ac yn amlwg wedi dysgu rhywbeth newydd a chael profiad newydd, sydd yn beth cadarnhaol i blant. Felly, rwy’n gallu gweld pam mae celfyddau mynegiannol yn un o’r chwe maes ac yn cyfrannu at bedwar pwrpas y cwricwlwm.



Cyfeiriadau

Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.

Llywodraeth Cymru (2018) New school curriculum. Available at: http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/curriculum-for-wales-curriculum-for-life/?lang=en. [Accessed: 5 April 2018].

N.A.C.C.C.E. (1999)  All our futures: creativity, culture and education. London: DfEE

Sharp, C. (2004) Developing young children’s creativity: what can we learn from research? Topic (32) pp.5-12

Smith, D (2013) An independent report for the Welsh Government into Arts in Education in the Schools of Wales Arts Council of Wales





2 comments:

  1. Rydw i'n cytuno gyda thi bod Celfyddydau Mynegiannol yn dechrau dod yn fwy poblogaidd o fewn addysg.
    Rydyn yn gweld erbyn hyn bod ysgolion yn cynnal niferoedd o gynyrchiadau cerddorol, dramatig a chelf.
    O brofiad personol, mwynheais i gymryd rhan mewn cynyrchiadau yn yr ysgol ac rydw i'n teimlo bod hyn wedi codi fy hyder a sbarduno diddordeb personol yn y maes yma.

    A oeddet ti gyda phrofiad o hyn yn yr ysgol? sut oedd y gwersi yma'n gwneud i ti teimlo?

    Mae Rinkevich (2011) yn nodi bod gwersi celfyddydau mynegiannol yn gallu gwella sawl sgil personol y disgyblion a gwella perfformiad academaidd. nododd hefyd bod yn gwella lefel sylw'r plant.

    Wrth gynnal y sesiwn Spring Eqinox fel trafodwyd yn y blog, oeddet ti'n sylwi bod y plant yn gwrando'n well? Os felly, oedd hyn o ganlyniad i'r sesiwn neu elfennau arall? Beth yw dy farn di wrth ddysgu sesiynau Celfyddydau mynegiannol?

    Rinkevich, J. (2011). Creative Teaching: Why it Matters and Where to Begin. The Clearing House: A Journal of Educational Strategies, Issues and Ideas, 84(5), pp.219-223.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Rwy'n cofio gwneud llawer o weithgareddau celf mynegiannol, yn enwedig yn yr ysgol gynradd. Byddem yn dysgu sgiliau newydd fel gwnïo, rwy'n mwynhau'r gwersi hyn yn fawr iawn. un tro, cawsom ni mewn grwpiau a bu'n rhaid i ni greu tirnodau o Gaerdydd gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau. Cefais y cyfle i wneud stadiwm y mileniwm, roedd hyn yn llawer o hwyl.

      Roedd y wers Spring Equinox yn ddiddorol iawn ac yn brofiad newydd i mi. Rwy'n credu roedd y plant yn gwrando'n dd ac yn mynd ymlaen â'r gweithgareddau a ddywedom nhw i wneud. Roedd ein gweithgareddau'n greadigol iawn ac roedd hynny'n ffactor pwysig oherwydd nad oedd y plant mewn ystafell ddosbarth yn ysgrifennu drwy'r dydd. Fodd bynnag, gallai eu bod yn yr awyr agored ac mewn amgylchedd newydd . Rwy'n credu bod ymgorffori celfyddydau mynegiannol yn ein sesiwn wedi gwneud y plant i gofio'r hyn a ddysgwyd, gan eu bod yn disgrifio eu posteri i weddill y grŵp.

      Delete