Monday 16 April 2018

Gwerth yr Iaith Gymraeg


Beth yw gwerth yr iaith Gymraeg mewn addysg gynradd?

Yn ôl Lewis (2015) mae gan y system addysg rôl hollbwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae’r llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i weld y sector addysg cyfrwng Cymraeg i dyfu fel sydd yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, maent yn cydnabod bod hefyd angen gafael ag eang o heriau sylweddol wrth addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru. Mae gormod o bobl ifanc yn gadael ysgol heb y sgiliau Cymraeg effeithiol y mae eu hangen arnynt ar gyfer y byd gwaith, bywyd ac astudio, er gwaethaf astudio Cymraeg fel ail iaith ers blynyddoedd (Lewis , 2015). Felly, mae angen fwy o werth ar yr iaith Gymraeg mewn addysg yn gyffredinol.

Er bod llawer o athrawon yn gweithio yn y maes, mae adroddiadau Estyn yn dangos bod y safon gyffredinol wedi gostwng bob blwyddyn. Mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall (Davies, 2013). Mae Davies (2013) yn ddweud os fydd hyn yn cael ei ddweud am Fathemateg neu Saesneg, byddai chwyldro yn sicr o ddigwydd. Ond derbyniwyd cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith fel y ‘norm’. Dywed Davies (2013) fod dysgu’r iaith yn ‘… a very tedious experience’ ar gyfer nifer fawr o bobl ifanc ac nad ydynt yn ystyried y pwnc yn berthnasol nac o unrhyw werth iddyn nhw. Mae mwy afrif o blant a phobl ifanc yn teimlo bod y ddarpariaeth gyfredol ar gyfer dysgu Cymraeg yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 yn eu galluogi i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i wersi Cymraeg ac yn sicr nid y tu allan i’r ysgol. Soniwyd Davies (2013) os ydym yn ddifrifol am ddatblygu siaradwyr Cymraeg, ac am weld yr iaith Gymraeg i ffynnu, mae angen newid cyfeiriad yn frys cyn iddo fod yn rhy hwyr.

Mae’r adolygiad wedi derbyn yr achos i gadw’r iaith Gymraeg fel rhan orfodol o’r cwricwlwm ysgol 3-16, ond mae’n amlwg bod materion o safon yn cael sylw os yw plant a phobl ifanc yn cytuno i dderbyn yn llawn (Davies, 2013). Ar gyfer y dyfodol, yn ei rhagair i ei adroddiad, dywed Davies (2013) ‘The future of Welsh and Welsh culture is wholly dependent on transmitting the language to our young people’. Mae hyn yn gwbl wir ac yn cytuno beth mae Davies yn ddweud.

Yn dilyn deddf Diwygio Addysg 1988, daeth y Gymraeg yn orfodol ar gyfer pob disgybl yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a 3 yn 1990. O fis Medi 1999, estynnwyd gorfodaeth i gyfnod allweddol 4. Mae maes dysgu o ddatblygu’r iaith Gymraeg yn y cyfnod sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed hefyd yn golygu bod plant mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg ac ysgolion yn dechrau dysgu’r iaith Gymraeg o dair oed (Donaldson, 2015). Yn ôl Donaldson (2015) yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad i ddatblygu Cymru fel cenedl ddwyieithog trwy ei Strategaeth iaith Gymraeg.

Rwyf wedi sylweddoli yn fwy diweddar, tra roeddwn ar leoliad ysgol gynradd, bod yr iaith Gymraeg yn cael ei intergreddio mewn i’r dosbarthiadau megis yr arwyddion ar y waliau. Roedd geiriau syml fel misoedd y flwyddyn wedi cael ei rhoi ar y wal heb y geiriau Saesneg, hyd yn oed roeddwn yn ysgol Saesneg. Felly, welwn i werth yr iaith Gymraeg tra roeddwn i ar leoliad.

 “ a child who hears one language for half an hour a day, particularly at the end of a day when he or she is tired, is unlikely to grow competent in that language. When a child is deliberately exposed to an ever increasing variety of language in different contexts… a realistic chance of bilingualism exists.” (Baker, 1996). Yn ôl Baker (1996) mae plant ifanc yn gallu codi iaith mor hawdd, trwy chwarae a sefyllfaoedd concrit heb ymdrech i gymharu â dosbarthiadau ysgolion uwchradd.

“With young children in the primary school language is acquired informally, unconsciously, almost accidentally…incidentally, rather than being learned.”(Baker 1996). Mae Cynllun Colegau Cymraeg (2003) yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio ‘Incidental Welsh’ o fewn y dosbarth. Maent yn ddweud dylid defnyddio’r Gymraeg fel rhan annatod o weithgareddau’r dosbarth, gan sicrhau pwrpas a chyd-destun ar gyfer dysgu’r iaith. Gallant wneud hyn trwy:

  • ·         Defnyddio’r iaith Gymraeg ar gyfer y drefn ddyddiol – cofrestru/ trosglwyddo gweithgaredd / amser cinio
  • ·         Rhoi cyfarwyddiadau a gorchmynion yn Gymraeg megis Eisteddwch! Gorffennwch yn 5 munud! Dim siarad! Sefwch mewn llinell syth! Cerddwch i'r dosbarth!
  • ·         Defnyddio’r iaith i ganmol megis Da iawn, ti. Gwaith bendigedig. Rwyt ti'n gweithio'n galed. Dyna ateb da.
  • ·         Defnyddio'r Gymraeg i annog e.e. Dere mlaen / dewch ymlaen.
  • ·         Defnyddio'r Gymraeg wrth gylchdroi o amgylch yr ystafell ddosbarth a gofyn: Wyt ti'n iawn? Wyt ti wedi gorffen? Wyt ti eisiau help? Gaf i helpu? Beth sy'n bod?
  • ·         Arddangos Cymraeg ar waliau'r ystafell ddosbarth.
  • ·         Annog y disgyblion i siarad Cymraeg gyda nhw.

(Cynllun Coleg Cymraeg, 2003)

Felly, gallwn weld bod gwerth yr iaith Gymraeg yn gwbl bwysig heddiw gan roi cymorth i gael swyddi ac y sgil o ddysgu dwy iaith. Wrth siarad Cymraeg rydych yn fwy tebygol o gymdeithasu yn y Gymraeg gan fynegi Eisteddfod, Tafwyl neu Faes B, felly mae yna nifer o gyfleoedd trwy'r iaith Gymraeg.  Mae yna lawer o fanteision o fod yn ddwyieithog, ac rydw i wedi profi hyn yn uniongyrchol oherwydd fy mod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae wedi fy ngalluogi i mi a rhoi'r cyfle i mi wneud fy ngradd prifysgol trwy'r Gymraeg. Felly, mae yna bwyslais mawr i gynyddu gwerth yr iaith Cymraeg.





Cyfeiriadau

Baker, C. (1996) 2nd Edition  Foundations of Bilingual Education and Bilingualism: London; Multilingual Matters


Davies, S. (2013) One language for all: Review of Welsh second language at Key Stages 3 and 4 – Report and recommendations Welsh Government. Available at: 

Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.

Lewis, H. (2015) Welsh Second Language within our new curriculum. Wales: Welsh Government.


No comments:

Post a Comment