Monday 16 April 2018

Sut y gellir defnyddio addysg gorfforol i hyrwyddo lles mewn addysg gynradd?


Sut y gellir defnyddio addysg gorfforol i hyrwyddo lles mewn addysg gynradd?

‘Physical education (PE) is part of every child’s entitlement to a good education.’ Mae addysg gorfforol yn unigryw trwy gael ei addysgu mewn gwersi ymarferol wythnosol tu fewn a’r tu allan, mewn amrywiaeth eang o leoliadau corfforol, creadigol ac esthetig. Mae’n darparu disgyblion gyda sgiliau generig, y wybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn llythrennol yn gorfforol, ac ar yr un pryd, rhoddir mwy afrif ohonynt eu profiadau rheolaidd cyntaf o chwaraeon. Pan gaiff ei addysgu’n dda, mae addysg gorfforol yn ysbrydoli disgyblion i gymryd rhan a datblygu cariad o weithgaredd corfforol, chwaraeon ac ymarfer corff (Ofsted, 2013).

Cyhoeddodd Ofsted eu hadroddiad ‘Beyond 2012 – outstanding physical education for all’ yn 2013 a oedd yn cydnabod y gwelliannau a wneir i addysgu corfforol a chwaraeon ysgol dros bedwar flwyddyn, sef 2008-2012. Fodd bynnag, canfed arolygwyr, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol yn ystod llawer o’r amser hwn, nad oes gan holl ddisgyblion addysg gorfforol dda. Dywedodd Ofsted (2013) mewn rhai ysgolion ‘there is not enough physical education in PE’. Mewn ysgolion eraill, ni addysgir addysg gorfforol mewn digon o ddyfnder ac mae yna ddim ond mynediad cyfyngedig i safon uchel o chwaraeon cystadleuol. Mae angen wella addysg gorfforol bellach mewn tua thraean o’r ysgolion cynradd (Ofted, 2013).

Mae addysg gorfforol yn rhan fawr o hybu iechyd a lles i blant yn ysgolion cynradd. Yn ôl Llywodraeth Cymru (2008) dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr hybu eu hiechyd a lles emosiynol a datblygiad moesol ac ysbrydol; i ddod yn ddinasyddion gweithgar a hyrwyddo datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; ac i baratoi ar gyfer dysgu gydol oes. Mae addysg gorfforol yn cyfrannu at addysg bersonol a chymdeithasol trwy flaenoriaethu gweithgareddau sy’n cyfrannu at iechyd, ffitrwydd a lles trwy gydol bywyd. Mae mabwysiadu rolau gwahanol mewn gweithgareddau fel perfformiwr, arweinydd a swyddogol, yn cyfrannu’n sylweddol at heriau dinasyddiaeth weithredol a datblygiad moesol. Mae gweithio’n agos gydag eraill mewn gweithgareddau cydweithredol a chystadleuol yn datblygu perthnasoedd effeithiol a hunan-sicrwydd, wrth ymdopi a phwysau dylanwadol cynyddol gan gyfoedion (LLywodraeth Cymru, 2008).

Ddylai disgyblion datblygu ei sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg gorfforol trwy bob un o’r pedwar maes profiad sef gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a lles, gweithgareddau creadigol, gweithgareddau anturus a gweithgareddau cystadleuol. O fewn sgiliau gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a lles ar gyfer plant cyfnod allweddol 2, dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion i:
  •  Cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn rheolaidd sy’n fuddiol i’w iechyd, eu ffitrwydd a lles.
  •  Cynllunio gweithgareddau corfforol dyddiol trwy gyfleodd yn yr ysgol, yn y cartref ac yn y gymuned.
  • Nodi sut i fwyta ac yfed yn iach er mwyn cwrdd â gofynion egnïol gweithgareddau gwahanol.
  • Darganfod sut mae ymarfer corff yn effeithio ar y corff.
  • Cynnal gweithgarwch dros gyfnodau priodol o amser mewn ystod o wahanol weithgareddau, megis cerdded ber, rhedeg hirach, beicio neu nofio, dawns fer, ac ati.  

(Llywodraeth Cymru, 2008)

Mae Donaldson (2015) yn sôn am bwysigrwydd Iechyd a Lles yn ei adroddiad yn esbonio fel un o’r chwe maes dysgu. Dywedodd Donaldson (2015) ddylai plant a phobl ifanc cael angen derbyn profiad cymdeithasol, emosiynol a lles corfforol er mwyn gallu ffynnu ac ymgysylltu’n llwyddiannus a’u haddysg. Fydd y maes yma rhoi cymorth i blant i adeiladu'r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a fydd yn galluogi nhw i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a briodol, delio a’r materion anodd a’r penderfyniadau y byddant yn eu hwynebu a dysgu er mwyn fyw yn annibynnol. Mae Donaldson (2015) yn esbonio ei pedawr pwrpas yr cwricwlwm gan ddweud fydd pob plentyn a pobl ifanc bod yn unigolion iach, hyderus sy’n cyferio at addysg gorfforol a lles plant. Fyddent yn:
  •  Cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol  
  • Adeiladu eu lles meddylion ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi.
  • Cymhwyso gwybodaeth am effaith diet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn ei bywydau bob dydd.
  • Yn gwybod sut i ddod o hyd i’ wybodaeth a’r gefnogaeth i gadw’n ddiogel ac yn iach.
  • Cael yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiad.

(Donaldson, 2015)

Mae un mewn tri phlentyn yn gadael ysgol gynradd yn ordew neu dros bwysau, a dim ond un o bob pump sy’n bodloni’r canllawiau lleiaf a argymhellir ar gyfer gweithgaredd corfforol (Marsh, 2015). Mae manteision ymarfer corff wedi’u dogfennu’n dda – nid yn unig ar gyfer iechyd corfforol y myfyrwyr ond hefyd eu lles a’u perfformiad academaidd. Mae hyd yn oed awgrymiadau y dylai addysg gorfforol derbyn yr un statws a mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth er mwyn afael a gordewdra. Galwodd grŵp a gadeiri gan paralaympaidd medal aur, y Farwnes Tanni Gray-Thompson, am Gymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i gymryd y cam hwnnw (Marsh, 2015).

Mae nifer o ysgolion yn arbrofi gyda gwahanol strategaethau. Un strategaeth a gwelwyd i fod yn llwyddiannus yw ‘The Daily Mile’. Cafodd yr ‘Daily Mile’ ei lansio yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2017 yn ysgol gynradd yng Nghaerffili. Mae’r fenter yn weld plant oedran cynradd yn rhedeg, cerdded neu jog am 15 munud bod dydd yn yr ysgol.  Mae’n gynhwysol, yn syml ac yn rhad ac am ddim, heb unrhyw offer i sefydlu. Dywedodd Y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans “The Daily Mile is an easy and fun way for children to improve their health and wellbeing. It is a fantastic way to support young people to get the recommended amount of physical activity each day,and will help them grow up healthier and happier” (Llwyodraeth Cymru, 2017).

Image result for the daily mile
Dwi wedi cynnwys fideo sydd yn dangos beth yw’r Daily Mile.


Felly, mae’n amlwg i weld mae addysg gorfforol yn pwysig iawn er mwyn hyrwyddo lles plant. Gan wneud ymarfer corff mae hyn yn galluogi plant i adeiladu eu hyder a chymryd rhan mewn gweithio gyda eraill ac ffordd dda o datblygu sgiliau newydd.

Cyfeiriadau

 
 
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.

Llywodraeth Cymru (2008) Physical education in the National Curriculum for Wales. Available at: https://www.gov.uk/government/publications/beyond-2012-outstanding-physical-education-for-all. [Accessed: 1 April 2018].

Llywodraeth Cymru (2017) ‘The Daily Mile’ officially launched in Wales. Available at: http://gov.wales/newsroom/health-and-social-services/2017/170330launch/?lang=en [Accessed: 1 April 2018].

Marsh, S. (2015) "How can PE and sport improve student health and wellbeing? – live chat", The Guardian. Available at: https://www.theguardian.com/teacher-network/2015/feb/06/pe-and-sport-student-health-wellbeing (Accessed: 1 April 2018).

Ofsted (2013) Beyond 2012 – outstanding physical education for all. Available at: https://www.gov.uk/government/publications/beyond-2012-outstanding-physical-education-for-all. [Accessed: 1 April 2018].

The Daily Mile (2016) The Daily Mile National Launch Video. March 18, 2016 [Online Video]. Available at: https://www.youtube.com/watch?v=4xynYg86oRQ  [Accessed: 1 April 2018].










3 comments:

  1. I have learnt a lot whilst reading your blog Jess, you have some fantastic points. The prevelance example you have stated that one in three children leave primary school obese or overweight is a massive cause for concern for children. (Goisis, 2016) state that at the age of five the poorest 20 per cent of children are nearly twice as likely to be obese as the richest, and by the time they are 11 they are almost three times as likely”. This could be because in general healthier food is more expensive, and poorer families may not have enough money to send there children to clubs such as football etc that cost extra money.


    The strategy that you have stated as an approach to promote physical education “the daily mile” I completely agree with you, that this is an excellent approach used to encourage physical education and the children in the video seem to enjoy this approach. I think this is an excellent approach as the children have the option to either run or walk, I think this is importance as some children may feel unfit to run for a whole mile, but knowing they have the option will make them feel more relaxed, and provide these children with an opportunity to improve.

    References

    Goisis, A, Sacker, A, and Kelly, Y (2016). ‘Why are poorer children at higher risk of obesity and overweight? A UK cohort study’, Eur J Public Health. 26(1): 7–13.

    ReplyDelete
    Replies
    1. I like the comment you made regarding that children who come from low economic families do not have the opportunities to join clubs because they cost extra money. That's why i believe the introduction of 'The Daily Mile' can benefit everyone and their well-being without needing funding. As Rebecca Evans says, which i have mentioned in my blog, it can make children grow happier and healthier. Not only for their well-being but also their physical and mental health.

      Delete
  2. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete