Monday, 16 April 2018

Sut all sessiynnau Celfyddydau Mynegiannol perthnasu gyda'r pedwar pwrpas y cwricwlwm? (Donaldson, 2015)



Mae celfyddydau mynegiannol yn boblogaidd ymysg pobl ifanc, ond yn ddiweddaraf, mae pwyslais fwy ar hybu hyn o fewn ysgolion ac o fewn y cwricwlwm. Mae celfyddydau mynegiannol yn gallu ymddangos fel pwnc newydd i rai athrawon, gan fod fel arfer mae mwy o ffocws yn cael ei rhoi ar bynciau academaidd megis iaith, rhifedd a thechnoleg. Ond mae’r cwricwlwm wrthi’n newid, ac mae Donaldson (2015) yn nodi pedwar pwrpas hollol newydd, sydd am drawsnewid y cwricwlwm a sut mae athrawon yn dysgu.

Ond i ddechrau, beth yw Celfyddydau Mynegiannol?

 “Expressive Arts is the practice of using imagery, storytelling, dance, music, drama, poetry, movement, dreamwork, and visual arts together, in an integrated way, to foster human growth, development, and healing. It is about reclaiming our innate capacity as human beings for the creative expression of our individual and collective human experience in artistic form” (Snyder, 2018).

Yn ôl Scottish Government (2018) rhai o’r deiliannau dysgu o ddefnyddio Celfyddydau mynegiannol yw bod plant yn gallu adnabod cryfderau a doniau, datblygu sgiliau personol, codi hyder a chreu partneriaeth. Hefyd yn ôl Mitchell (2012), mae Celfyddydau mynegiannol yn gallu gwella iechyd a lles pobl ifanc, trwy helpu cael gwared â straen, pryder ac fel dull ymdopi.


Wrth edrych ar gwricwlwm Donaldson (2015) a’r hyn o fewn diwygiad y cwricwlwm, mae Donaldson yn obeithiol o wella sawl elfen o fewn y cwricwlwm presennol, gyda phedwar pwrpas a chwe maes dysgu newydd mae’n yn awyddus i wella addysg i blant heddiw a’r dyfodol.

Wrth edrych ar bedwar pwrpas y cwricwlwm nodwyd gan Donaldson (2015):



·         Dylai dysgwyr fod yn:Dysgwyr galluog ac uchelgeisiol.

·         Unigolion hyderus a iachus.

·         Dinasyddion gwybodus a foesegol.

·         Cyfranwyr creadigol a fentrus.



Mae Donaldson (2015) yn nodi celfyddydau mynegiannol fel un o’r chwe maes dysgu newydd felly yn amlwg mae yna fanteision i blant ifanc wrth ddysgu trwy gelfyddydau mynegiannol. Wrth gyfeirio at y pedwar pwrpas y cwricwlwm, mae’r cwestiwn o sut mae celfyddydau mynegiannol yn perthnasu i bob un?


Dysgwyr galluog ac uchelgeisiol.


Gall celfyddydau mynegiannol annog plant i fod yn fwy uchelgeisiol a galluog trwy berfformio a mynegi eu hun mewn ffurf wahanol a chreadigol. Mae Donaldson (2015) yn nodi bod celfyddydau mynegiannol yn ei hannog nhw i ymchwilio meysydd newydd sy’n heriol ac yn gwneud iddynt ymdrechu i wella perfformiad personol. Hefyd yn ôl Scottish Government (2010) trwy ddysgu celfyddydau mynegiannol mae’n gallu ysbrydoli’r dysgwyr ac i anelu yn uchel wrth gyflawni tasgau a phrosiectau.

Unigolion hyderus a iachus.

Yn ôl Mitchell (2012), mae celfyddydau Mynegiannol yn gallu helpu unigolion wrth deimlo’n hyderus i siarad am faterion personol, pryderon neu roi hyder i siarad yn gyhoeddus. Mae hefyd yn nodi bod celfyddydau mynegiannol yn gallu gwella cyflwr meddyliol unigolion trwy gael gwared â straen, neu hyd yn oed helpu i ymlacio. Mae Donaldson (2015) yn trafod sut mae trwy fod yn greadigol a mynegi ei hun mae plant yn dod yn fwy hyderus a derbyn boddhad personol.

Dinasyddion gwybodus a foesegol.

Er nad yw celfyddydau mynegiannol yn cael ei hyrwyddo fel pwnc sy’n dysgu am faterion moesegol a’r byd o’n cwmpas, mae dysgwyr gyda’r cyfle i ddysgu am bynciau gwahanol wrth ymchwilio ar gyfer projectau newydd a ddiddorol. Mae Donaldson (2015) yn cyfrannu bod cyfle iddynt ddysgu am gymdeithasau gwahanol, ac ymchwilio materion cymhleth a wahanol. Yn ôl Hetland (2013) trwy fod yn greadigol mae’r plant yn dysgu sut i greu atebion arloesol i heriau'r dyfodol.

Cyfranwyr creadigol a fentrus.

mae sicrhau bod cyfle i blant fod yn greadigol yn holl bwysig er mwyn iddynt fagu sgiliau personol a fydd yn buddio nhw yn y dyfodol. Mae Donaldson (2015) yn nodi trwy hyn mae plant gyda’r cyfle i gydweithio i gwblhau heriau, a datblygu a mynegi creadigrwydd mewn sawl ffurf wahanol. Yn ol Rinkevich (2011) “In addition to a difference in types of creativity, it was indicated that everyday creativity related to personal growth and more improved problem-solving skills, undoubtedly two goals of any educational setting” (Rinkevich,2011, p.221).

yn ogystal â beth mae’r gweithwyr proffesiynol yn ei ddweud, o brofiad personol o helpu disgyblion yn ystod eisteddfeydd a chynyrchiadau, rwyf wedi gweld faint mae plant yn mwynhau cymryd rhan. Mae’n bwysig iawn bod cyfle i blant mwynhau'r hyn maen nhw’n dysgu fel yr ydynt trwy gelfyddydau mynegiannol.





Cyfeiriadau.



Dorn, C., Sabol, R. and Madeja, S. (2003). Assessing Expressive Learning. 1st ed. New york: Routledge.


Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.

Hetland, L. (2013). Studio thinking 2. 2nd ed. New York: Teachers college press.

Mitchell, D. (2012). The Benefits of Expressive Arts Therapy. [online] GoodTherapy. Available at: https://www.goodtherapy.org/blog/expressive-arts-therapy-benefits-0118124/ [Accessed 14 Apr. 2018].


Pavlicevic, M. (1999). Book Review: Foundations of Expressive Arts Therapy: Theoretical and Clinical Perspectives Foundations of Expressive Arts Therapy: Theoretical and Clinical Perspectives. British Journal of Music Therapy, 13(2), pp.83-84.


Rinkevich, J. (2011). Creative Teaching: Why it Matters and Where to Begin. The Clearing House: A Journal of Educational Strategies, Issues and Ideas, 84(5), pp.219-223.

Scottish Government (2010). Curriculum for excellence: expressive arts. Scotland: Education.gov.scot, pp.1-12.


Snyder, M. (2018). Expressive arts therepy. [online] Expressivearts. Available at: https://expressivearts.appstate.edu/ [Accessed 14 Apr. 2018].

2 comments:

  1. Rwy'n cytuno â chi fod y celfyddydau creadigol yn fuddiol iawn ar gyfer datblygiad plentyn, hyder a chyflawniad cyffredinol yn yr ysgol. Tyfais i lan gyda'r theatr, eisteddfodau a gwersi cerddoriaeth a chredaf ei fod wedi fy helpu i ffynnu ac wedi dod i mi lle rydw i heddiw.

    Fodd bynnag, mae llawer o bobl sy'n credu y gall y celfyddydau gael effaith negyddol ar y bobl sy ddim gyda diddordeb yn y pwnc. Mae Schonmann (2006) yn esbonio y dylai'r pwnc fod yn ddewis, oherwydd i'r plant sy ddim yn hyderus neu ddim a diddordeb, mae mynd lan ar lwyfan a pherfformio yn gallu rhoi embaras iddyn nhw ac o ganlyniad, lleihau eu hyder. Felly, mae'n cael yr effaith gyferbyn.

    Ydych chi'n cytuno gyda hwn? Ydych wedi cael unrhyw brofiad gyda phlentyn sy ddim eisiau perfformio neu'n rhy ofn? Pa effaith cafodd hwn ar y plentyn?

    Cyfeiriadau

    Schonmann, S. (2006). Theatre as a medium for children and young people. Dordrecht, Netherlands: Springer.

    ReplyDelete
  2. Ydw, rydw i'n cytuno bod dim diddordeb gan rhai plant yn y pwnc yna, er hyn, un o brif bwrpasau'r pwnc yw ceisio codi hyder y disgyblion, ac er bod rhai yn swil a gyda dim diddordeb, gall hyn fod oherwydd does dim cyfle wedi bod iddyn nhw gymryd rhan. mae'r sesiynau fel yma yn gyfle i'r plant swil goresgyn y pryderon.
    O brofiad personol o fod ar brofiad gwaith a mynychu ysgol lwyfan yn ifanc, rydw i wedi arsylwi ar blant swil sy'n gydag ofn, ond rhan fwyaf o'r amser mae'r plant yn dod yn fwy hyderus dros fwy o sesiynau ac erbyn y diwedd yn teimlo'n well dros y pwnc.
    mae Donaldson (2015) yn amlwg yn teimlo bod celfyddydau mynegiannol gyda mwy o fanteision nag anfanteision i'r disgyblion gan ei bod wedi nodi fel un o'r chwe maes dysgu a fydd yn buddio'r plant.
    Ar y cyfan rydw i'n cytuno a Donaldson, ac yn teimlo bod y manteision celfyddydau mynegiannol yn drech na'r anfanteision.

    Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.

    ReplyDelete