Sunday 15 April 2018

Iechyd a Lles

Sut y gellir defnyddio addysg gorfforol i hyrwyddo iechyd a lles mewn addysg gynradd?

Addysg Gorfforol yw "addysgu trwy symudiad corfforol”. Nod addysg gorfforol yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru yw datblygu cymhwysedd a gwybodaeth gorfforol myfyrwyr o symud a diogelwch, a'u gallu i ddefnyddio'r rhain i berfformio mewn ystod eang o weithgareddau sy'n gysylltiedig â datblygu ffordd o fyw iach ac egnïol (GOV, 2018). Mae hefyd yn datblygu hyder a sgiliau generig myfyrwyr, yn enwedig y rhai o gydweithio, cyfathrebu, creadigrwydd, meddwl beirniadol a gwerthfawrogi esthetig (Marsh, 2018).

Mae dysgu addysg gorfforol o oedran ifanc yn dod gyda digonedd o fanteision i iechyd, gan gynnwys iechyd corfforol, meddwl a lles. Dywed arbrofion bod pobl sy’ ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corffol gyda hyd at 50% mwy o siawns o ddatblygu'r prif glefydau cronig megis clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes a rhai canserau a hefyd risg gynyddol o 30% o farwolaeth gynamserol. Felly yn amlwg, fe fydd addysgu plant yn yr ysgol gynradd am beryglon peidio cadw’n heini yn ysbrydoli nhw i fyw bywyd iach yn y dyfodol (MIND, 2016).

Wrth ddysgu addysg gorfforol i blant ifanc, maent yn datblygu sgiliau modur sylfaenol sy'n eu galluogi i ddatblygu'r cymhwysedd sy'n creu hyder, sydd wedyn yn arwain at gyfranogiad diogel a llwyddiannus mewn ystod eang o chwaraeon (Goff, 2017). Trwy blant yn chwarae chwaraeon, maent yn hyrwyddo cyfleoedd i blant fod yn greadigol, yn gydweithredol ac yn gystadleuol ac i wynebu heriau gwahanol fel unigolion ac mewn grwpiau. Mae llawer o weithgareddau a addysgir mewn addysg gorfforol yn gofyn i blant weithio mewn grwpiau i ddatrys problemau fel tîm (Michaels, 2010). Mae'r cyfleoedd hyn yn rhagorol ar gyfer datblygu sgiliau arwain a chydweithredu.

Mae 'ymarfer da' yn helpu i leddfu straen, tensiwn a phryder, felly os bydd plentyn yn cael addysg gorfforol yn ystod diwrnod ysgol, bydd hwn yn arwain at well sylw a canolbwyntiad yn yr ystafell dosbarth (Robinson, 2006).

Oherwydd y manteision amlwg sy’n dod trwy ddysgu addysg gorfforol yn ysgolion cynradd, mae awgrymiadau y dylai gael yr un statws â mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth er mwyn fynd i'r afael â gordewdra (Goff, 2017). Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gymryd y cam hwnnw, trwy fabwysiadu’r cwricwlwm newydd gan Graham Donaldson, sy’n cael ei esbonio yn ei adroddiad “Successful Futures” (GOV, 2018).

Un o Feysydd Dysgu a Phrofiadau Donaldson yw 'Iechyd a Lles’. Mae'n credu bod angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol i ffynnu ac ymgysylltu'n llwyddiannus â'u haddysg. Bydd y maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a lles yn eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a fydd yn eu galluogi i ddatblygu perthnasoedd positif a phriodol, delio â'r materion anodd a'r penderfyniadau y byddant yn eu hwynebu a dysgu byw yn annibynnol.

Un o bedwar pwrpasau’r cwricwlwm newydd yw creu unigolion iach, hyderus sy'n:
- adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi
- cymhwyso gwybodaeth am effaith diet ac ymarfer corff ar gorfforol ac iechyd meddwl yn eu bywydau bob dydd
- cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol
- meddu ar yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau
- wynebu a goresgyn her
(Donaldson, 2015)

Gall y sgiliau yma i gyd gael eu datblygu trwy gymryd rhan mewn addysg gorfforol. Mae ein
iechyd corfforol ac iechyd meddyliol wedi'u cysylltu'n agos - felly gall gweithgaredd corfforol
fod yn fuddiol iawn i'n hiechyd meddwl a'n lles hefyd (Ravissa, 1983).

Mae iselder yn salwch sy'n tyfu'n gyflym ymysg pobl ifanc. Mae rhai astudiaethau'n dangos y bydd bron i un o bob pedwar person ifanc yn dioddef iselder cyn iddynt fod yn 19 oed. Eglurwyd Burr (2014) un o resymau dros y cynnydd hwn yw cyflwr iechyd corfforol plant. Gyda thechnolegau newydd yn dod allan bob wythnos, mae'n golygu nad yw plant ifanc mor weithgar yn gorfforol fel y maent yn arfer bod, gan eu bod yn sownd y tu mewn ar eu cyfrifiadur neu gonsol gêm.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd ac yn ffordd hwylus i gadw mewn cyflwr iechyd da, mae o hefyd yn rhoi hyder i blant gymdeithasu ac ymuno â nifer o sefyllfaoedd gwahanol (Michaels, 2010). Trwy chwarae nifer o chwaraeon gwahanol yn ystod gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol, fe fydd y plant yn cael ei hysbrydoli i ymuno a thîm lleol, sydd wedyn yn gwella ar ei chyflwr iechyd corfforol, meddyliol a’i lles (Ravizza, 1983).

Ffordd arall y gall addysg gorfforol wella iechyd a lles yw trwy gymryd rhan yn yr her 'milltir y dydd'. Gweithgaredd cymdeithasol yw hwn, lle mae'r plant yn rhedeg neu'n loncian - ar gyflymder eu hun - yn yr awyr iach gyda ffrindiau. Nod milltir y dydd yw gwella iechyd a lles corfforol, cymdeithasol, emosiynol a meddyliol ein plant - waeth beth fo'u hoedran, eu gallu neu eu hamgylchiadau personol.

Mae ymchwil wedi dangos y gall y filltir y dydd hyd yn oed gynyddu cyrhaeddiad yn yr ysgol gynradd, ac mae rhieni wedi adrodd bod ganddynt fwy o ddiddordeb ym maes iechyd a lles eu plant ar ôl iddynt ddechrau (www.thedailymile.co.uk, 2016).

Roedd ysgol St George yn Lloegr wedi cofnodi eu her filltir ddyddiol, a thrwy wylio'r fideo mae'n amlwg bod pob disgybl yn ei chael hi'n fuddiol, yn hwyl ac yn adfywiol.

(Youtube, 2017)

https://www.youtube.com/watch?v=6VsYCb0jOmM



Felly yn amlwg, mae dysgu addysg gorfforol yn y gymdeithas heddiw yn hanfodol. Nid oes dadlau yn erbyn y manteision clir sydd mewn cynnwys rhywfaint o weithgarwch corfforol mewn trefn ddyddiol plentyn. Rwyf wedi cynnwys rhai lluniau yr wyf wedi'u darganfod trwy ymchwil ar-lein a rhai a gymerwyd gennyf fi ar ymweliadau diweddar â gwahanol ysgolion cynradd ynglŷn â su t maen nhw'n dewis hyrwyddo ac arddangos pwysigrwydd iechyd a lles.





 











                                                                                          
Cyfeiriadau

Burr, G. (2017). Depression in children and young people: identification and management. Clinical Pharmacist.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. [online] GOV. Available at: http://gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-en.pdf [Accessed 5 Apr. 2018].
Goff, W. (2017). The future of health, wellbeing and physical education: optimising children’s health through local and global community partnerships. Journal of Education for Teaching, pp.1-2.
Gov. (2018). Welsh Government|New school curriculum. [online] Available at: http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/curriculum-for-wales-curriculum-for-life/?lang=en [Accessed 3 Apr. 2018].
How to improve your wellbeing through physical activity and sport. (2016). MIND, (1), pp.15-16.
Marsh, S. (2018). How can PE and sport improve student health and wellbeing?. [online] the Guardian. Available at: https://www.theguardian.com/teacher-network/2015/feb/06/pe-and-sport-student-health-wellbeing [Accessed 2 Apr. 2018].
Michaels, S. (2010). Creating confident, motivated teachers of physical education in primary schools. European Physical Education Review, 16(1), pp.47-64.
Ravizza, K. (1983). An Old/New Role for Physical Education: Enhancing Well-Being. Journal of Physical Education, Recreation & Dance, 54(3), pp.30-32.
Robinson, S. (2006). Healthy eating in primary schools. London: Paul Chapman.
Thedailymile.co.uk. (2017). About The Daily Mile | The Daily Mile. [online] Available at: https://thedailymile.co.uk/about/ [Accessed 3 Apr. 2018].
YouTube. (2017). St George's CE Primary School, Lewisham - The Daily Mile Movie


No comments:

Post a Comment