Sunday 15 April 2018

Sut gall ddefnyddio addysg gorfforol annog iechyd a lles o fewn addysg gynradd?


Sut gall ddefnyddio addysg gorfforol annog iechyd a lles o fewn addysg gynradd?

Gweler fod iechyd a lles yn elfen bwysig iawn o fewn y cwricwlwm ag addysg ar hyn o bryd. Mae’r llywodraeth ar fu’n trefnu a chreu cwricwlwm cenedlaethol newydd; Mi fydd yn ymddangos yn weithredol yn Ebrill 2019 ac yna’n orffenedig erbyn Ionawr 2020. O fewn y cwricwlwm maent yn ffocysu ar iechyd a lles plant wrth gynnwys y topig yma o fewn y chwe maes dysgu y byddent yn gorfodi (Welsh Government, 2018). Gweler esboniad o’r cwricwlwm a’i ddefnydd o fewn y fideo isod:

 












<https://www.youtube.com/watch?time_continue=159&v=9U0fsT0gH7U>
(YouTube, 2018)

Wrth ychwanegu iechyd a lles fel maes dysgu gorfodol, gweler fod pwysigrwydd tu ôl y pwnc. Gweler fod y cwricwlwm SPHE (Social Personal and Health Education Curriculum) yn cefnogi lles plant wrth gynnwys tri phrif adran o fewn eu cwricwlwm sef, Fi, Fi ac eraill a Fi a’r byd eang; O dan yr adran ‘Fi’ mae is-deitlau i ddilyn a dysgu megis hunaniaeth, Cymryd gofal o fy nghorff, Tyfu a newid, a Diogelwch ac amddiffyniad sy’n annog dysgu a gofalu am eu hunain yn bersonol sy’n gwella iechyd a lles (Foster, 2012). Wrth ystyried tyfu a newid, cymryd gofal o fy nghorff a diogelwch ac amddiffyniad mae hyn yn dangos perthynas efo elfen gorfforol.
      O fewn addysg gynradd mae addysg gorfforol yn cael ei bwysleisio ac y mae hyn yn cynnal cyfle gwella a dysgu iechyd a lles plant. Cefnogai sefydliadau megis yr ‘Mental Health Foundation’ y syniad bod addysg gorfforol ac ymarfer corff yn hybu iechyd a lles wrth ddatgelu bod “Physical activity has a huge potential to enhance wellbeing in our population. It is known that even a short burst of 10 minutes brisk walking increases mental alertness, energy and positive mood states” (Edmunds et al., 2013). Cefnogai Marsh bod manteision ymarfer corff wedi’i chofnodi’n dda - nid ond i iechyd corfforol disgyblion, ond ei lles a’i pherfformiad academaidd. Mae hefyd cynigion wedi’i phwysleisio yn dweud dylai addysg gorfforol derbyn yr un lefel o statws a mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth er mwyn atal gordewdra (Marsh, 2015). Yn ôl Oliver o’r sefydliad ‘Youth Sport Trust’, maent yn credu, dylai bob ysgol uwchradd ddefnyddio addysg gorfforol ac ymarfer corff er mwyn gwrthwynebu’r argyfwng sef y cynnydd o broblemau o fewn iechyd corfforol ac emosiynol disgyblion y presennol. Maent yn ymwybodol bod ymarfer corff yn dal yr allwedd er mwyn datgloi'r materion lles corfforol ac emosiynol y mae plant ifanc yn ei wynebu (Oliver, 2018). Ymddengys nifer o fanteision iechyd a lles wrth ystyried defnyddio addysg gorfforol i ddysgu, dywed eu bod yn cynnal llai o bryder ac annog hwyliau hapusach; Mae hi’n lleihau’r teimlad o bwysau; Hybu meddwl clir; Gwneud i blant deimlo esmwythdra; Cynyddu hunan-barch; Lleihau’r risg o iselder (Ryan, 2015).
      Gallech ddysgu’n gorfforol yn yr ysgol ac yn enwedig tu allan. Mae dysgu tu allan yn yr agored yn elfen sy’n cael ei bwysleisio ar y foment ac y mae’r effeithiau ar iechyd a lles yn rhai da i raddau helaeth. Dywed Thompson Coon et al. (2011) bod disgyblion iach yn ymddangos yn fwy egnïol ac yn teimlo’n fel ei bod yn ailfywhau ar ol sesiwn dysgu corfforol tu allan; darganfyddiad sydd wedi’i ystyried o’r blaen (Bowler, et al. 2010). Wrth ystyried iechyd a lles, dengys ymchwil bod addysg gorfforol ac ymarfer corff medru helpu efo gwella ac atal iselder. Gall ymarfer corff gael ei ddefnyddio fel dechreuad i driniaeth fferyllfeydd er mwyn strwythuro’r gweithredoedd i wella (Knubben et al., 2007). Er mwyn ychwanegu i hyn, gall ymarfer corff yna gael ei ddefnyddio i atal ailymweld a’r broblem (Hoffman et al., 2001).
     Gweler cefnogaeth gan yr ‘NHS’ yn cefnogi sut y mae ymarfer corff ac addysg gorfforol yn helpu gwella iechyd a lles. Maent yn cynnig nifer o wybodaeth a ffyrdd y gallech gysylltu efo ymarfer corff ac addysg gorfforol ar ei wefan a hefyd yn pwysleisio’r manteision o ymarfer corff a sut y gall gwella eich iechyd a lles (NHS, 2016)
 
<https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mental-benefits-of-exercise/>




















Mae doethineb cyffredin wedi bodoli ers blynyddoedd yn pwysleisio bod “a healthy mind in a healthy body, has been a common wisdom through most of recorded history; it is a philosophy long synonymous with physical activity. Hippocrates, hailed as the father of medicine, is known to have prescribed exercise for patients suffering from mental illness (Ryan, 1984). Gwelwn fod ymarfer corff ac addysg gorfforol yn cymryd rhan bwysig o fewn iechyd a lles wrth iddi berthnasu efo meddygon yn aml ac yn cael ei ddefnyddio i wella problemau meddyliol. Felly wrth ystyried ymchwil gwelwn y ffyrdd y mae addysg gorfforol yn gwella iechyd a lles a hefyd y manteision gallech ennill wrth wneud addysg gorfforol. Mae hyn felly’n pwysleisio’r pwysigrwydd a’r defnydd o addysg gorfforol o fewn ysgolion cynradd a sut y gall helpu a gwella cyflwr meddyliol plant.





Cyfeiriadau:
                      
Bowler, D. E., Buyung-Ali, L. M., Knight, T. M., & Pullin, A. S. (2010). A systematic review of evidence for the added benefits to health of exposure to natural environments. BMC Public Health, 10, 456.

Edmunds, S; Biggs, H; Goldie, I (2013). Lets Get Physical. [online] Mental Health Foundation, p.14. Available at: https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/lets-get-physical-report.pdf [Accessed 5 Apr. 2018].

Foster, V. (2012). Wellbeing in the Classroom. [ebook] Dublin: Irish National Teachers' Organisation, p.41. Available at: https://www.into.ie/ROI/Publications/Wellbeing_Classroom.pdf [Accessed 5 Apr. 2018].

Hoffman, B. M., Babyak, M. A., Craighead, W. E., Sherwood, A., Doraiswamy, P. M., Coons, M. J., et al. (2011). Exercise and pharmacotherapy in patients with major depression: one-year follow-up of the SMILE study. Psychosomatic Medicine, 73(2), 127

Knubben, K., Reischies, F. M., Adli, M., Schlattmann, P., Bauer, M., & Dimeo, F. (2007). A randomised, controlled study on the effects of a short-term endurance training programme in patients with major depression. British Journal of Sports Medicine, 41(1), 29e33.

Marsh, S. (2015). How can PE and sport improve student health and wellbeing? – live chat. The Guardian, [online] p.1. Available at: https://www.theguardian.com/teacher-network/2015/feb/06/pe-and-sport-student-health-wellbeing [Accessed 5 Apr. 2018].

NHS (2016). Get active for mental wellbeing - NHS.UK. [online] Available at: https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mental-benefits-of-exercise/ [Accessed 5 Apr. 2018].

Oliver, A. (2018). PE and school sport should be a core part of the solution to wellbeing in our schools. [Blog] Youth Sport Trust. Available at: https://www.youthsporttrust.org/pe-and-school-sport-should-be-core-part-solution-wellbeing-our-schools [Accessed 5 Apr. 2018].

Ryan, A.J. (1984). Drug problem building since 1952 Olympics. Physician and Sportsmedwine, 12(7), 119-124.

Ryan, K. (2015). How to improve your wellbeing through physical activity and sport. [ebook] London: Mind, p.8. Available at: https://www.mind.org.uk/media/2976123/how-to-improve-your-wellbeing-through-physical-activity-and-sport.pdf [Accessed 5 Apr. 2018].

Thompson Coon, J., Boddy, K., Stein, K., Whear, R., Barton, J., & Depledge, M. H. (2011). Does participating in physical activity in outdoor natural environments have a greater effect on physical and mental wellbeing than physical activity indoors? a systematic review. Environmental Science & Technology, 45(5), 1761e1772.

Welsh Government (2018). New School Curriculum. Wales: Welsh Government.

YouTube. (2018). A new curriculum for Wales - YouTube. [online] Available at: https://www.youtube.com/watch?time_continue=159&v=9U0fsT0gH7U [Accessed 5 Apr. 2018].



3 comments:

  1. Rwy'n hoffi sut rydych chi'n disgrifio'r canlyniadau cadarnhaol y gall addysg gorfforol eu cael ar blant, am eu lles a'u cyflawniad academaidd. Cytunaf yn llwyr, y gall addysg gorfforol gael effaith dda ar les plant. Er hyn mae angen fwy o bwyslais er addysg gorfforol, dywedodd Marsh (2015) bod un mewn tri phlentyn yn gadael ysgol gynradd yn ordew neu dros pwysau. Fel y dywedwch, mae Marsh (2015) o'r farn y dylai addysg gorfforol dderbyn yr un statws a phwysigrwydd fel Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth er mwyn gwella gordewdra mewn plant. Ydych chi'n cytuno â hyn?

    Un strategaeth sydd wedi cael dylanwad mawr yw 'The Daily Mile'. Pwrpas hyn yw annog plant i gerdded, rhedeg neu jog am 15 munud bob dydd yn yr ysgol. Mae hyn wrth gwrs yn helpu lles plant. Ydych chi'n meddwl bod hwn yn syniad da? Ydych chi'n cofio gwneud llawer o addysg gorfforol yn yr ysgol? Pe baech chi'n dod yn athro ysgol gynradd, a fyddech chi'n defnyddio mwy o addysg gorfforol neu'n defnyddio amser ar bynciau eraill / mwy buddiol?

    Cyfeiriadau

    Marsh, S. (2015) "How can PE and sport improve student health and wellbeing? – live chat", The Guardian. Available at: https://www.theguardian.com/teacher-network/2015/feb/06/pe-and-sport-student-health-wellbeing (Accessed: 1 April 2018).

    ReplyDelete
  2. Na ddefnyddiais i lawer o ymarfer corff ym mhersonol o fewn addysg gynradd oherwydd ein iard oedd maes parcio ac felly nad oedd modd cymryd rhan o fewn nifer o chwaraeon er mwyn osgoi damweiniau; Ond roedd cyfle iddyn ni ymarfer efo adnoddau megis bagiau ffa, peli, cylchoedd hwla a chonau. Credaf wrth i mi fod yn athrawes mi fydd cyfuno addysg gorfforol ym fy more i'n bwysig iawn efo'r plant oherwydd y mae hi'n cymhelli'r plant eisiau gwneud ymarfer corff yn fwy, codi'n brydlon a theimlo'n fwy ar ddi hun o fewn gwersi wrth ymestyn a chynhesu ar gyfer y diwrnod; Credaf fy mod loncian am filltir bach yn ormod ar gyfer plant ifanc ond mae cynnwys ymarfer corff digon heriol iddynt yn bwysig, na fyddwn eisiau ei flino cymaint cyn ddechrau'r ysgol am y dydd. Mae clip fideo yma'n dangos manteision ymarfer corff, a syt y gall ymarfer corff helpu chi fel myfyriwr a hefyd eich wneud yn fwy clyfar:

    https://www.youtube.com/watch?v=dwMMn2FdBFQ
    (Med School Insiders, 2018)

    Credaf fel athrawes byddaf yn cynnwys cymaint o wersi ymarferol a thu allan sy'n cynnwys ymarfer corff oherwydd credaf bod plant yn dysgu gorau pan y maent yn hapus, llawn cymhelliant a llawn egni. Wrth cael hwyl a theimlo'n dda o fewn gwersi mi fydd perfformiad plant yn ymddangos yn wych i gymharu a gwersi traddodiadol a diflas sy'n gwneud i'r plant deimlo'n flinedig. Felly fel canlyniad credaf bod ymarfer corff yn elfen bwysig i raddau helaeth wrth ystyried y cwricwlwm a gwersi ysgolion cynradd.

    Cyfeiriadau:

    Med School Insiders (2018). How Exercise Makes you Smarter and a Better Student. [online] YouTube. Available at: https://www.youtube.com/watch?v=dwMMn2FdBFQ.

    ReplyDelete
  3. I found reading your blog really interesting and learnt a lot, in particular you state the impact physical education can have for children's mental health. I also agree that a healthy body leads to a healthy mind through physical education, and physical education can improve cognitive development for children. Research conducted by Hills, (1998) have concluded that PES can enhance academic performance by increasing the flow of blood to the brain, enhancing mood, increasing mental alertness, and improving self-esteem.
    Although this research was conducted in 1998, and this was almost 20 years ago, do you think this would still be accurate today?

    BBC news, (2014) state that Extra funding designed to boost sport in primary schools could be used to tackle childhood obesity.
    What are you views on this?, do you think extra funding is necessary?



    references

    Hills A.(1988) Scholastic and intellectual development and sport. In:Chan K-M, Micheli L, eds. Sports and Children. Champaign, Ill: HumanKinetics; :76-90

    BBC NEWS, (2014) Schools urged to use PE cash to help obese pupils.

    ReplyDelete