Love it, hate it or never really
think about it? Science isn’t just a school subject – in one form or another,
it is continually changing and improving the way that we live our lives. It
makes and sustains our modern society and will help us to understand and solve
the big questions that our world faces (Welsh Gov, 2012).
Gyda datblygiad cyson y byd, mae pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn
cynyddu’n ddyddiol. Wrth ystyried cymhlethdod y ddau, mae’n gallu bod yn hynod
o fygythiol i athrawon wrth geisio deall a dysgu'r holl wybodaeth newydd a
chymhleth.
Wrth ystyried y cwricwlwm, mae Donaldson (2015) wedi cyfuno gwyddoniaeth a
thechnoleg a’i nodi fel cymhwysedd digidol o fewn y chwe ardal o ddysgu. O
ganlyniad mi fydd sialens gan athrawon i geisio cyfuno gwersi gwyddoniaeth a
thechnoleg. “different aspects would be included and highlighted within the
most relevant Areas of Learning and Experience, for example within languages,
literacy and communication for aspects relating to language and communication,
and Science and technology for scientific interfacing, data handling and
process design” (Donaldson, 2015, p.41). O ganlyniad i hyn, mae’r cwestiwn yn
codi, a oes linc rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg? Fel mae’r cwricwlwm yn
datblygu mae’r pwyslais ar ddysgu trawsgwricwlaidd yn dod yn fwy a fwy pwysig
ac felly yn rhoi pwysau ar athrawon i ddysgu fel hyn yn hyderus. “By definition,
innovation in contemporary science and technology is an intensely
future-oriented business with an emphasis on the creation of new opportunities
and capabilities” (Borup, et al,
2006, p.285). I ryw raddau, trwy gyfuno gwyddoniaeth a thechnoleg, rydyn yn
rhoi mwy o gyfleoedd i blant gan fod y gallu ganddyn nhw i ymchwilio gyda mwy o
ddyfnder, er hyn mae hefyd yn gallu ei wneud yn hynod o anodd i ganolbwyntio ar
bynciau unigol heb esgeuluso un pwnc neu’r llall.
Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol gyda phwyslais ar ddatrys problemau,
cydweithrediad, gwerthuso, trin data a chymdeithasu, yn ôl (welsh gov, 2016).
Gall y fframwaith yma fod o fydd i athrawon wrth ddysgu’r cyfuniad o
wyddoniaeth a thechnoleg gan fod y deiliannau dysgu’n gallu sicrhau sgiliau
hanfodol i’r dysgwyr. Gall hyn hefyd dysgu sut i fod ac i feddwl yn gritigol
sydd â phwyslais mawr yn y byd gwaith erbyn hyn.
E
Er gall y cyfuniad o’r ddau bwnc achosi rhai heriau i athrawon, mae’n yn
cynnig profiad hollol unigryw a pherthnasol i fywydau’r plant. Gyda’r defnydd o
dechnoleg megis ipads, byrddau gwyn rhyngweithiol ac offer cyfryngol mae’r
plant yn dod yn fwy ymgysyllti i’r wers ac felly yn golygu dealltwriaeth a
phrofiad dysgu mwy buddiol. “iPads being used to support learners beyond simple
drill and practice games, to support collaborative learning, to provide
personalised learning
experiences, iPads to augment and enhance deep learning, as ubiquitous,
distributed and connected learning tools. We also discuss the ways in
which iPads can contribute to Digitally-Enhanced Monitoring and Assessment”
(Clark and Luckin, 2013, p.2).
Mae’r sgiliau a’r ffordd o feddwl mai gwyddoniaeth a thechnoleg yn dysgu i
blant yn holl bwysig i’w dyfodol o gael swydd, datblygu’n bersonol a'r gallu i
ddelio a materion aeddfed. Mae STEM sy’n sefyll am Science, Technology,
Engeneering a Mathamatics yn datblygu sgiliau’r plant er mwyn iddynt fabwysiadu'r
gallu i wneud yr uchod. Ond beth yn union yw STEM?
Mae Stem yn cefnogi'r hyn mae Donaldson (2015) yn hyrwyddo o fewn y
diwygiad y cwricwlwm a hefyd yn cyd-fynd gyda’r fframwaith cymhwysedd digidol.
Os oedd athrawon yn defnyddio stem gallant nhw ddysgu’n draws gwricwlaidd yn
fwy effeithiol wrth gyrraedd deiliannau unigol pob plentyn yn ôl y clip fideo.
Ond a yw STEM gormod ar wahân i’r cwricwlwm?
Mae athrawon yn cael hi’n anodd wrth gyfuno popeth o fewn y cwricwlwm yn
barod felly trwy geisio defnyddio STEM, gall athrawon dod o dan fwy o straen
neu anhawster wrth geisio mabwysiadu. Mae diffyg amser paratoi hefyd yn gallu
cael effaith ar sut mae athrawon yn defnyddio systemau fel STEM a dysgu
trawsgwricwlaidd.
Yn ogystal â’r anawsterau athrawon, mae’r llywodraeth yn cefnogi STEM, ac
yn credu fe all wella’r economi Cymru wrth baratoi unigolion gyda sgiliau’r
dyfodol. “Learners in Wales will enjoy learning and teaching that inspires them
to succeed, in an education community that works cooperatively and aspires
to be great, where the potential of every child and young person is actively
developed. Qualified for life: an education improvement plan for 3 to
19-year-olds in Wales” (Llywodraeth Cymru, 2016, p.2)
Wrth ystyried profiad personol, aethon ni fel grŵp cwrs i dechniquest ar
drip i weld sut allwn ddefnyddio llefydd fel yma i helpu dysgu a chyfuno
Gwyddoniaeth a thechnoleg fel pwnc. Mae sawl arddangosfa ac arbrawf o fewn techniquest
yn cyfuno’r ddau ac yn gallu helpu’r dysgwr i feddwl fel hyn hefyd. Mae tripiau
yn galluogi plant i ymestyn y dysgu, lle yr ydyn nhw fel arfer yn troi off o
fewn y dosbarth, gyda mwy o ddiddordeb ac eisiau dysgu mewn llefydd diddorol
fel hyn, sy o ganlyniad yn galluogi nhw i fabwysiadu sgiliau gwell i’w fuddio
trwy gydol ei dysgu. Dyma rhai lluniau o weithgareddau mae techniquest yn
cynnig a hefyd yn dangos sut allwn gyfuno'r hyn mae STEM yn dangos.
Gan ystyried sut all Gwyddoniaeth a thechnoleg fod yn ddiddorol ac yn
ymgysyllti yn y dosbarth, mae sawl elfen a all sicrhau hyn megis, adnoddau,
trip, technegau dysgu gwahanol, arbrofion ac ymwelwyr i’r dosbarth. Mae’n amlwg
bod sawl rhwystr i athrawon wrth geisio cyfuno pynciau ac i fod yn drawsgwricwlaidd,
ac erbyn y diwedd ydynt yn arfogi’r plant gyda nifer o sgiliau a fydd yn fuddio
nhw’n bersonol ac yn academaidd.
Cyfeiriadau.
Baylor, A. and Ritchie, D. (2002). What
factors facilitate teacher skill, teacher morale, and perceived student
learning in technology-using classrooms?. Computers & Education,
39(4), pp.395-414.
Borup,
M., Brown, N., Konrad, K. and Van Lente, H. (2006). The sociology of
expectations in science and technology. Technology Analysis & Strategic
Management, 18(3-4), pp.285-298.
Clark, w. and Luckin, R. (2013). iPad in the
Classroom. Leading education and social research, pp.2-6
Donaldson,
G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment
Arrangements in Wales.. [ebook] Graham Donaldson, p.8. Available at:
http://Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment
Arrangements in Wales.
Llywodraeth Cymru (2016). Science,
Technology, Engineering and Mathematics (STEM) in education and training.
Wales: Gov.Wales, pp.2-10.
Welsh gov (2012). Science and Technology.
Welsh Government.
Welsh gov (2016). Learning Wales. [online] Learning.gov.wales.
Available at:
http://learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?lang=en
[Accessed 13 Apr. 2018].
No comments:
Post a Comment