Sunday 15 April 2018

Sut y gall gweithgareddau gwyddionaeth, mathemateg a thechnoleg cael ei wneud yn ddeniadol ac yn berthnasol o fewn addysg gynradd?


Sut y gall gweithgareddau gwyddionaeth, mathemateg a thechnoleg cael ei wneud yn ddeniadol ac yn berthnasol o fewn addysg gynradd?

Wrth ystyried gwyddoniaeth, wnaeth y pwnc yma gael ei chynnwys yn llawn i’r cwricwlwm yn 1999, dengys ddatganiad gan yr adran addysg a sgiliau sy’n dweud bod y cwricwlwm gwyddonol wedi’i strwythuro o fewn ffordd lle gall plant ddysgu am agweddau ffisegol a biolegol o’r byd o fewn pedwar cynnwys: pethau byw, egni a grymoedd, defnyddiau ac ymwybyddiaeth a gofal yr amgylchedd (DepartmentofEducationandSkills, 2012).
     Mae nifer o bethau ar gael er mwyn hybu dysgu deniadol am bethau byw. Mae’r gwefan ‘Territory Wildlife Park Darwin’ yn cynnal nifer o wahanol weithgareddau a thudalennau ar lein er mwyn hybu dysgu am bethau byw yn cynnwys gweithgareddau a phrosiectau yn y dosbarth a hefyd rhai y gallech gynnig yn y cartref: (WildlifeparkDarwin, 2018)

<http://www.territorywildlifepark.com.au/pdf/year1-learning-about-living-things.pdf>


Wrth ystyried egni a grymoedd yng ngwyddonol, mae elfennau megis fideos ar gael ar gyfer plant er mwyn iddynt ddysgu o fewn ffordd fwy anffurfiol a ffyrdd y gallent berthnasu iddo a’i lefelau gallu; Mae ‘You Tube’ yn dangos nifer o glipiau’n esbonio pynciau i ddisgyblion o fewn ffordd haws na ffyrdd traddodiadol athrawon o lyfrau, e.e dengys ‘Smart Learning for All’ nifer o glipiau ar nifer o bynciau gwyddonol e.e ffiseg, bioleg, mathemateg, cemeg a phethau byw. (YouTube, 2018)

<https://www.youtube.com/watch?v=WSY4HzWZIlo>
 











Wrth hefyd son yng ngwyddonol am ofalu am yr amgylchedd, mae gwasanaeth wedi’i sefydlu o’r enw Beach Academy Wales, dysgais am y gwasanaeth yma wrth iddynt ymweld â phrif ysgol Cardiff Met a darparu darlith i ni. Dywed Emma a fu’n dal y ddarlith bod y plant yn chwarae’n ddychmygol, yn troi’n bodau dynol sy’n gofalu am y byd, maent yn fwy mentrus wrth weithio tu allan yn yr amgylchedd, maent yn gwrando’n well ac y mae agweddau’n gwella. Felly gwelwn y manteision o weithio o fewn amgylched allanol ac y mae hyn yn ymgysylltu’r plant i weithio’n wyddonol wrth ddysgu am yr amgylchedd a’r byd o fewn ffordd anffurfiol. Gallech ymuno hefyd a’r tripiau a phrosiectau y mae Beach Academy Wales yn cynnal fel aelod o’r cyhoedd ac felly gall ysgolion cysylltu ag ymglymu i’r gweithgareddau yma:
 










Gallech ddarganfod fwy am y gwasanaeth yma ar ei wefan a hefyd wrth ei ddilyn ar Twitter: (Beach Academy Wales, 2018)

<https://www.beachacademywales.com/>

@BeachAcadWales <https://twitter.com/BeachAcadWales>

Felly wrth drafod am wyddoniaeth rwyf am symud ymlaen i fathemateg; Mae nifer o ffyrdd gallech wneud i fathemateg fod yn fwy perthnasol a deniadol i blant hefyd. Dywed Bourne (2011) taw'r cwestiynau rydych yn gofyn i blant sy’n dibynnu ar lawer o bethau yn enwedig mwynhad ag ymgysylltiad; Dywed ar gyfer nifer o ddisgyblion, o lawlyfrau neu daflenni gwaith y mae nifer o’i gwestiynau’n dod. Mae hi’n bwysig adael i blant ofyn cwestiynau eu hunain, gall wedyn ei wneud yn ddiddorol i’w hun ym mhersonol, mi fydd y cwestiynau personol hefyd yn fwy tebygol o ddechrau trafodaeth ddilys rhwng y digyblion (Bourne, 2011) Gwelwn felly wrth ddechrau trafodaeth mae’r plant yn dangos diddordeb ac ymgysylltiad efo’r pwnc ag gall symud ymlaen i ddatrys y broblem yn llwyddianus, felly mae’r cwestiynau’n holl bwysig.

Wrth eto son am ddull mwy anffurfiol na ddarllen o lyfrau a thaflenni gwaith, mae llwyth o wefannau ar gael yn darparu gemau a gweithgareddau hwylus mathemategol i blant. Dengys un gwefan o’r enw Oxford Owl (2018) amrywiaeth o gemau a gweithgareddau y gall helpu wrth ddefnyddio themâu lliwgar a deniadol mae hyn yn denu plant eisiau dysgu o fewn ffordd wahanol y byddent yn mwynhau. Mae’r wefan hefyd yn cynnig y gwasanaethau yma am ddim ac felly mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer ysgolion, yn syml rydych yn llenwi’ch enw ac yn bwrw ymlaen efo’r gweithgaredd, gall wneud hyn hefyd fel dosbarth:

 









Wrth ystyried yr holl ffyrdd o ddysgu yma, maent yn dangos perthynas agos efo technoleg. Wrth i dechnoleg fod yn elfen sy’n tyfu i raddau helaeth o fewn y gymdeithas yn y cyfnod presennol, rhaid sicrhau ein bod yn cadw i ddyddiad efo’r datblygiadau er mwyn cadw gwersi’n ddeniadol ac yn berthnasol o fewn addysg. Gwelwn hefyd bod technoleg yn ymddangos fel elfen sy’n boblogaidd ac felly’n cael ei ddangos yn angenrheidiol o fewn y gymdeithas gyfredol sy’n datblygu’n gyflym (Danielsson et al. 2014).
     Dengys Cardiff Met ffordd wych o ddefnyddio technoleg yn y dosbarth a’i wneud ym mherthnasol ac yn hwylus wrth ddefnyddio Skype i siarad efo ysgol draw yn Nairobi, Kenya! Roedd hyn yn ffordd wych o ddefnyddio technoleg o fewn ffordd ymarferol ac ymddengys yr ochr hwylus a ddefnyddiol o fewn y dosbarth.

  
Felly gwelwn fod nifer o ffyrdd er mwyn gwneud pynciau megis technoleg, mathemateg a gwyddoniaeth yn ddiddorol o fewn y dosbarth, ac y mae nifer o ffyrdd anffurfiol ac nad yw’n draddodiadol sydd medru portreadu’r un lefel o ddysgu a llwyddiant; Felly mi fydd cynllunio gwersi yn y dyfodol yn llawer mwy deniadol a pherthnasol efo’r holl ddulliau ac offer sydd ar gael.

Cyfeiriadau:

Beach Academy Wales – Coastal Education & Training. (2018). Beach Academy Wales - Education & Training. [online] Available at: https://www.beachacademywales.com/.

Bourne, M. (2011). How to make math class interesting?. [Blog] SquareCirclez The IntMath blog. Available at: https://www.intmath.com/blog/how-to-make-math-class-interesting.

Danielsson, A. et al., 2014. Power and Knowledge in the Technology Classroom: The Development and Illustration of a Conceptual Framework [online]. Sweden: (s.n.). Available from: Met Search [accessed 9 March 2018].

DepartmentofEducationandSkills (2012). Science in the Primary School 2008. [ebook] Dublin: Inspectorate, p.1. Available at: https://www.education.ie/en/Publications/Inspection-Reports-Publications/Evaluation-Reports-Guidelines/Science-in-the-Primary-School.pdf 

WildlifeparkDarwin (2018). Educational Resource: Learning About Living Things Year 1 Science. [online] Territory Wildlife Park Darwin. Available at: http://www.territorywildlifepark.com.au/pdf/year1-learning-about-living-things.pdf.

YouTube. (2018). Force, Work and Energy for Kids. [online] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=WSY4HzWZIlo.

2 comments:

  1. Rwyf wedi dysgu llawer trwy ddarllen y post blog hwn, mae'n amlwg bod yna lawer o gyfleoedd ac adnoddau y gall athrawon eu defnyddio i ymgysylltu â'u disgyblion mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.

    Fel y gwyddom, mae gan y cwricwlwm newydd sy'n dod i Gymru chwe maes dysgu, un ohonynt yw 'Gwyddoniaeth a Thechnoleg'. Disgwylir nawr i athrawon addysgu'r pwnc hwn mewn ffordd drawsgwricwlaidd, mae'r Athro Donaldson yn cynnig rhoi mwy o reolaeth i athrawon ar yr hyn i'w ddysgu, a'i nod yw rhoi grym i'r rhai sydd o fewn y proffesiwn fod yn greadigol ac felly codi ansawdd y dysgu a'r addysgu yn ysgolion (Donaldson, 2015).

    Ydych chi'n meddwl y bydd y cwricwlwm newydd yn ychwanegu pwysau i athrawon? Gan y bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd hwyliog ac ymgysylltus i ddysgu gwyddoniaeth a thechnoleg fel un? Neu a ydych chi'n meddwl y bydd rhoi mwy o ryddid i athrawon yn eu galluogi i fod yn fwy creadigol ac o ganlyniad yn cael llai o straen?

    Cyfeiriadau

    Donaldson, G. (2015). Successful Futures. [online] Gov. Available at: http://gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-en.pdf [Accessed 8 Apr. 2018].

    ReplyDelete
    Replies
    1. Cwestiwn diddorol Harriet, credaf fydd llawer o bwysau ar athrawon bressennol wrth ystyried technoleg a gwyddoniaeth yn y dosbarth, yn enwedig technoleg. Rydym yn gweld ei fod hi ddigon annodd sicrhau ymgysylltiad gan blant o fewn yr ystafell ddosbarth ac y maent yn ymddangos yn heriol denu diddordeb plant (Danielsson et al. 2014). Credaf athrawon wrth i dechnoleg fod yn bwnc fwy estron iddyn nhw wrth iddi ddatblygu i raddau helaeth yn ddyddiol, nad ydynt yn credu eu bod yn derbyn yr hyfforddiant orau ac y bydd rhaid cael yr hyfforddiant a'r ymwybyddiaeth cywir am y pwnc os ydynt am ei ddysgu a'i fewnbynnu i'w ddisgyblion (Lowther, Inan, Strahl & Ross, 2008; Morehead & Labeau, 2005; Kalonde, 2017). Mi fydd hefyd bryder gan athrawon wrth gynllunio gwersi oherwydd byddent yn arfer gynllunio gwersi fwy traddodiadol ac o fewn ffordd y maent yn teimlo digon cyfforddus, ond wrth gyflwyno'r elfen/pwnc estron efallai na fyddent yn hollol gyfforddus ei gyflwyno i'w gwersi ac yn dewis ceisio ei osgoi; Gall hyn felly achosi fwy o broblemau wrth i blant beidio cael ehangu i'w potensial orau efo sgiliai dechnolegol (Hennessy et al., 2005; Perrotta, 2013; Warschauer, Cotton, & Ames, 2011). Mae hefyd y pwyslais o ddefnyddio technoleg yn y dosbarth wedi achosi i athrawon ddrysu wrth geisio'i chynnwys yn drawsgwricwlaidd efo pynciau fwy traddodiadol (Davies & West, 2013). Felly wrth i wyddoniaeth fod yn pwnc eithaf cyffredin i ddysgu oherwydd mae modd cael ateb cywir, credaf y bydd yn annoddach i athrawon gyfuno technoleg i'w gwersi wrth iddi fod yn newydd iddyn nhw a hefyd wrth iddi barhau i ddatblygu'n gyflym, ag all fellu achosi pwyslais drwm ar athrawon.

      Cyfeiriadau:

      Danielsson, A. et al., 2014. Power and Knowledge in the Technology Classroom: The Development and Illustration of a Conceptual Framework [online]. Sweden: (s.n.). Available from: Met Search [accessed 9 March 2018].

      Davies, R. and West, R. (2013). Technology Integration in Schools. Handbook of Research on Educational Communications and Technology, [online] pp.841-853. Available at: https://www.researchgate.net/publication/260363660_Technology_Integration_in_Schools [Accessed 13 Mar. 2018].

      Hennessy, S; Ruthven, K; Brindley, S.U.E. (2005) Teacher perspectives on integrating ICT into subject teaching: commitment, constraints, caution, and change. Journal of Curriculum Studies, 37 (2) (2005), pp. 155-192, 10.1080/0022027032000276961

      Kalonde, G 2017, 'Technology Use In Rural Schools: A Study of a Rural High School Trying to Use iPads in the Classroom', Rural Educator, 38, 3, pp. 27-38, Education Research Complete, EBSCOhost, viewed 10 March 2018.

      Lowther, L. D., Inan, A. F., Strahl, J. D., & Ross, S. M. (2008). Does technology integration "work" when key barriers are removed? Educational Media International, (45)3, 195-213.

      Morehead, P. & LaBeau, B. (2005). The continuing challenges of technology integration for teachers. Essays in Education, 15, 1-8

      Perrotta, C (2013). Do school-level factors influence the educational benefits of digital technology? A critical analysis of teachers' perceptions
      British Journal of Educational Technology, 44 (2) (2013), pp. 314-327, 10.1111/j.1467-8535.2012.01304.x

      Warschauer, M; Cotten, S.R; Ames, M.G (2011) One laptop per child Birmingham: case study of a radical experiment
      International Journal of Learning and Media, 3 (2) (2011), pp. 61-76, 10.1162/ijlm_a_00069

      Delete