Sunday 15 April 2018

Beth yw gwerth yr iaith Gymraeg o fewn addysg gynradd?


Beth yw gwerth yr iaith Gymraeg o fewn addysg gynradd?

Agorwyd yr ysgol gyntaf Cymraeg 79 o flynyddoedd yn ôl yn 1939 yn Aberystwyth (Crump, 2014). Yn yr 80au, yn ôl ‘The Education Act 1980’, gorfodon nhw i LEA’s adael rhieni dewis pa ysgol yr oeddent eisiau i’w blant fynd iddi, nai llai ysgol ddwy laethog, ysgol Saesneg neu ysgol Gymraeg (Tollefson and Tsui, 2003). Esboniai Reynolds et al. (1998) arwyddocâd y newid yma i ysgolion Cymraeg ag ysgolion ddwy laethog yng Nghymru, a’i ddilyn wrth ddatgelu o fewn fframwaith 1994, roedd ateb dymuniadau rhieni ar gyfer addysg Gymraeg wedi’i caniatâi, ac o fewn y fframwaith newydd roedd pŵer a disgwyliadau rhieni wedi codi (Reynolds, 1998). Gweler gwerth ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth i’r Prosiect Iaith Gymraeg hyrwyddo a datblygu’r iaith ym Mhatagonia, Chubut, Yr Ariannin ers 1997 sy’n ehangu’r iaith yn bellach ac yn rhoi’r cyfle i dri disgybl pob haf derbyn ysgoloriaeth gwerth £2000 er mwyn cael ddod I Gymru er mwyn astudio’r Gymraeg (British Council, 2018).
           Codai dadl wrth ystyried gwerth a defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn ysgolion wrth ystyried erthygl papur newydd gan y BBC. Wrth i Toby Belfield ysgrifennu llythyr at ‘Denbighshire Free Press’ yn datgelu mi fydd plant yn dangos canlyniadau a pherfformiad gwannach na ddisgyblion o fewn ysgolion yn Lloegr; Ond atebodd Cymdeithas yr Iaith wrth ddweud bod y datganiad yma’n “anachronistaidd” a hefyd Ioan Talfryn wrth ddweud bod "siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o fod â chymwysterau uwch na siaradwyr di-gymraeg o Gymru, a hyd yn oed Saeson yn Lloegr" (BBC, 2015). Gweler fod nifer o fanteision wrth allu siarad Cymraeg ac wrth fod yn ddwy laethog. Yn ôl Ysgol Gyfun Gwyr, credai bod manteision siarad Cymraeg i’r disgyblion wrth chwilio am swyddi; Mae hi’n haws wrth ddysgu gwahanol ieithoedd; Gallent gymryd rhan a manteisio o fewn gymdeithas ddwy ieithog o fewn Abertawe a phellach; Derbyn ystyriaeth gryfach o hunaniaeth a hefyd ddeall gwerth a gwerthfawrogi diwylliannau eraill (Ysgol Gyfun Gwyr, 2017). Cefnogai Cyngor Caerdydd y syniad o ysgolion ddwy ieithog a’r pwyslais o’r iaith Gymraeg wrth nodi ar eu gwefan bod ymchwil yn dangos; Wrth ddanfon disgyblion i ysgolion Cymraeg, hyn bydd y ffordd orau er mwyn sicrhau bod y plant yn ddwy ieithog yn effeithiol yng Nghymraeg a Saesneg. Hefyd maent yn cytuno bod manteision wrth ddatgelu bod bod yn ddwy ieithog yn sgil defnyddiol o fewn y lleoliad gwaith: mae’r gallu i siarad cymraeg yn sgil nai llai hanfodol neu’n ddymunol o fewn nifer o swyddi ac y mae’r gofyn yn tyfu ar raddfa fawr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi hyn yn gryf wrth sefydlu Cymru Dwy Ieithog drwy eu strategaeth iaith Gymraeg sef ‘Cymraeg 2050’ sy’n gobeithio sicrhau bod 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn erbyn 2050. Mae gofyn i raddau helaeth ar gyfer sgiliau dwy ieithog o fewn nifer o feysydd megis iechyd, addysg, gofal plant, mân-werthu, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus (Cardiff Council, 2018).
         Mae nifer o gwestiynau’n cael ei ofyn gan nifer megis rhieni ddisgyblion sydd efallai’n mynd i ysgol Gymraeg, neu sydd am fynd i ysgol Gymraeg. Mae pryderon yn codi megis y teimlad na fydd rhieni medru helpu efo gwaith cartref os na allent siarad cymraeg. Mae’r clip fideo yma’n dangos y profiad o bersbectif athrawon a rhieni am ysgolion Cymraeg ac yn helpu iddo’ch deall y manteision ac wynebu atebion y pryderon (YouTube, 2016).

<https://www.youtube.com/watch?v=szkg9xexFy8>

Dengys Llywodraeth Cymru'r pwysigrwydd a’r gwerth o ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth iddynt gynnwys rhan yn eu dogfen ar y we yn hybu’n union beth y maent eisiau pwysleisio wrth ystyried plant a phobl ifanc a’r iaith Gymraeg. Maent yn bwriadu cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau drwy’r cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn cynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith Gymraeg. Gweler cynnydd cryn o fewn y nifer o bobl ifanc sy’n gallu siarad cymraeg; Wrth ystyried plant oed 3-14, o fewn 1971 ond 14.9% o blant oedd yn siarad cymraeg, ond cynyddodd hyn yn 2001 i 37.2%. Dywed hefyd bod y blynyddoedd arddegwyr yn ymddangos yn amser hanfodol i bwysleisio’r iaith oherwydd yr adeg yma bydd yn dibynnu ar y raddfa y mae’r plentyn ifanc yn defnyddio cymraeg yn ei dyfodol ac felly wrth ystyried hyn gwelwn fod y lleoliad addysg a’r ysgol yn ddigon i adlewyrchu’r dylanwad hyn (Llywodraeth Cymru, 2017). Ac felly wrth ystyried y nifer o ffynonellau, gwelwn fod amrywiaeth o gefnogaeth ar gael ar gyfer yr iaith Gymraeg ac y mae gwerth yr iaith yn cael ei bwysleisio ar blant a phobl ifanc wrth ystyried y pwyslais a’r pwysigrwydd o’i orfodi o fewn addysg, bywyd gwaith a diwylliannau cymdeithasol.

Cyfeiriadau:

BBC (2015). Prifathro'n cwestiynu gwerth y Gymraeg ym myd addysg. BBC Cymru fyw. [online] Available at: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32734714 [Accessed 5 Apr. 2018].

British Council (2018). Prosiect yr Iaith Gymraeg | British Council. [online] Available at: https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg [Accessed 5 Apr. 2018].

Cardiff Council (2018). Cardiff Council. [online] Available at: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Schools-and-learning/Schools/welsh-medium-education/Pages/default.aspx [Accessed 5 Apr. 2018].
                            
Crump, E. (2014). First Welsh medium school celebrates 75th anniversary. Daily Post, [online] p.1. Available at: https://www.dailypost.co.uk/whats-on/whats-on-news/first-welsh-medium-school-celebrates-7819676 [Accessed 5 Apr. 2018].

Llywodraeth Cymru (2017). A living language: a language for living Welsh Language Strategy 2012–17. [ebook] Wales: Llywodraeth Cymru, p.28. Available at: http://www.estynllaw.org/uploads/s_a_living_language.pdf [Accessed 5 Apr. 2018].

Reynolds, D; Bellin, W; Ieuan, R. (1998). A competitive edge. Cardiff: Institute of Welsh Affairs.

Tollefson, J. and Tsui, A. (2003). Medium of instruction policies. 1st ed. Mahwah, N.J.: L. Erlbaum Publishers, p.51.

YouTube. (2016). Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh-medium education. [online] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=szkg9xexFy8 [Accessed 5 Apr. 2018].

Ysgol Gyfun Gwyr. (2017). Advantages of Welsh Medium Education and Bilingualism. [online] Available at: http://www.yggwyr.org.uk/?page_id=2981 [Accessed 5 Apr. 2018].



2 comments:

  1. Rydw i'n cytuno gyda'r hyn yr wyt yn trafod Amy. O farn bersonol, rydw i'n teimlo bod yr iaith Gymraeg yn hynod o werthfawr o fewn addysg, yn enwedig Gynradd, fel trafodaist ti, mae'n bwysig bod y genhedlaeth ifanc yn defnyddio'r iaith gan fod nhw yw'r dyfodol.

    Rwyt ti'n trafod bod manteision o allu siarad Cymraeg, fel bod yn ddwyieithog. mae'r gallu o fod yn ddwyieithog yn gallu bod yn hynod o fuddiol a chynnig sawl cyfle dros siaradwyr uniaith.

    Beth yw dy farn di dros hyn? wyt ti'n teimlo bod y gallu i siarad dwy iaith wedi dy fuddio ti? Os ydy, Pam?

    Rwyt ti hefyd yn sôn am rieni sy'n siarad uniaith yn pryderu dros ddanfon ei phlentyn i ysgol Gymraeg. Mae Hodges (2010) yn nodi bod dyma un o'r rhesymau mwya' dros beidio danfon ei phlant i ysgolion Gymraeg. Er hyn mae Hodges (2010) hefyd yn datganu bod rhai rhieni uniaith yn danfon ei blant i ysgolion Cymraeg oherwydd bod nhw'n teimlo bod nhw wedi colli mas ar ddysgu'r iaith yn bersonol.

    Ydych chi'n credu bod addysg Gymraeg yw'r ffordd gorau? A fyddet ti'n pryderu Danfon dy blentyn di i ysgol Gymraeg ar ôl cael addysg gyfrwng Gymraeg? Wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi colli mas ar unrhyw adeg o ganlyniad i addysg Gymraeg?

    Hodges, R. (2010). Tua’r goleuni’: Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i’w plant yng Nghwm Rhymni. Gwerddon. 6 (3), 9-13

    ReplyDelete
  2. Credaf ym mhersonol fy mod wedi manteisio i raddau helaeth wrth ddysgu siarad yng ngymraeg a hefyd cael mynd i ysgolion a brifysgol cymraeg. Mae siarad iaith gwahanol yn sgil ddefnyddiol iawn o fewn nifer o feysydd, megis ceisio am swydd. Ymddengys Vince (2016) manteision ac anfanteision fod yn ddwyiaethog; Fel anfantais dywed bod sylwadau'n cael ei crybwyll yn nodi bydd nifer o bobl ddwyiaethog yn ymddangos yn ddryslud wrth siarad ddwy iaith, byddent efo deallusrwydd ac ymwybyddiaeth llai nag eraill a byddent yn ymddwyn o fewn ffyrdd gwahanol (Vince, 2016); Ond, hefyd dywed, mae nifer o bobl sy'n siarad dwy iaith yn teimlo fel gwahanol berson wrth siarad iaith gwahanol. Anghytunaf efo datganiad cyntaf Vince oherwydd wrth brofi siarad cymraeg ac astudio drwy'r gymraeg, dydw i byth wedi brwydro neu drysu cymaint fy mod yn teimlo fel nad ydy i eisiau siarad y ddwy iaith, a nad ydw i byth wedi ymddwyn o fewn ffordd negyddol a wahanol. Credaf yn gryf efo ail ddatganiad Vince oherwydd mae fy ymenydd yn datblygu wrth i mi newid ba iaith rydw i'n siarad, mae hyn yn fantais i mi oherwydd os nad ydw i'n deall rhywbeth o fewn un iaith, rydw i'n newid yn awtomatig a cheisio'i ail eirio o fewn iaith gwahanol er mwyn ei ddeall yn well. Credaf bod cael yr allu i siarad iaith gwahanol yn wych a byddaf yn sicr yn danfon plentyn i ysgol Gymraeg er mwyn iddo dderybyn yr un nifer o gyfleoedd a fi, a hefyd galla'i ymestyn ar yr iaith yn fwy adref wrth felly gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Na chredaf fy mod wedi colli allan ar unrhyw beth wrth astudio trwy'r cymraeg, credaf fod llawer fwy o gymorth ar gyfer ddisgyblion saesneg, yn syml oherwydd mae canran fwy o bobl yn siarad saesneg ac felly mi fydd fwy o weithgareddau ar gael, ond rydw i hefyd wedi cael profi nifer o brofiadau personol efallai na fydd pobl sy'n astudio drwy'r saesneg medru ei brofi megis Glan Llyn a Llangrannog. Felly fel canlyniad credaf bod siarad cymraeg a fod yn ddwy iaethog yn ymddangos fwy o manteision nag anfanteision.

    Cyfeiriadau:

    Vince, G. (2016). The amazing benefits of being bilingual. [online] Bbc.com. Available at: http://www.bbc.com/future/story/20160811-the-amazing-benefits-of-being-bilingual.

    ReplyDelete