Mae addysg
gorfforol yn agwedd holl bwysig o fewn addysg gynradd sy’n sicrhau iechyd a
lles plant ifanc a’i harfogi gyda’r wybodaeth gywir i gadw’n iach. Er hyn nad
yw addysg gorfforol yn derbyn y gydnabyddiaeth mae’n heiddi o fewn y cwricwlwm
ac o ganlyniad yn gallu golygu bod plant ddim yn gyfarwydd gyda’r pwysigrwydd o
gadw’n iach nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol hefyd. Mae Kirk (2005) yn
dadlau “that there are a number of structural problems in the ways PE and youth
sport are made available to young people in England and Wales.” A Crum (1993)
hefyd yn nodi bod “the generally weak commitment to teaching clearly becomes
the main problem with current physical education.” Wrth gymryd yr uchod mewn i
ystyried, mae amlwg bod dim llawer o ffocws yn cael ei rhoi ar addysg gorfforol
o fewn addysg gynradd. Gall hyn fod o ganlyniad i sawl agwedd, megis diffyg
amser gan athrawon, rhwystrau’r cwricwlwm neu dim digon o gymorth neu adnoddau.
Er hyn wrth i broblemau iechyd a lles o fewn blant ifanc cynyddu’n ddyddiol,
mae’r pwysigrwydd o ddysgu addysg gorfforol ac iechyd a lles o fewn addysg
gynradd hefyd yn cynyddu’n raddol.
Mae Bonell et al
(2014) yn cefnogi’r syniad o ddysgu iechyd a lles o fewn y cwricwlwm a’i rhoi
profiadau dysgu ymgysyllti trwy addysg gorfforol, ond yn nodi bod rhai yn
anghytuno gyda rhoi ffocws ar addysg gorfforol. “with more time spent on health
and well being resulting in less time for academic learning and therefore lower
attainment” (Bonell, et al, 2014). Er
hyn, yn ôl Public health England (2014) trwy ddysgu plant am iechyd a lles a
sicrhau cyflwr iechyd da, maen nhw’n fwy tebygol o gyflawni’n well yn
academaidd.
Wrth edrych ar
ddatblygiad y cwricwlwm gallwn weld bod mwy o ffocws yn cael ei rhoi ar iechyd
a lles a’r pwysigrwydd addysg gorfforol o fewn plant ifanc. Mae Donaldson
(2015) yn nodi un o’r prif ddibenion y cwricwlwm yw sicrhau unigolion ‘iachus a
hyderus’, sy’n cymryd rhan mewn addysg gorfforol, yn adeiladu lles meddyliol ac
emosiynol trwy ddatblygu hyder ac empathi a dealltwriaeth o deiet iach ac
ymarfer corff a’i effaith ar iechyd corfforol a meddyliol. Gyda’r gobaith y
llywodraeth i roi’r cwricwlwm yma mewn i ddefnydd erbyn 2021, mae’n holl bwysig
bod athrawon yn hyderus wrth ddysgu a hyrwyddo iechyd a lles o fewn addysg
gorfforol.
Y prif cwestwn sy’n
dal i sefyll yw, Sut allwn defnyddio addysg gorfforol i hyrwyddo iechyd a lles
o fewn addysg gynradd?
Wrth ystyried fy
mhrofiad personol i o weithio gyda phlant yn y cyfnod sylfaen yn bennaf, mae’n
yn sialens i geisio dysgu rhai agweddau sy’ o ddyfnder i blant ifanca’r ysgol a
sicrhau bod dealltwriaeth ganddyn nhw. Er hyn mae’n holl bwysig i ddysgu iddynt
sut i fod yn iachus wrth gynnwys ffitrwydd, deiet iach a’r pwysigrwydd o fod yn
hapus. Yn ystod profiad, gwelais fod sefydliad yr urdd o fydd mawr i athrawon
wrth ddysgu plant y cyfnod sylfaen sut i gadw’n iach. Roedd clip fideo o
weithgareddau ymarferol ar gael i’r athrawon i chwarae yn y dosbarth sy’n
ddefnyddiol gan fod weithiau mae’n anodd cael safle i gynnal gweithgareddau
chwaraeon o fewn ysgolion cynradd. Er bod lle neu amser yn gallu gweithio yn
erbyn athrawon yn ystod gwersi addysg gorfforol, gall athrawon dysgu gwybodaeth
bwysig i blant yn yr ystafell dosbarth megis deiet a chyflwr emosiynol. Gydag
ymchwil gwelswn fod sawl ffordd i wneud hyn mewn ffyrdd addas ar gyfer plant
ifanc.
Wrth ystyried
deiet a faethyddiaeth gall gweithgareddau creu plât iachus, a dangos pa
gynhwysion sy’n dda i chi yn gallu gwella dealltwriaeth plant ifanc o sut i
fwyta’n iachus.
Wrth edrych ar
gyflwr emosiynol plant ifanc mae gweithgareddau fel ‘mindfulness bingo’ sy’n
dysgu’n plant ffyrdd gwahanol o ymlacio, i gael gwared â straen ac i deimlo’n
hapus.
Mae ymwybyddiaeth
ofalgar (mindfulness) yn bwnc sy’n dod yn fwy poblogaidd o fewn addysg gynradd,
ac un sy’n gallu gwella cyflwr emosiynol, ymddygiad a dealltwriaeth bersonol
plant ifanc. Mae’r gweithgareddau yma hefyd yn gallu bod yn hwylus i blant ac
felly mae cyfranogiad actif. “From the
teacher’s reports we found a specific positive effect of the
mindfulness-meditation training in reducing attention problems and also
positive effects of both trainings in reducing children’s internalizing
problems” (Crescentini, et al, 2016).
Mae awyrgylch awyr agored yn ddefnyddiol iawn i ddysgu plant am gyflwr
emosiynol ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n gallu dangos iddyn nhw sut mae mynd
tu fas yn gallu bod yn ymlacio a hefyd lleihau straen.
I grynhoi mae
nifer o ffyrdd i hyrwyddo iechyd a lles o fewn addysg gorfforol a gydag ymchwil
a pharatoi mae’n wersi’n gallu bod o fudd mawr i’r plant a’i harfogi gyda
sgiliau addas i’w fagi trwy fywyd.
Cyfeiriadau.
Bonell,
C., Humphrey, N., Fletcher, A. and Moore, L. (2014). Why schools should promote
students’ health and wellbeing. Education policy shouldn’t focus solely on academic attainment, 1(1), p.2.
Crescentini,
C., Capurso, V., Furlan, S. and Fabbro, F. (2016). Mindfulness-Oriented
Meditation for Primary School Children: Effects on Attention and Psychological
Well-Being. Frontiers in
Psychology, 7.
Crum, B. (1993). Conventional Thought and
Practice in Physical Education: Problems of Teaching and Implications for
Change. Quest, 45(3), pp.339-356.
Donaldson,
G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and
assessment arrangements in wales, pp.13-21.
Kirk, D. (2005). Physical education, youth
sport and lifelong participation: the importance of early learning experiences.
European Physical Education Review,
11(3), pp.239-255.
Public health England (2014). The link between pupil health and wellbeing and
attainment. England: Gov.uk, pp.4-12.
I found reading your blog really interesting.
ReplyDeleteBiddle, (1999) States that It is widely acknowledged that participating in physical activity produces a range of physical, mental, social, environmental and economic benefits for both individuals and the community.
You have stated the main benefits that physical education brings to children’s health and wellbeing. Ahn and Fedewa, (2011) states that there is evidence that physical activity has a positive effect on mental health in children, including reducing anxiety and depression and improving mood. However, Biddle (1999) states there is some evidence that for pupils who do not enjoy physical activity it can have a negative impact on self-esteem and mood.
• Do you believe we should let the child have an option to take part in physical education if it is going to negatively affect them?
There are many benefits that physical education can have, Donaldson, (2015) states that healthy minds and bodies responses relating to the need for schools to foster mental and physical wellbeing. Physical education is a fantastic way to do this.
References
Ahn, S., and Fedewa, A.L (2011). A Meta-analysis of the Relationship Between Children’s Physical Activity and Mental Health. Journal of Pediatric Psychology Advance, January 11, 2011.
Biddle, S. (1999). The motivation of pupils in physical education. In C.A. Hardy and M. Mawer (Eds) Learning and Teaching in Physical Education (London, Falmer Routledge).
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in wales