Monday 16 April 2018

Gwyddoniaeth a Thechnoleg


Sut y gall gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg cael ei wneud yn berthnasol a diddorol mewn addysg gynradd?

‘Science and technology are closely linked, each depending upon the other. Science involves acquiring knowledge through observation and experimentation, and technology applies scientific knowledge in practical ways’ (Donalson, 2015).

Mae plant yn dysgu llawer o sgiliau dros y cwricwlwm, mae yna fframwaith sgiliau anstatudol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer plant 3-19 oed yng Nghymru er mwyn darparu arweiniad ynglŷn â pharhad a dilyniant mewn datblygu meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif ar gyfer dysgwyr 3-19 oed. O fewn cyfnod allweddol 2, ddylai dysgwyr derbyn y cyfle i adeiladu ar eu sgiliau maent wedi dechrau caffael a datblygu yn ystod y cyfnod sylfaen (Llywodraeth Cymru, 2008).

Datblygu Meddwl – mae dysgwyr yn datblygu ei meddwl ar draws y cwricwlwm trwy’r prosesau o gynllunio, datblygu a myfyrio. Mewn technoleg mae dysgwyr yn dylunio a chreu cynhyrchion trwy'r broses ailadroddol o greu a datblygu syniadau, dylunio cynhyrchion, cynllunio, gwneud a myfyrio ar benderfyniadau. Mewn gwyddoniaeth, mae dysgwyr yn dilyn prosesau cynllunio, datblygu a gan adlewyrchu ym mhob maes yr ymchwiliad. Datblygu Cyfathrebu – mewn technoleg, mae dysgwyr yn ofyn cwestiynau ac yn chwilio am wybodaeth i ddatblygu a chefnogi eu syniadau dylunio. Mewn gwyddoniaeth, mae dysgwyr yn cyfathrebu syniadau, gwybodaeth a data mewn amrywiaeth o ffyrdd yn dibynnu ar natur y dasg, y gynulleidfa, y pwrpas a’r dewisiadau dysgwyr eu hunain (Llywodraeth Cymru, 2008).

Datblygu TGCh – mewn technoleg, mae dysgwyr yn ymchwilio ac yn datblygu eu syniadau trwy ddefnyddio TGCh i ddod o hyd i wybodaeth o gronfeydd data a’r rhyngrwyd. Mewn gwyddoniaeth, mae dysgwyr yn defnyddio TGCh ar gyfer nifer o ddibenion. Datblygu Rhif – mewn technoleg, mae dysgwyr yn defnyddio gwybodaeth fathemategol a data, a gyflwynir yn rhifiadol ac yng ngraffigol, i ymchwilio a datblygu eu syniadau. Yn wyddoniaeth, mae dysgwyr yn gweithio’n feintiol i amcangyfrif a mesur defnyddio mesurau ansafonol ac yna safonol. Maent yn defnyddio tablau, siartiau, graffiau i gofnodi a chyflwyno gwybodaeth (Llywodraeth Cymru, 2008). Wrth i blant ddysgu yn y ffordd hon gan ddatblygu'r sgiliau yma, mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn llawer mwy deniadol i ddysgwyr ifanc.

Yn ystod ein modiwl, cawsom y cyfle i ymweld â techniquest sef canolfan wyddoniaeth hiraf y Deyrnas Unedig. Mae gan Techniquest enw da ledled y byd am greu rhaglenni ac arddangosfeydd, ac mae ei staff yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw mewn cyfathrebu gwyddoniaeth. Maen nhw’n datblygu ac yn gwerthu rhaglenni ac arddangosfeydd i ganolfannau gwyddoniaeth ledled y byd (Techniquest, 2018). Yn ystod ein trip cawsom y cyfle i dderbyn diwrnod o'r hyn a fyddai'n debyg ar gyfer ddosbarth ysgol gynradd. Cawsom gyflwyniad am y corff dynol yn y theatr wedyn amser i weld yr holl arddangosfeydd maent yn cynnig. Roedd y dydd yn hynod o ddiddorol gan weld pa mor frwdfrydig oedd y plant ac yn cael hwyl. Mae techniquest yn hynod o bwysig gan ei fod yn hybu gwyddoniaeth a thechnoleg i blant.



Yn ystod ein seminar, ynglŷn â gwyddoniaeth a thechnoleg, cawsom gystadleuaeth o bwy all adeiladu bont 20cm gan ddefnyddio sbageti a gummy bear’s er mwyn allu dal IPhone. Mae gweithgareddau bach fel hyn yn apelio at blant ac yn amlwg hyrwyddo gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae yna weithgareddau all plant cymryd rhan megis creu parasiwt, llosgfynydd neu gylched trydan.


Yn ôl Donaldson (2015) mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn gysylltiedig. Mae  gwyddoniaeth a thechnoleg yn un o chwe maes Donaldson, sydd yn ffocysu ar blant a'i chwilfrydig ar y byd naturiol, corfforol a bydysawd trwy ymchwilio, deall ac egluro. Maent yn dysgu i gynhyrchu a phrofi syniadau, casglu tystiolaeth, gwneud sylwadau, cynnal ymchwiliadau ymarferol a chyfathrebu gydag eraill (Donaldson, 2015). Mae hyn yn bwysig oherwydd trwy wneud ymchwiliadau ymarferol mae hyn yn denu sylw plant ac yn wneud gwyddoniaeth a thechnoleg yn llawer mwy diddorol a berthnasol.

Mae defnyddio technoleg fel ffordd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth wedi gweld yn boblogaidd iawn. Cawsom ddarlith gan athro o ysgol Nant y Parc a oedd yn sôn am ddefnyddio Virtual Reality yn ei dosbarth. Gan ddefnyddio head sets a applications ar smartphones gall plant wneud unrhyw beth maen nhw eisiau. Roedd un app yn galluogi i blant mynd yn y corff dynol gan weld sut mae bwyd yn cael ei threulio. Mae hyn yn ffordd ddiddorol a deniadol o ddysgu oherwydd mae’n fwy profiadol a hefyd yn hybu gwyddoniaeth a thechnoleg.

Felly mae yna weithgareddau sydd yn cael ei chynnig sydd yn wneud gwyddoniaeth a thechnoleg yn ddiddorol a berthnasol. Er hyn gall fwy o weithgareddau cael ei chynnig er mwyn hybu plant mewn i swyddi STEM (Science, Technology, Engineering and Mathematics). Mae 'na erthygl wedi cael ei chyhoeddi gan BBC News, yn ddweud mai yna ‘Critical Shortage’ o fenywod mewn swyddi gwyddoniaeth. Roedd yr ymchwil wedi darganfod gellid llenwi diffygion o 600 o swyddi academaidd cyffredin trwy gael mwy o ferched mewn gyrfaoedd perthnasol. Roed rhai o’r argymhellion yn cynnwys: athrawon sydd a mwy o sgiliau gwyddoniaeth i ysgogi disgyblion ac i greu cysylltiad cryfach rhwng addysg a busnesau (BBC, 2016). Felly mae yna lawer fwy o bwyslais ar wyddoniaeth a thechnoleg mewn addysg heddiw.


Cyfeiriadau

BBC (2016) "'Critical shortage' of women in science jobs, report finds". Available at: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-35747420 (Accessed: 1 March 2018).

Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.

Llywodareth Cymru (2008) Design and technology in the National Curriculum for Wales. Available at: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/130424-design-and-technology-in-the-national-curriculum-en-v2.pdf. (Accessed: 1 March 2018).

Llywodraeth Cymru (2008) Science in the National Curriculum for Wales. Available at: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/140624-science-in-the-national-curriculum-en-v2.pdf. (Accessed: 1 March 2018).

Techniquest • Science Centre UK • Science Discovery (2018). Available at: https://www.techniquest.org/ (Accessed: 1 March 2018).

Techniquest. (2017). Schools’ Programme. [Online Video]. 29 August 2017. Available from: https://www.youtube.com/watch?v=sP7Ze3OKROI. [Accessed: 25 February 2018].

1 comment:

  1. Dysgais llawer o wybodaeth o'r blog yma Jess, cytunaf i raddau helaeth efo beth yr wyt ti'n dweud a'r holl wybodaeth a manteision sydd ar gael. Wrth ystyried technoleg a gwyddoniaeth fel pwnc o fewn cwricwlwm Donaldson, ymddengys nifer o bwysau ar athrawon a ddisgyblion wrth newid eu math o ddysgu traddodiadol i fath o ddysgu fwy heriol neu gwahanol/estron. A ydych wedi ystyried yr anfanteision o newid y cwricwlwm i gwricwlwm hollol wahanol a thrawsgwricwlaidd? A ydych yn credu mi fydd athrawon yn hollol gyfforddus efo'r dull newydd yma o ddysgu?
    Dengys ddatganiad bod dangos dealltwriaeth gyfyngedig o dechnoleg wedi achosi bryder i athrawon wrth geisio cynnwys dulliau effeithiol o fewn gwahanol safbwyntiau o ddysgu (Davies & West, 2013). Syt gallech gefnogi athrawon a sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir er mwyn teimlo'n gyfforddus yn dysgu o fewn y fordd hyn. Fel casgliad, dywed Feenberg (2013) "Children cannot be effective in tomorrow's world if they are trained in yesterday's skills" (Feenberg et al., 2013) a chredaf y mae'r dyfyniad yma'n un bwysig wrth ystyried athrawon presenol o fewn y byd addysg.

    Cyfeiriadau:

    Davies, R. and West, R. (2013). Technology Integration in Schools. Handbook of Research on Educational Communications and Technology, [online] pp.841-853. Available at: https://www.researchgate.net/publication/260363660_Technology_Integration_in_Schools

    Feenberg, A., Hope, A., Williamson, B., Bigum, C., Hamilton, E., Kuiper, E., Dussel, I., Sefton-Green, J., Winner, L., Rowan, L., Allen, M., Friesen, N., Ferrante, P., Hall, R., Lewthwaite, S. and Rudd, T. (2013). The Politics of Education and Technology. 1st ed. [ebook] (s.l): Palgrave Macmillan US, p.153.

    ReplyDelete