Sunday 15 April 2018

Sut y gall celfyddydau mynegiannol perthnasu efo pedwar pwrpas y cwricwlwm?


Sut y gall celfyddydau mynegiannol perthnasu efo pedwar pwrpas y cwricwlwm?


Wrth ystyried cwricwlwm Donaldson (2015) gwelwn ei fod wedi penderfynu ar 6 maes dysgu, ymddengys celfyddydau mynegiannol o fewn y 6 maes dysgu yma. O fewn adroddiad Donaldson (2015) ‘Successful Futures’, dywed; Trwy’r pwnc celfyddydau mynegiannol o fewn y 6 maes dysgu, gall ysgolion ac athrawon annog plant a phobl ifanc i ddatblygu eu gwerthfawrogiad creadigol a’i thalentau a hefyd ei sgiliau creadigol a pherfformiadau. Mae’r celfyddydau mynegianol hefyd yn darparu cyfleoedd ymchwilio’i meddyliau, coethi, cyfathrebu syniadau, ymgysylltu syniadau, defnyddio dychymig a defnyddio’r synhwyrau’n greadigol (Donaldson, 2015); Felly, sut y gall y maes dysgu yma perthnasu efo pedwar pwrpas y cwricwlwm?

     Yn gyntaf, pedwar pwrpas y cwricwlwm, yn ôl Donaldson (2015) ydy cael:
·    Dysgwyr galluog ac uchelgeisiol.
·    Dinasyddion moesegol a chyfeiriedig.
·    Unigolion iach a hyderus.
·    Cyfranwyr mentrus a chreadigol.

Wrth ystyried y pedwar pwrpas yn unigol, gwelwn sut y mae’r celfyddydau mynegianol yn perthnasu efo nhw. Wrth drafod y pwrpas cyntaf sef; Dysgwyr galluog ac uchelgeisiol, gwelwn fod cefnogaeth wrth ystyried celfyddydau mynegianol; Gweler bod Meador yn cefnogi Amabile wrth ddweud, mi fydd criteria ond yn cael ei chyrraedd gan blentyn wrth ystyried ei waith os ydy hi’n bleserus neu’n ystyrlon iddyn nhw (Meador, 1992, p.164.). Felly gwelwn fod pwysigrwydd tu ôl i hunan gyflawniad plentyn, ac felly er mwyn iddynt deimlo’n llwyddiannus mi fydd rhaid iddynt fod yn ddisgyblion uchelgeisiol er mwyn cyrraedd ei botensial orau ac felly gwelwn berthynas rhwng y maes a’r pwrpas.
        Fel ail bwrpas, dymunai Donaldson creu dinasyddion moesegol a chyfeiriedig o’i gwricwlwm. Wrth ystyried celfyddydau mynegianol, cefnogai Oates (1996) y datganiad bod y ddau’n dangos perthynas wrth ddweud bod “art exists as a medium by which “ethical” messages are coveyed” (Oates, 1996). Wrth hefyd ystyried fod yn gyfeiriedig, rhaid iddynt fod yn ymwybodol o’i theimladau a’i bwriadau wrth wneud gwaith ac felly dywed Education Gov; Gweler drwy gelf a dylunio, mae gan ddysgwyr y cyfle bod yn greadigol a phrofi ysbrydoliaeth a mwynhad (Educationgov, 2018). Mi ddaw dinasyddion cyfeiriedig o’r cwricwlwm wrth orfodi iddynt fod yn greadigol a dysgu sut i fynegi ei hunain o fewn ffordd gywir ac effeithiol.
       Yn drydydd, gall celfyddydau mynegianol perthnasu efo unigolion iach a hyderus. Dywed Lock (2014) “Whether in an individual setting or as part of a group, arts education improves a child’s confidence”. Wrth ddarllen y datganiad yma, gwelwn fod ffyrdd o greu disgyblion hyderus drwy ddysgu celfyddydau mynegianol oherwydd mae cyfle iddynt weithio efo eraill a derbyn adborth gan ei gilydd er mwyn adeiladu ar hunan barch eu hun wrth ddysgu sut i dderbyn beirniadaethau a chanmoliaeth gan eraill (Lock, 2014). Dengys bod celfyddydau’n manteisio ar iechyd, yn enwedig iechyd meddyliol. Dywed Alban (2018) bod celf yn rhyddhau pwysau personol drwy weithgareddau megis peintio, tynnu lluniau, ffotograffiaeth a cherfio; Mae'r rhain yn lleihau lefelau o bwysau a gwneud iddo’ch teimlo fel eich bod wedi ymlacio ac yn glir o ran meddyliau. Wrth greu celf mae hi’n darparu gwrthdyniad o’ch ymennydd wrth roi saib o’ch meddyliau arferol (Alban, 2018).
      Yn olaf, rydym yn dod at bwrpas olaf Donaldson, sef: Cyfranwyr mentrus a chreadigol. Credai rhai pobl o Wlad Pwyl, wrth fod yn fentrus ac yn egnïol o fewn bywyd, mae hyn yn cael ei ddisgrifio fel bod yn greadigol (Sternal, 2014). Mae elfen greadigol felly tu ôl bod yn fentrus oherwydd rydych yn awyddus mentro i elfennau pellach nag eraill. Gweler yn yr Iwerddon maent yn frwdfrydig iawn wrth ystyried celfyddydau o fewn ysgolion ac y maent yn cefnogi ei fod yn hybu creadigrwydd wrth ddatgan bod heddiw, mae hi’n deg dweud bod celfyddydau yn fywiog  fewn ysgolion yn Iwerddon, ac mae defnydd a galwad i raddau helaeth. Ond un galwad sy’n cael ei phortreadu wrth weld ysgolion efo’i murluniau llachar, cerflunwaith a pherfformiadau cerddorol, sef bod yn ymwybodol bod celfyddydau arbennig ar gael o fewn addysg gynradd (House et. al, 2009). Mae hyn yn pwysleisio’r holl weithgareddau creadigol a’r prosiectau y mae’r plant yn creu i fod yn greadigol ac y maent yn credu bod hyn yn bwysig iawn o fewn eu hysgolion, adnabod bod celfyddydau mynegianol ar gael o fewn eu hysgolion nhw a’i bod yn ymarfer hyn yn amlwg ac yn dystiolaethol.
     Felly wrth ddarllen cefnogaeth gan nifer, gwelwn fod nifer o ffyrdd y mae celfyddydau mynegianol yn dangos perthynas efo pedwar pwrpas cwricwlwm Donaldson, ac felly gwelwn fod defnydd cynnwys hyn o fewn y cwricwlwm newydd a gall ehangu pellach ddigwydd a gwaith mwy manwl ddigwydd wrth iddynt ffocysu arni fel pwrpas unigol.

Cyfeiriadau:

Alban, D. (2018). The Mental Health Benefits of Art Are for Everyone. [online] Be Brain Fit. Available at: https://bebrainfit.com/the-health-benefits-of-art-are-for-everyone/.

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.45.

Educationgov (2018). [ebook] Scotland: Curriculum for excellence: expressive arts experiences and outcomes., p.3. Available at: https://education.gov.scot/Documents/expressive-arts-eo.pdf.

House, V. F., Éireann, C. M., Foster, Á. V., & Cliath, B. Á. (2009). [Ebook] Dublin: Creativity and the Arts in the Primary School. In Discussion Document and Proceedings of the Consultative Conference on Education., p.31. Available at: https://www.into.ie/ROI/Publications/CreativityArtsinthePS.pdf

Lock, C. (2014). Turn to the Arts to Boost Self-Esteem. [online] Education. Available at: http://www.pbs.org/parents/education/music-arts/turn-to-the-arts-to-boost-self-esteem/.
                                                                                                                                     
MEADOR, K.S. (1992). ‘Emerging rainbows: a review of the literature on creativity’, Journal for the Education of the Gifted, 15, 2, 163–81.

Oates, J.C., 1996. Art and Ethics?—The (F) utility of Art. Salmagundi, (111), pp.75-85.

Sternal, M. (2014). ARTIST ENTREPRENEURSHIP IN EDUCATION AND PROFESSIONAL LIFE ‒ IS THERE ROOM FOR CREATIVE APPROACHES?. [ebook] Krakow: Acta Academiae A rt i u m V i l n ensis, p.163. Available at: http://leidykla.vda.lt/Files/file/Acta_72/Acta_72_09_Malgorzata_Sternal_15.pdf.

No comments:

Post a Comment