Nid oedd Dillenbourg (1999) ac weddill o’r ysgolheigion yn
gallu cytuno ar diffiniad o dysgu cydweithredol, mae yna amrywiath eang o
diffiniadau ar gyfer y term yma mewn wahanol meysydd academaidd. Mae Dillenbourg
(1999) yn ddweud ‘The broadest (but unsatisfactory) definition of
'collaborative learning' is that it is a situation in which two or more people
learn or attempt to learn something together’. Er hyn mae gwahanol elfen yn
gallu cael ei ddehongli mewn ffyrdd wahanol. Mae “two or more” yn gallu cael ei
ddehongli mewn par, grwp fach (3-5 pobl), ddosbarth (20-30), cymdeithas neu
chymuned. Mae hefyd yn ddweud sut mae “leanring something” ac “together” yn
gallu cael ei ddehongli (Dillenbourg, 1999).
Mae dysgu cydweithreol yn digwydd phob dydd yn yr dosabarth,
trwy gweithio ar tasgau, prosiectau ac gweithgareddau. Mae yna nifer o manteision
i dysgu cydweithredol.Mae Laal ac Ghodsi (2011) wedi rhannu’r mantesion mewn i
pedwar categori, gan ddyfynnu gwaith Johnsons (1989) ac Pantiz (1999) sydd yn
rhestru dros 50 mantais ar gyfer ddysgu yn cydweithredol. Y pedwar categori yma
yw cymdeithasol, seicolegol, academaidd ac asesiadau.
·
Manteision Cymdeithasol;
-
Helpu i ddatblygu system cymdeithasol i ddysgwyr.
-
Adiladu dealltwriaeth ymysg myfyrwyr a staff.
-
Sefydlu awyrgylch cadarnhoal ar gyfer modelu ac
ymarfer chydweithredu.
-
Datblygu cymunedau dysgu.
·
Manteision Seicoloegol;
-
Mae student-centered instruction yn cynyddu
hunan-barch myfyrwyr.
-
Lleihau pryder.
-
Datblygu agweddau positif tuag at athrawon.
·
Mantesion academaidd;
-
Hyrwyddo sgiliau o feddwl yn beirniadol.
-
Cynnwys myfyrwyr yn weithgar yn y broses dysgu.
-
Canlyniadau dosbarth yn wella.
-
Modelu technegau datrys problemau myfyrwyr priodol.
-
Ddefnyddiol trwy ysgogi myfyrwyr mewn cwricwlwm
penodol.
·
Technegau asesu myfyrwyr eiledol ac athrawon;
-
Mae technegau addysgu cydweithredol yn defnyddio
amrywiaeth o asesiadau.
Er mwyn i phlant ysgol gynradd gweithio yn cydweithredol mae
hyn yn gallu weithio trwy grwpio. Yn ol Harris a Lowe (2014) mae grwpio effeithiol
yn ganlyniad allweddol o asesiad ffurfiannol, lle mae’r athrawon yn gallu creu gweithgareddau
cymywys ar gyfer phob grwp o ddysgwyr, ar eu lefel gallu (Harris
and Lowe, 2014). Mae hyn yn gysylltiedig i’r Standard 5 (DfE 2013) sydd yn
focysu ar y angen o ‘adapt teaching to the strengths and needs of pupils,
knowing when and how to differentiate properly, using approaches which enable
children to effectively’. Mae hyn yn cydfynd gyda’r syniad o gweithio yn
cydweithredol oherwydd mae’n amlygu bod disgyblion yn gallu weithio yn well
gyda disgyblion eraill sydd ar yr un lefel academaidd.
Mae Vygotsky (1978) wedi datblygu’r syniad o ‘Zone of
Proximal Development’ sydd yn adnabod beth mae phlant yn gallu wneud ar ben ei
hunain ac beth mae nhw’n gallu wneud gyda cymorth gan cyfoedion ac oedolion. Wrth
gwahanu nhw yn effeithiol, gall athrawon cael mynediad i’r cyfle dysgu hwn gan
grwpio’r phlant yn effeithiol i cynnig amgylchedd orau posib ar gyfer dysgu (Vygotsky,
1978).
Er hyn mae yna anfantesion trwy denfyddio y grwpio yma, mae
athrawon yn tebyg o grwpio o fewn ei lefelau llythrennedd ac rhifedd ond yn cadw
y grwpiau yma ar gyfer pwnciau eraill (Harris and Lowe, 2014). Mae hyn yn meddwl
bod y disgyblion sydd gyda cryfderau mewn pwnciau eraill ddim yn teimlo ei fod
wedi cael ei herio oherwydd y grwpio gwahanol (Harris and Lowe, 2014). Yn fy marn
i ddylai phlant cael ei chymysgu er mwyn gallu gweithio yn cydweithredol gyda
phlant eraill. Mae hyn yn gallu wella perthnasau y dosabarth trwy creu
ffrindiau ac rhannu syniadau gwahanol.
I grynhoi dwi’n credu fod cydweithrediad yn hynod bwysig yn
addysg gynradd oherwydd mae’n ffordd newydd o ddysgu lle mae phlant gyda
annibyniaeth. Mae gweithio fel grwp yn sgil pwysig o fewn y dosbarth heddiw yn
hytrach na gwrando i’r athrawes ac ysgrifennu. Mae yna nifer o mantesion fel es
i siarard am yn gynharach. Felly mae dysgu yn cydweithredol yn gallu cael
effaith positif ar addysg gynradd.
Yn ystod ein darlithoedd, cawsom ni y siawns i cysylltu gyda
ysgol gynradd yn Nairobi, Kenya, or enw Cheery school. Cawsom ni amser i gwneud
galwad skype gyda sylfaenydd yr ysgol. Wnaeth e cynnig llawer o wybodaeth
ynglyn yr amygylchedd a sut mae’r ysgol wedi cael ei leoli yn slym. Dechreuoedd
yr ysgol gyda tri disgyblion on erbyn heddiw wedi cynddu gyda cannoedd o
disgyblion, sydd yn teithio yn bell i mynegi ysgol. Aethom ati I cydweithio
gyda’r ysgol trwy codi arian i helpi adiladu wal ar gyfer dosbarth sefydlog.
Penderfynais fy nghrwp gwerthu cacennau yn ein amser rhydd yn y prifysgol.
Llwyddodd ein grwp codi £101 ar gyfer ysgol Cheery. I ategu at hyn yn ei
seminar fe defnyddiodd ein sgiliau creadigol i chreu fideo am Chaerdydd ac yr
iaith Cymraeg. Yn unigol wedyn es i chreu taflen waith ar gyfer y disgyblion I
ddysgu nhw lliwiau’r enfys yn Gymraeg. Dwi wedi atodi fideo a chopi taflen
waith isod. Mae hyn yn profi bod cydweithrediad yn gallu cael effaith positif
ar ysgolion cynradd oherwydd mae’n cynnig cefnogaeth yn enwedig ar gyfer phlant
sydd yn llai ffodus as ddim gyda mynediad hawdd ac syml i addysg. Mae ysgol
Cheery nawr wedi ddysgu am diwylliant Caerdydd ac rydym wedi ddysgu am
diwylliant ac sefyllfa addysg yn Kenya.
Dillenbourg P. (1999) What
do you mean by collaborative learning? In P. Dillenbourg (Ed)
Collaborative-learning: Cognitive and Computational Approaches. (pp.1-19).
Oxford: Elsevier.
Harris, K. and Lowe, S. (2014). Monitoring, assessment and record keeping. In Cooper, H. eds.
Professional Studies in Primary Education. 2nd ed. London: SAGE, pp. 93.
Johnson, D.W. & Johnson, R.T. (1989). Cooperation and Competition Theory and
Research. Edina, Minnesota; USA. Interaction Book Co. Publishing.
Laal, M. and Ghodsi, S. (2011) Benefits of collaborative learning. Elsevier. Available at:
https://ac.els-cdn.com/S1877042811030205/1-s2.0-S1877042811030205-main.pdf?_tid=533bdea4-db5b-11e7-8bb3-00000aacb361&acdnat=1512657274_ace43ca0b6175697db25fb15a86a56e7
(Accessed: 1 December 2017).
Panitz, T. (1999). Benefits
of Cooperative Learning in Relation to Student Motivation", in Theall,
M. (Ed.) Motivation from within: Approaches for encouraging faculty and
students to excel, New directions for teaching and learning. San Francisco, CA;
USA. Josey-Bass publishing.
Vygotsky, L. (1978) Mind
in Society: The Development of Higher
Psychological processes. Cambridge, MA: Harvard University Press.
Ydych chi'n cytuno ei bod yn llawer haws i blant ddatblygu a dysgu gyda chymorth teuluoedd cryf sydd, yn eu tro, yn mwynhau cefnogaeth unigolion a sefydliadau yn eu cymunedau cyfagos?
ReplyDeleteRydw i'n credo hwn yn gryf, fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn teuluoedd incwm sengl a rhiant-ddeuol - ynghyd â diflanniad graddol pentref fel cymunedau - yn gadael nifer cynyddol o blant a theuluoedd sy'n cael eu hynysu o helpu perthynas, cefnogaeth cyfoedion ac emosiynol, a mynediad at atgyfeirio gwasanaethau (Weiss, Woodrum, Lopez, a Kraemer, 1993).
Pan fydd teuluoedd, ysgolion a sefydliadau cymunedol (e.e., busnesau lleol, colegau cymunedol ac asiantaethau iechyd) ar y cyd yn cytuno ar eu nodau ac yn penderfynu sut i'w cyrraedd, mae pawb yn elwa. Mae ysgolion yn mwynhau'r gefnogaeth wybodus i deuluoedd ac aelodau'r gymuned, mae teuluoedd yn profi llawer o gyfleoedd i gyfrannu at addysg eu plant, ac mae cymunedau yn edrych ymlaen at weithle addysgol a chyfrifol. Mae manteision yn cronni i staff ysgolion a busnesau cymunedol, lleol hefyd: gallant arsylwi rhoi hwb mewn morâl, ymgysylltiad cynyddol yn eu gwaith, a theimlad y bydd eu gwaith canlyniadau net. (Cummins, 2013).
Ydych chi'n credu mae'n bwysig i ysgolion cydweithio gyda busnesau lleol?
Cyfeiriadau
Cummins, J. (2013). The Importance of School and Community Collaboration. Leaders for tomorrow's schools. [online] Available at: http://www.michigan.gov/documents/The_Importance_of_School_and_Community_Collaboration_156613_7.pdf [Accessed 2 Nov. 2017].
Cwestiwn ddiddorol, nid yr wyf wedi meddwl yn ddwfn am hyn. Er hyn, yn fy marn i mae phlant sydd gyda chymorth ei teulu a'r fantais. Fydd teulu cefnogol yn annog ei phlant i ddysgu ac yn wneud yn well yn yr ysgol i gymharu a phlant nad sydd gyda'r cymorth yna. Dwi'n cwbl cytuno ei fod yn bwysig i ysgolion cydweithio gyda busnesau lleol. Fe welwn ni hyn pan aeth ein prifysgol weithio gyda ysgol gynradd ar y prosiect meddylfryd. Roedd y phlant wedi wneud darlith i ni yn son am ei profiad o wneud y prosiect yma. Nid yn unig oedd nhw yn hoffi meddylfryd, ond yn hoffi'r syniad o dychwelyd nol i wneud fwy prosiectau. Roedd mwyafrif o'r plant wedi myengi ei diddordeb i fynychu prifysgol yn y dyfodol. Felly, roedd y cydweithio yma wedi annog dysgwyr ifanc i feddwl am ei dyfodl ac annog nhw i ddysgu. Roedd y cydweithrediad yma yn newydd a cyffrous i'r plant ac roedd nhw o hoff adael yr ysgol/dosbarth i wneud rhywbeth hollol newydd. Felly, i grynhoi mae cydweithio gyda eraill yn bwysig iawn.
Delete