Thursday 7 December 2017

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?


Credai’r llywodraeth “Education is the engine of our economy, it is the foundation of our culture, and it’s an essential preparation for adult life.” (GOV, 2017) Credaf yn gryf efo hyn oherwydd mae addysg gynradd yn gweithio fel sylfaen ar gyfer eich dyfodol. Mae mynedi addysg gynradd yn orfodol ac felly rhaid iddi gael effaith bositif ar blant er mwyn iddyn nhw dyfu i fod yn llwyddiannus.
     Cefnogai Kolb (2008) y syniad yma o baratoi blant at eu dyfodol, dywed “It is a holistic theory that defines learning as the major process of human adaptation involving the whole person. As such, ELT (Experiential Learning Theory) is applicable not only in the formal education classroom but in all arenas of life” (Kolb, 2008, p.3). Felly gwelwch yma bod dysgu ac addysg yn broses lle y mae plant yn gallu datblygu eu addasiadau fel person cyfan ag all hyn ei pharatoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau datblygiad llwyddianus.
      Gweler fod Hewitt and Tarrant, (2015) hefyd yn cytuno efo’r syniad yma wrth ddweud “Education is important in itself, because it helps children to develop as individuals.” (Hewitt and Tarrant, (2015). Hefyd dywed “Education enables young people to be prepared for adult life.” (Hewitt and Tarrant, (2015) ac felly mae’r syniad fod pwrpas addysg yn paratoi plant at bywyd a dyfodol yn cael ei gefnogi gan nifer.
      Mae’r clip fideo yma yn pwysleisio ar ein cwricwlwm presenol, a beth gallwn wella o’i fewn:


      O fewn y clip fideo, dengys pynciau o fewn y cwricwlwm megis meddylfryd, lles a hunan  ymwybyddiaeth. Gweler fod y cwricwlwm newydd y mae Graham Donaldson yn ei gyflwyno ym mhwysleisio’n fawr ar lles y plentyn, paratoi plant am fywyd a gadael i’r plant arwain eu dysgu. Wrth ddarllen adroddiad ‘Successful Futures’ gan Donaldson, dywed, wrth ofyn ‘Beth ydy’r tair elfen orau o addysg yng Nghymru?’,  un elfen oedd  the health and well-being of our children and young people.” (Donaldson, 2015, p.24). Mae hyn yn dangos y pwyslais ar y plentyn yn lle canlyniadau. Wrth ffocysu ar y disgybl mi fydd canlyniadau fwy llwyddianus gan ystyried cymhelliant ac ymddygiad y plant. O fewn cwricwlwm Donaldson gweler ei fod yn cyflwyno “The intention is to signal the importance of educational experiences as an integral part of the curriculum, to broaden children and young people’s horizons, stimulate their imaginations and promote enjoyment in learning. The education of children and young people should include rich experiences that are valuable in their own right.” (Donaldson, 2015, p.38). Felly gwelwch eto bod y pwyslais o fewn addysg ydy sicrhau fod y plentyn ym mhrif ffocws pob gweithred.
      Cytunaf ym mhersonol, dylai addysg a phwrpas addysg fod yn seiliedig ar ffocysu ar y plentyn a’i lles, a hefyd addasu dysgu i gallu’r plentyn. O fewn darlith yn y brif ysgol, cafon ddarlith gan Emma ar ‘Independent coastal schools’. Credaf fod yr ysgolion yma yn wych oherwydd maent yn pwysleisio ar iechyd a lles y plentyn wrth hyfforddi gwersi tu allan yn unig. O’r ddarlith dengys Emma wybodaeth am yr ysgol, y gweithgareddau, manteision a heriau’r ysgol. Credai Emma taw dysgu tu allan yw’r ffordd gorau o ddysgu ac y mae hi’n manteisio sgiliau a hyder y plant. Ffocws pedagogaidd fwyaf Emma oedd rhyddid y plant. Fel manteision dywed bod y plant yn chwarae wrth ddefnyddio’i ddychymig yn fwy, yn ffocysu ar y dasg yn fwy manwl, yn gwrando’n well a hefyd yn ymddwyn yn well. Wrth ddysgu tu allan mae’r elfenau yma yn cael ei phrofi a hefyd y maent yn helpu gwella iechyd a lles y plant yn y broses. Mae gwefan ar gael er mwyn cael ymweld y math o wersi y mae’r ysgol yn cynnig a hefyd mae modd trefnu ymuno efo rhai o’r gwersi a teithiau y maent yn mynedi.
  
Ac felly credaf fel casgliad taw pwrpas addysg ydy darparu lleoliad i blant cael yr hawl I ddysgu o fewn ffyrdd eu hun. Wrth sicrhau dysgu llwyddianus credaf dylai plant fod yng nghanol y dysgu a taw nhw dylai arwaid y dysgu efo tipyn o hyfforddiant oherwydd y ffordd y mae plant yn dysgu gorau ydy wrth gael ei cymhellu a’I ymddiried i fod yn hyderus a chael dysgu diddordebau’n rhydd.


Cyfeiriadau:

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.24-38. Available at: http://file:///Users/amypippen/Downloads/Donaldson%20Report%20-%20Successful%20Futures%20-%20Independent%20Review%20of%20Curriculum%20and%20Assessment%20Arrangements%20in%20Wales%20(3).pdf [Accessed 26 Nov. 2017]

GOV (2017). The purpose of education - GOV.UK. [online] Gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20 Nov. 2017].

Hewitt, D. and Tarrant, S. (2015). Innovative teaching and learning in primary schools. Des Hewittt, p.2.

Kolb, A., & Kolb, D. A. (2008). Experiential learning theory: A dynamic, holistic approach to management learning. Education and Development Department of Organizational Behavior. Case. Western Reserve University. 

2 comments:



  1. Rwyf hefyd o'r farn y dylai addysg gynradd fod yn gyfle i blant dyfu fel unigolion ac i fod yn ganolog i'w dysgu eu hunain, ond yn anffodus nid wyf yn meddwl bod hyn yn wir mewn llawer o ysgolion heddiw. Mae'n amhosibl dadlau bod ysgol gynradd ac uwchradd yn canolbwyntio ar amcanion dysgu - o leiaf o'm profiad i beth bynnag.

    Heddiw, yn addysg gynradd ac uwchradd-mwyafrif helaeth o’r gwersi yn cael eu pennu gan nod gwahanol. Ar gyfer y mwyafrif o athrawon a myfyrwyr, mae'r profiad dosbarth yn cael ei siapio gan y gofyniad i baratoi ar gyfer asesiadau/arholiadau. Pan fydd myfyrwyr yn mynd i mewn i'r ystafelloedd dosbarth, nid yw'r ffocws ar drafodaeth neu ymholiad penagored, ond ar ddysgu 'yr hyn y mae angen i ni ei wybod' i lwyddo ym mha bynnag archwiliad nesaf ar y gorwel. Yn fwyaf tebygol, bydd 'canlyniad dysgu' ar gyfer y wers, wedi'i dynnu'n syth o faes llafur (Gov, 2016). Bydd gwerslyfrau gyda sylwadau gan yr arholwyr, banciau o gwestiynau arholiadau posibl a nodiadau bwled gyda 'atebion enghreifftiol'. Yn bell o fod yn fannau agored ar gyfer ymchwiliad am ddim, mae ystafell ddosbarth heddiw yn debyg i faes hyfforddi milwrol, lle mae myfyrwyr yn cael eu drilio i gynhyrchu atebion perffaith i gwestiynau arholiad posibl (Blair, 2011).

    Ydych chi’n cytuno gyda hwn? Ydych yn credu bydd y cwricwlwm newydd yn newid hwn?

    cyfeiriadau

    Blair, E. (2011). Thinking about schools. Boulder, Colo.: Westview Press.

    National curriculum for wales. (2016). GOV.

    ReplyDelete
  2. Credaf wrth gael ymagwedd newydd tuag at ddysgu mi fydd newid. Efallai wrth iddi gael ei gyflwyno’n gyntaf mi fydd athrawon yn ceisio cadw at ddysgu traddodiadol, ond o fewn amser, ar ôl profi’r dulliau newydd credaf y bydd yn llwyddiannus iawn. Credai hyn oherwydd wrth i ddulliau hollol newydd gael ei osod o fewn y cwricwlwm mi ffydd rhaid i athrawon ei ddilyn, ac felly fel athro neu athrawes llwyddianus bydd dysgwyl yno iddynt berfformio i’w safon orau er mwyn sicrhau bod eu dysgu digon effeithiol a chywir er mwyn derbyn canlyniadau rhagorol. Mi fydd rhwystrau oherwydd eu bod yn fodel newydd ac y mae hi’n haws cael dilyn traddodiadau sydd wedi bod yn llwyddiannus ers flynyddoedd, ond er mwyn lles y plant ac i ddangos cefnogaeth tuag at dyfodol plant, credaf bydd y dull yma yn ymddangos yn llwyddiannus iawn. Wrth ddangos y dysgu yma, dysgu creadigol ac annibynnol, rydw i’n cytuno efo Donaldson wrth iddo anelu ar ffurfio ddisgyblion sy’n “set themselves high standards and seek and enjoy challenge.”
Donaldson, G. (2015)


    Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.29.

    ReplyDelete