Wednesday, 6 December 2017

Sut all dysgu draws gwriciwlaidd cael effaith ar addysg gynradd?


Erbyn heddiw mae dysgu draws gwricwlaidd yn dod yn fwy a fwy poblogaidd o fewn ysgolion cynradd. Y bwriad yw paratoi plant gyda sgiliau trosglwyddadwy sy’n fuddiol i’r dyfodol. “The education we currently offer our children may not be good enough to help them thrive in and live fulfilling lives through, the century.” (Barnes, 2011, p.18). Mae’r dyfyniad yma gan Barnes (2011) yn pwysleisio bod ein haddysg bresennol ddim yn cynnig digon o gyfleoedd na sgiliau er mwyn i blant lwyddo yn y dyfodol agos.

Dyle dysgu draws gwricwlaidd fod yn elfen hanfodol o fewn y cwricwlwm ag addysg gynradd yn ôl Donaldson (2015). O fewn adolygiad Donaldson (2015)  sef ‘Successful Futures’ mae’n pwysleisio'r pwysigrwydd o ddysgu traws cwricwlaidd ac yn awgrymu fod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gyd yn dod yn gyfrifoldebau traws cwricwlaidd gyda chyfleoedd a phrojectau aml er mwyn i’r disgyblion ennill cymhwysedd uchel o fewn yr adrannau yma.



Mae sgiliau'r dyfodol yn bwysig ofnadwy i blant y genhedlaeth hon, gan fod y byd yn datblygu ar sgil effaith mawr mae’n rhaid sicrhau bod plant y dyfodol yn gallu ymdopi gyda newidiadau mawr sydd am ddigwydd. Wrth edrych ar dechnoleg, rydyn yn ei ddefnyddio trwy’r amser mewn bywyd pob dydd a hefyd o fewn diwydiannau gwahanol fyd gwaith. Trwy ddysgu technoleg a’i gynnwys o fewn gwersi traws cwricwlaidd rydyn yn arfogi disgyblion gyda’r sgiliau sydd am i lwyddo.  “Children and young people need to learn how to be more than consumers of technology and to develop the knowledge and skills required to use that technology creatively as learners and future members of a technologically competent workforce.” (Donaldson, 2015).



Wrth edrych ar fodel dysgu SAMR (fig.1) mae 4 cam ar sail ysgol sy’n dangos sut mae addysgwyr yn gallu gwella a thrawsnewid technoleg o fewn yr ystafell dosbarth. Yn dechrau gyda ‘Substiution’ mae’r addysgwr yn gallu gwella technoleg yn y dosbarth trwy ddefnyddio adnodd fel ipad neu ffon a’i ofyn i’r plant darllen oddi ar, hyd at ‘redefinition’ lle mae’r addysgwr yn defnyddio ap megis imovie neu garageband i drawsnewid technoleg yn y dosbarth. (Hamilton, et al, 2016). “to support and extend student learning with technology, educators must seek out and use flexible and adaptive, vetted frameworks that promote a deeper understanding of teaching and learning.” (Hamilton, et al, 2016, p.438). Trwy ddefnyddio SAMR mae addysgwyr yn gallu sicrhau ei bod nhw’n datblygu cymhwysedd digidol y disgyblion a’i pharatoi am y dyfodol.


(figure.1)


Y fwyaf rydych yn cysylltu, y fwyaf gwybodus gallwch chi fod. Trwy ddysgu traws gwricwlaidd rydyn yn galluogi plant i ddysgu a chasglu gwybodaeth mewn ffurf sy’n gallu fod yn fwy hwylus ac effeithiol. O ganlyniad i’r cwricwlwm presennol sy’n dysgu pynciau mewn segmentau, dyw plant ddim yn deall sut mae pynciau yn gallu cyfuno. “One of the most frustrating things to hear from eighth-grade students is that biology doesn’t use math.” (Ackerson, et al, 2010, p.23). Yn ol Kerry (2015) dylai’r cwricwlwm cadw lle ar gyfer dysgu tu hwnt i ddysgu sy’n seiliedig ar un pwnc yn unigol, er mwyn galluogi plant i greu cysylltiadau rhwng meysydd dysgu gwahanol. Trwy seilio gwersi ar brojectau a thasgau grŵp, rydyn yn sicrhau ei bod nhw’n cyrraedd targedau'r cwricwlwm wrth gynnig profiadau dysgu perthnasol a heriol er mwyn cyrraedd anghenion amrywiol y plant a phobl ifanc. Rhai manteision o ddysgu trwy brojectau yw bod y plant yn gweithio gyda’r gyfres cof o “rydw i eisiau gwybod” yn hytrach na gwrando ar athro yn dweud yr hyn mae’n rhaid iddynt ddysgu. Mae’r plant hefyd yn datblygu sgiliau cyffredinol megis gwaith tîm, cyfathrebu, gwrando a datrys problemau. (Lenz, et al, 1991).

 Yn fy marn i mae dysgu draws cwricwlaidd yn ffordd lwyddiannus iawn o gynnig profiadau dysgu gwahanol i ddisgyblion er mwyn cadw diddordeb. O fewn seminar dan arweiniad myfyriwr, roedd cyfle gen i geisio rhoi gwers a oedd yn dilyn dysgu traws cwricwlaidd. Roedd tri rhan i’r sesiwn, yn ystod rhan un, dangoswn fideo i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw gasglu ffeithiau a gwybodaeth ar y topig. Rhan dau oedd bwrdd stori (fig.2), roedd rhaid i’r disgyblion ei lenwi gyda’r wybodaeth casglwyd mewn partneriaid. Ac i gloi rhan 3 oedd tasg greadigol, gofynnwyd i’r disgyblion defnyddio ei ddychymig i greu beth oedden nhw’n meddwl oedd yr hyn dysgant nhw am yn edrych. (fig.3).

Wrth gyfuno technoleg gyda rhyw faint o hanes a chreadigrwydd, credwn fy mod i wedi cynnig digon o gyfleoedd i’r disgyblion datblygu mewn sawl maes dysgu gwahanol a hefyd rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu sgiliau megis casglu gwybodaeth, gwrando, cyfathrebu a gweithio fel tîm, sydd hefyd yn dilyn gofynion y cwricwlwm. Ac o ganlyniad yn cynnig profiad dysgu cadarnhaol i’r disgyblion.

(figure.2)

(figure.3)


 “Our experience of the world is cross-curricular. Everything which surrounds us in the physical world can be seen and understood from multiple perspectives.” (Barnes, 2011, p.1) Mae Barnes (2011) yn tanlinellu sut rydyn yn edrych ar fywyd mewn sawl prospectif er mwyn darganfod y canlyniad gorau, felly pam nad ydynt yn defnyddio'r un rhagolwg ar gyfer addysg? 

Cyfeiriadau.



Ackerson, N., Piser, C. and Walk, K. (2010). ittle Shrimp, Big Results: A Model of an Integrative, Cross-Curricular Activity. Science scope, pp.16-52.
BARNES, J. (2011). Cross-curricular learning 3-14. 2nd ed. London: Sage publications
Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales.. [ebook] Graham Donaldson, p.8. Available at: http://Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [Accessed 5 Dec. 2017].
Hamilton, E., Rosenberg, J. and Akcaoglu, M. (2016). The Substitution Augmentation Modification Redefinition (SAMR) Model: a Critical Review and Suggestions for its Use. TechTrends, 60(5), pp.433-441.
Kerry, T. (2015). Cross-Curricular teaching in the primary school. 4th ed. New York: Routledge, pp.33-40.
Lenz, B., Wells, J. and Kingston, S. (1991). Transforming schools using project-based deeper learning, performance assessment, and common core standards. John Wiley & Sons, Incorporated, pp.66-69.




1 comment:


  1. Credaf yn gryf efo beth wyt ti’n dweud yma Chelsea, mae newidiadau difrifol yn digwydd yn enwedig o fewn addysg, er enghraifft mae tŵf enfawr o fewn y diwylliant technoleg ac felly rhaid cyflwyno hyn i blant er mwyn iddynt gallu paratoi ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol agos. Mae’r defnydd o apps hefyd yn ddefnyddiol iawn i blant o fewn y dosbarth. Cefais i, Harriet John a Chelsea Fugey y cyfle cael ddefnyddio’r app Green Screen er mwyn creu fidio yn dysgu gwahannol emosiynau trwy’r gymraeg i ysgol yn Nairobi, Kenya. Dyma’r fidio gorffenedig:

    https://www.youtube.com/watch?v=85HV_reFZQg

    Credaf fod y defnydd o dechnoleg ac apps yn mantais enfawr sydd gan ddisgyblion oherwydd mae’r cyfle yno i ymchwylio’n ddwfn i unrhyw pwnc y mae’nt yn dymuno.
    Mae’r syniad o ddysgu nifer o bynciau o fewn un prosiect yn apelio at blant ac athrawon, oherwydd credaf fod mwy o ddiddordeb gan blant cael y profiad o weithgareddau sy’n amrywio o fewn pynciau a dulliau ymchwil. Yn lle eistedd wrth ddesg yn dysgu’r un pwnc am awr, mae hi’n cadw fwy o ddiddordeb wrth ffocysu ar prosiect sy’n cyfuno’r pynciau, ond hefyd yn sicrhau’r un llwyddiant ar ddiwedd y dasg. Credaf bod y gwers roeddwn ni’n arwain o fewn y dosbarth yn llwyddiannus iawn oherwydd mi oedd yn cynnwys nifer o bynciau a ddaeth canlyniad llwyddiannus ohoni.

    ReplyDelete