Sunday 3 December 2017

Beth yw pwrpas addysg gynradd?

Mae Donaldson (2015) yn cynnig pedwar pwrpas addysg, yn ei addrodiad, i’r cwricwlwm yng Nghymru ac yn ddweud, os fyddwn yn cael ei cefnogi, dyle nhw ‘guide all future decisions about national and local educational priorities and underpin all teaching and learning in Wales’ (Donaldson, 2015). Y pedwar pwrpas yma yw:

  • ·         Dysgwyr gydoel oes – sydd yn barod i ddysgu trwy gydol ei fywydau.
  • ·         Cyfranwyr mentrus a chreadigol – barod I chwarae rol mewn bywyd a gwaith.
  • ·         Dinasyddion Cymru a’r byd – barod I bod yn dinasyddion o Gymru a weddill y byd.
  • ·         Iechyd a Lles – barod i arwain bywydau cyflan fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(Donaldson, 2015)

Mae gen nifer o arbenigwyr addysg ei damcaniaethau pedagogaidd gwahanol pam ddaw i addysg gynradd. Pedagogy yw ddull ac ymarfer addysgu, yn enwedig fel pwnc academaidd neu gysyniad damcaniaethol (Google Dictionary, 2017). Mae yna llawer o feirniadaeth o ran diffinio pedagogy. Mae rhai yn diffinio pedagogy fel ‘the art or science of learning’ gyda pwyslais ar y gweithgaredd o dysgu. Mewn amglychedd sydd yn canolbwyntio ar y ddysgwyr, mae nhw yn cynnig, ddylai'r addysgu ddim fod yn destun o pryder (Beethan a Sharpe, 2007).

Yn cyfeirio nol at Donaldson (2015) mae ef yn cynnig deuddeg egwyddorion pedagogaidd. Roedd rhai o rhain yn cynnwys focws ar y pwrpas cyffredinnol y cwricwlwm, pwysleisio cydweithredu, perthynas positif, dysgu cyfunol yn cynnwys y rhai sydd yn hyrwyddo datrys problem, creadigrwydd ac meddwl yn feirniadol (Donaldson, 2015).

Yn fy marn i pwrpas addysg yw i addysgu phlant sut i datblygu sgiliau, datrys problemau ac cynnig profiadau newydd o fewn y dosabrth. Mae yna llawer o straen heddiw ar phlant gynradd ac athrawon i cyrraedd targedau ac pharatoi nhw ar gyfer ei TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd). Dwi’n credu dylai phlant cael yr hunanreolaeth o sut mae nhe yn cael ei ddysgu, un o rhain yw trwy dysgu tu allan i’r dosbarth. Gall dysgu tu allan cael pwyslais fwy o fewn y cwricwlwm na sydd dyddiau yma. Mae phlant yn gallu trwy profiad, ac mae dysgu yn yr awyr agored yn profiad mawr. O fewn seminar ddysgom am ysgol goedwig ac pa fath o effaith mae hyn yn gallu cael ar plant gynradd. Isod, dwi wedi rhoi llun o fy ddiagram o’r rhai pethau mae phlant yn dysgu trwy’r awyr agored.


 O fewn Denmark mae ganddo nhw nifer o ysgolion coedwig, y coedwig yw ei ddosabarth neu ‘Kindergarten’. Dwi wedi atodi link I fideo sydd yn siarad am y ysgol coedwig yn Denmark sydd yn cynnig fwy o wybodaeth ac arddangos sut mae’r plant yn dysgu ac proses y dydd. Dwi’n credu all prydain mabwysiadu rhai syniadau oddi wrth ysgolion yn Denmark ac ymgorffori mewn i’r 
cwricwlwm.



“the value of working outside the classroom is in providing pupils with experiences that are different from those inside it. … We want them to learn to behave in ways that are different to classroom behaviour.” (Waite, 2011, p.14). Dwi’n cyntuno beth mae Waite (2011) yn cynnig yma oherwydd nid yw pwrpas addysg yw i eistedd ar bwyd ddesg gyda pen yn ysgifennu trwy’r dydd. Mae angen dysgu gyda emosiwn. Yn ol Waite, Bolling a Benson (2015) mae yna pedwar prif nod i ysgol goedwig, 1. iechyd corfforol, 2. Datblygiad hunan-hyder ac hunan-barch, 3. Ymddygiad, cymdeithasol, emosiynol a lles ac 4. Ymwybyddiaeth a pharch tuag at natur a’r amgylchedd (Waite, Bolling a Bensen, 2015).

I ychwanegu, nid yn unig ydy dysgu yn yr awyr agored yn gallu cael effaith ar dysgu a phrofiad. Roedd 85% o athrawon yn credu bod dysgu yn yr awyr agored yn cael effaith positif ar ymyddygiad. Dywedodd  72% o disgyblion eu bod yn gweithio’n dda gyda'u cyd-ddisgyblion, yn yr awyr agored (Smith, 2017). Cafodd y ymchwil yma ei cynnal gan Woodland Trust Nature gyda 8,500+ o athrawon dros 40,000 ysgolion gynradd ac uwchradd.  Yn amlwg mae angen bod yn critigol wrth ystyried y ddata yma, er hyn mae’r ymchwiliad yn arwyddocaol.

Felly i grynhoi, mae dysgu tu allan y dosbarth yn hynod o bwysig i addysg heddiw. Nid oes digon a pwyslais ac mae yna llawer o cyfleoedd mae’r awyr agored yn gallu cynnig i’r phlant. Cafodd ni darlith gan Emma, a wnaeth sefydlu Beach School Academy, roedd yn ddiddorol i weld ei waith ac sut mae hi’n cymryd disgyblion lawr i’r traeth ac cynnig gweithgareddau. Trwy wneud hyn mae yna nifer o fanteision:
  • ·         Chwarae – defnyddio eu dychymyg.
  • ·         Profiadau newydd
  • ·         Gweithgareddau corfforol (sydd yn gallu cyfeirio nol at un o pedwar pwrpas Donaldson (2015) o iechyd a lles)..
  • ·         Focysu mwy,
  • ·         Ymwybodol o’r amgylchedd a natur.
  • ·         Gweithio fel tim.
  • ·         Rhyddid.

Mae fantesion yma yn bwysig i phlant heddiw, ac felly dyma pam dwi’n credu dysgu yn yr awyr agored yw un o’r factorau pwrpas addysg.

Cyfeiriadau

Beetham, H. and Sharpe, R. (2007) Rethinking pedagogy for a digital age. New York, N.Y.: Routledge.
Dictionary - Google Search (2017). Available at: https://www.google.co.uk/search?site=async/dictw&q=Dictionary#dobs=pedagogy (Accessed: 27 November 2017).
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.
Smith, D. (2017) Why should teachers take the classroom outdoors?, Woodlandtrust.org.uk. Available at: https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2017/05/teachers-and-outdoor-classrooms/ (Accessed: 27 November 2017).
Waite, S. (2011) Children Learning Outside the Classroom. London: Sage
Waite, S., Bølling, M., & Bentsen, P. (2015). Comparing apples and pears?: a conceptual framework for understanding forms of outdoor learning through comparison of English Forest Schools and Danish udeskole. Environmental Education Research, 1-25.






2 comments:

  1. Rwyf yn cytuno gyda dy farn am brif bwrpas addysg yw sicrhau dysgu sgiliau newydd, datrys problemau a derbyn profiadau newydd. Mae’r sgiliau yma yw rhai sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad personol y plant ond hefyd rhai bydd yn fuddiol iawn iddynt yn y dyfodol. Mae Gibb, (2015) yn sôn am sut mae paratoi plant ar gyfer bywyd oedolion yn un o’r elfennau pwysicach o ran pwrpas addysg. Credaf fod y gallu i ddatrys problemau gyda rôl fawr o fewn hyn, oherwydd mae’n gallu dysgu plant sut i negodi, dangos empathi a rhoi barn sef rhai o’r prif sgiliau sydd angen i gydweithio yn llwyddiannus yn y dyfodol. Mae Doorman, et al, (2007) yn pwysleisio bod trwy ddatrys problemau mae plant yn dod yn fwy deallus ac yn dysgu’r strategaeth o sut i ddatrys problemau yn aml. Mae Donaldson, (2015) hefyd yn cefnogi datrys problemau ac yn dweud dylai’r cwricwlwm sicrhau “ambitious, capable learners who are questioning and enjoy solving problems.” (Donaldson, 2015, p.31). Trwy ddatblygu’r sgiliau yma a’i lleoli yng nghanol pwrpas addysg gynradd, rydyn yn sicrhau plant gyda’r sgiliau sydd angen i lwyddo yn bresennol ond hefyd yn y dyfodol agos. Wyt ti’n credu bod paratoi plant ar gyfer y dyfodol yn elfen bwysig o’i addysg nhw? Pa sgiliau arall fydd yn fuddiol iddynt yn dy farn di?
    Gibb, N. (2015). the purpose of education. [online] gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20 Nov. 2017].
    Doorman, M., Drijvers, P., Dekker, T., Heuvel-Panhuizen, M., Lange, J. and Wijers, M. (2007). Problem solving as a challenge for mathematics education in The Netherlands. ZDM, 39(5-6), pp.405-418.

    ReplyDelete
    Replies
    1. I ateb dy gwestiwn cyntaf, dwi'n gytuno bod paratoi plant ar gyfer y dyfodol yn bwysig o'i addysg. Ond er hyn nid yw'r elfen pwysicaf. Mae yna llawer o straen ar phlant dyddiau yma i paratoi nhw ar gyfer ei TGAU o oedran ifanc iawn. Nid yw hyn yn gywir yn fy marn i, yn ystod addysg gynradd ddylai phlant cael yr rhyddid i chwarae ac mwynhau ei phlentyndod, trwy ddysgu sgiliau perthnasol ar gyfer bywyd nid swydd. Mae sgiliau cymdeithasol yn bwysig i codi hyder. geithio gyda eraill ac datrys problem. Dyma sgiliau sydd yn bwysig i ddysgu phlant dyddiau yma. Felly, mae paratoi plant ar gyfer y dyfodol yn bwysig ond efallai nid ar plant iau. Mae hyd yn oed chwarae yn dysgu sgiliau newydd i phlant trwy'r amser e.e cymryd risg, rhannu ac dangos tosturi a chyfeillgarwch i eraill.

      Delete