Friday 8 December 2017

Sut all dysgu cydweithredol cael effaith ar Addysg Gynradd?




Mae dysgu cydweithredol yn defnyddio tasgau hunangynhwysol a gweithgareddau grŵp sy’n fel arfer yn seiliedig ar un topig er mwyn ddatblygu sgiliau cymdeithasol y disgyblion. Trwy hyn mae’r plant yn derbyn cyd-ddealltwriaeth o’r topig sy’n gallu annog trafodaeth addysgol bellach. (Tolmie et al., 2010).

Gan edrych ar theori Vygotsky (1896-1934) o ddysgu cymdeithasol, sylwais roedd Vygotsky yn gweld dysgwyr fel trefnwyr gweithredol. A chredodd bod tasgau meddyliol a corfforol oedd y ffordd orau i ysgogi meddyliau plant. (Kozulin, 2003). Trwy ddysgu cydweithredol mae’r plant gyda chyfle i ddatrys problemau gyda’i chyfoedion, darganfod gwybodaeth newydd a dysgu sut i gydweithio yn llwyddiannus. Trwy wneud hyn mae’r plant yn datblygu mewn sawl maes dysgu ac yn gwella sgiliau a fydd yn hanfodol iddynt ar gyfer y dyfodol. Vygotsky’s work on the interdependence of individual and social processes in children’s meaning-making provides an important foundation for developing teaching–learning environments that value the whole child and honour the different cultures, languages, prior experiences, and learning styles that children take to the classroom.” (Kozulin, 2003, p.120). Rydw i wedi dewis cysylltu'r theori yma gyda dysgu cydweithredol gan fod Vygotsky yn sôn am ba fathau o dasgau sy’n ysgogi plant a hefyd sut mae prosesau cymdeithasol yn gallu sicrhau profiadau dysgu gwerthfawr i blant. Mae’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ddysgu cymdeithasol a hefyd darganfod pa arddulliau dysgu all siwtio plant orau. Mae sawl mantais o wneud hyn sef gwella sgiliau cymdeithasol y disgyblion, sicrhau partneriaeth yn y dosbarth a datblygu sgiliau datrys problemau. 

“In order to fully engage with learning, children and young people require rich, stimulating environments where they can explore and experiment with ideas and resources, collaborate actively with their peers and make dynamic connections with a clear sense of purpose to construct meaning.” (Donaldson, 2015, p.68). Mae dysgu cydweithredol yn cyd-fynd gyda chwricwlwm Donaldson (2015) ac yn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol a cydweithredol. Erbyn heddiw mae’r sgil i allu cymdeithasu a rhannu syniadau yn holl bwysig a fydd yn fuddiol ofnadwy erbyn i’r disgyblion aeddfedu. Felly trwy ddefnyddio'r dechneg hon mewn addysg gynradd rydyn yn sicrhau’r sgiliau yma i’n plant.

Mae rôl iaith yn bwysig Iawn o fewn dysgu cydweithredol, ac yn ôl Lloyd and Beard, (1995) mae’n hanfodol i ddatblygiad plant gan ei bod nhw’n ei ddefnyddio i gyfathrebu, dehongli, gweithio trwy, ac i greu synnwyr o brofiadau. “Learning to communicate is at the heart of education. Not only is talking and writing a major means by what people learn, but what they learn can hardly be distinguished from the ability to communicate it.” (Barnes, 1976, p.73).

Elfen arall a all cael effaith ar ddysgu cydweithredol yw technoleg ac fe welwn ni enghraifft berffaith o sut all hyn gweithio mewn darlith. Roeddwn yn ddigon lwcus i gael y cyfle i gyfathrebu trwy’r rhyngrwyd Skype gyda phrifathro o ysgol yn Kenya, o’r enw Cheery School. Roedd hyn yn enghraifft dda o sut all hyn gweithio mewn addysg gynradd, ffordd dda o gadw diddordeb y disgyblion a’i dysgu am ddiwylliannau gwahanol. A gan fod cymhwysedd digidol yn bwysig iawn erbyn heddiw mae’r dechneg yma yn ffordd dda o ddangos i blant sut i ddefnyddio'r we i fuddio nhw a sut i aros yn ddiogel. Mae’r llun isod yn dangos rhai syniadau arall ar sut i gyfuno technoleg i mewn i ddysgu cydweithredol.

Mae’r sgiliau partneriaeth, cymdeithasol a datrys problemau yn rhai sy’n bwysig iawn i ddatblygiad plant, sy’n gallu datblygu trwy ddysgu cydweithredol. “In group learning, the relationships between students and teachers are different from more traditional educational contexts. Both learners and instructors share the responsibility for the learning experience. Students become participants who use social skills to create knowledge, and undertake and complete tasks.” (Gillies and Ashman, 2003). Isod mae rhai enghreifftiau o ba fath o dasgau allwn ddefnyddio er mwyn arwain dysgu cydweithredol.






Yn fy marn i mae technegau dysgu sy’n cefnogi datblygiad sgiliau'r plentyn yn holl bwysig gan ei bod nhw’n sicrhau bod y plentyn yn gallu ymdopi gyda newidiadau mawr ac yn gallu gwneud synnwyr ohono. Hefyd trwy hyn rydyn yn paratoi nhw ar gyfer y dyfodol a sut i gyfuno sgiliau i fod yn hyderus ac yn gydweithredol o fewn y byd gwaith.


Cyfeiriadau.
Barnes, D. (1976) From communication to curriculum. Harmondsworth: Penguin.

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales.. [ebook] Graham Donaldson, p.8. Available at: http://Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [Accessed 5 Dec. 2017].

Gillies, R. and Ashman, A. (2003). Cooperative learning. London: Routledge-Falmer.

Kozulin, A. (2003). Vygotsky's educational theory in cultural context. Cambridge: Cambridge University Press.

Lloyd, C. and Beard, J. (1995). Managing classroom collaboration. London: Cassell.

Moskowitz, J., Malvin, J., Schaeffer, G. and Schaps, E. (1983). Evaluation of a Cooperative Learning Strategy. American Educational Research Journal, 20(4), pp.687-696.

Tolmie, A., Topping, K., Donald, C., Donaldson, C., Howe, C., Jessiman, E., Livingston, K. and Thurston, A. (2010). Social effects of collaborative learning in primary schools. Learning and instruction, [online] 20(3), pp.177-191. Available at: https://doi.org/10.1016/j.learninstruc.2009.01.005 [Accessed 7 Dec. 2017].











No comments:

Post a Comment