Thursday, 23 November 2017

Beth yw pwrpas Addysg Gynradd?


Addysg yw un o’r systemau mwyaf cymhleth yn y byd, a heb i ni sylwi, rydyn yn ei ddefnyddio trwy’r amser yn ein bywyd bob dydd. Mae sawl safbwynt gwahanol ar beth yw addysg a’i phwrpas, ond yn ôl Novack, (2005) “Education should give every child the chance to grow up spontaneously, harmoniously and all-sidedly.”

Trwy addysg mae gan blant y cyfle i dyfu ac i flodeuo, ac yn bwysicach y cyfle i lwyddo. Felly mae’n rhaid sicrhau system addysg gorau phosib ar ei gyfer nhw. Wrth edrych ar ddiwygiad Donaldson o’r cwricwlwm mae ffocws eitha’ mawr ar ddatblygiad sgiliau'r disgyblion. “General social competences, life skills and personal confidence were seen by all as important things to be gained from school.” (Donaldson, 2015 p.17). Mae disgwyl i ysgolion cynradd paratoi ddisgyblion ar gyfer y dyfodol, felly mae’r sgiliau yma yn holl bwysig er mwyn iddynt ymdopi gyda’r byd mawr sy’n datblygu’n ddyddiol.

“Education is the engine of our economy, it is the foundation of our culture, and it’s an essential preparation for adult life.” (Gibb, 2015). Mae pwyslais mawr ar baratoi plant i fod yn ddinasyddion sy’n ymwybodol o’r byd o’i chwmpas. wrth yr hyn mae’r llywodraeth yn dweud a hefyd beth mae Donaldson yn ei gredu. Un o bedwar pwrpas Donaldson, (2015) yw hybu dinasyddion gwybodus a moesegol sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. Yn y clip fideo isod mae’n hefyd yn pwysleisio dylai’r system addysg rhoi mwy o bwyslais ar baratoi plant ar gyfer y dyfodol a dysgu mwy am gydweithrediad a globaleiddio


Mae pwrpas addysg gynradd yn un anodd ofnadwy i ddiffinio. Mae rhai yn dweud dylai pwrpas addysg bod i roi digon o wybodaeth i blant er mwyn iddynt lwyddo, i baratoi nhw ar gyfer y dyfodol neu i ddysgu digon o sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw. Ond yn fy marn i ddylai’r pwrpas fod yn un syml sy’n sicrhau'r gorau am y disgyblion, mae pob unigolion gyda sgiliau a phriodoleddau gwahanol a dylwn ni fel addysgwyr sicrhau ein bod ni’n cryfhau'r pethau yma yn lle ceisio gwthio’r plant lawr trywydd gwahanol, trwy wneud hyn rydyn yn galluogi’r plant i fod y gorau y gallan nhw fod. y plant sy’n nabod ei chryfderau a diddordebau'r gorau, a trwy ddysgu ar sail beth maen nhw’n mwynhau, maen nhw’n fwy tebygol o gofio a dysgu ar y ffurf yma.

Yn ôl Liberto, (2016) mae addysg dan arweiniad y plant yn dechneg dysgu sy’n gweithio yn effeithiol ac yn effeithlon iawn. Wrth edrych ar y dull Reggio Emelia, sef dull poblogaidd iawn o ddysgu yn Ogledd America, maen nhw’n dysgu ar sail diddordebau'r plant a phrojectau sy’n cael ei gynnal trwy bartneriaeth athro-plentyn (stone,2012). Cafodd project ei gynnal lle'r oedd 7 athro/athrawes Cymraeg mynd draw i Ogledd America i gael profiad o ddysgu yn defnyddio’r dull Reggio Emelia. Yn ôl Maynard and Chicken (2010), roedd yn anodd ar y cychwyn oherwydd roedd yr athrawon yn ceisio rhoi gormod o’r arweiniant i’r plant, ond ar ôl gadael y plant i arwain, roedd canlyniad llwyddiannus iawn gyda un athrawes blwyddyn un yn ysgrifennu…

 “Wow! Talked to my class about the project. They have so many brilliant ideas and questions they want to answer – I am so enthused by their responses and attitude… They have come up with starting points that I would not have dreamt of….” (Maynard, T. and Chicken, S. 2010, p.34).


Wrth edrych nôl at gwricwlwm Donaldson, (2015) I grynhoi, mae ef yn dweud bod plant eisiau gwersi sy’n ddiddorol ac yn ddeniadol. hefyd gwersi sy’n ymarferol o fewn a thu fas i’r ystafell dosbarth. Mae lles y plentyn a beth yr ydyn nhw eisiau yn holl bwysig o fewn y system addysg a ddylai pwrpas addysg fod i lwyddo cyflawni hyn.

cyfeiriadau:
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.
Gibb, N. (2015). the purpose of education. [online] gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20 Nov. 2017].
Liberto, G. (2016). Child-led and interest-inspired learning, home education, learning differences and the impact of regulation. STUDENT LEARNING, CHILDHOOD & VOICES | RESEARCH ARTICLE, [online] 3(1). Available at: https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.1080/2331186X.2016.1194734 [Accessed 22 Nov. 2017].
Maynard, T. and Chicken, S. (2010). Through a different lens: exploring Reggio Emilia in a Welsh context. Early Years, [online] 30(1), pp.29-39. Available at: https://doi.org/10.1080/09575140903443000.
Novack, G. (2005). John Dewey's theories of Education. [online] marxists. Available at: https://www.marxists.org/archive/novack/works/1960/x03.htm [Accessed 20 Nov. 2017].
Stone, J. (2012). A Vygotskian Commentary on the Reggio Emilia Approach. Contemporary Issues in Early Childhood, [online] 13(4), pp.276-289. Available at: https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.2304/ciec.2012.13.4.276 [Accessed 23 Nov. 2017].
what's education for?. (2017). [video]. www.teachertube.com/video/whats-education-for-449608


Monday, 20 November 2017

Beth yw effaith creadigrwydd ar addysg gynradd?


Mae diffinio creadigrwydd yn gallu bod yn un anodd ofnadwy, yn enwedig gan fod y byd rydyn yn byw ynddi yn newid trwy’r amser. Yn ôl Getzels a Jackson (1962) “creativity is one of the most highly valued of human qualities”. Ond pam? Pam mae creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth ac eisoes mor bwysig?

O fewn y diwygiad y cwricwlwm yng Nghymru mae proffesir Graham Donaldson yn argymell pedwar pwrpas i’r cwricwlwm, mae creadigrwydd yn codi o fewn un o rain sef i ddatblygu plant yng Nghymru i fod yn ‘gyfranwyr creadigol’ (Donaldson, 2015). Yn amlwg fe welodd Donaldson diffyg creadigrwydd mewn addysg gynradd ac o fewn y cwricwlwm presennol. “For many teachers and schools, the key task has become to implement the prescribed external expectations for the curriculum and accountability faithfully, with a consequent diminution of both local creativity and responsiveness to the individual needs of children and young people” (Donaldson, 2015). Mae’r darn yma o ‘successful futures’ sef adolygiad Donaldson, yn pwysleisio bod y cwricwlwm presennol sydd a’r fai am ddiffyg creadigrwydd o fewn addysg gynradd, gan fod ormod o ffocws ar bynciau unigol yn lle tasgau/projectau a sgiliau penodol sy’n rhwystro athrawon rhag ymestyn addysg y plant wrth fod yn greadigol.

Mae addysgu y plentyn cyfan yw’r bwriad mwyaf o fewn addysg gynradd ac i sicrhau bod y plentyn yna yn ddatblygu yn holistig. Dros y flynyddoedd mae damcaniaethwyr arweiniol megis Dewey, Bloom a Guilford wedi tanlinellu creadigrwydd ac y gallu i feddwl yn gritigol fel brosesau hanfodol o fewn addysg (Kemple, K.M. & Nissenberg, 2000). Trwy fod yn greadigol yn yr ystafell dosbarth mae’n galluogi plant a ddisgyblion i ddatblygu sgiliau fel chwilfrydedd, rhyfeddod, brwdfrydedd ac y gallu i fod yn ddyfeisiol lle nag y gallen nhw ddysgu trwy rhifedd neu llythrennedd yn unig. Wrth gyfuno creadigrwydd i mewn i bynciau academaidd a’i droi mewn i dasgau greadigol neu projectau ddyfeisgar mae’nt yn herio y ddysgyblion ac yn rhoi weledigaeth mwy eang iddynt ar yr hyn mae nhw’n dysgu.  Yna yn dilyn hyn, mae’r ddysgyblion yn dysgu sut i feddwl yn creadigol ac yn gritiol wrth ddatrys probelmau yn annibynnol neu fel tim ac wrth gyflawni y dasg neu project (Beetlestone, 1998).

Yn ystod seminar wnaethon ni trafod creadigrwydd mewn addysg gynradd a’r sgiliau gall ddisgyblion datblygu wrth ddysgu trwy wneud hyn. Rhai o’r sgiliau wnaeth codi oedd sgiliau ymchwilio, meddwl, datrys problemau, cyfathrebu, defnyddio dychymig a chydweithio. Yna aethon ni ymlaen i arbrofi gyda thasg a oedd yn ddelfrydol i blant addysg gynradd. Roedd y dasg yn gofyn i ni adeiladu rafft a fydd yn arnofio ar ddŵr wrth ddefnyddio adnoddau o’r tu fas a darn o linyn yn ychwanegol. Doedd dim cyfeiriadau penodol ar gyfer y dasg yma, felly roedd rhaid i ni ddefnyddio ein dychymig i feddwl am ba adnoddau i gasglu ac am dechneg i ddilyn wrth ei adeiladu.
Roedd y tasg yma yn lot o hwyl ac yn dangos i ni sut allwn ddysgu yn draws cwricwlaidd gan ddefnyddio creadigrwydd yn ysgogwr. Roedd y dasg yn cynnwys sawl elfen megis:
  •      Casglu adnoddau – Felly defnyddio'r awyr agored fel awyrgylch dysgu a’r dychymig i feddwl am ba adnoddau sydd angen.
  •  Meddwl am siâp y rafft –  Felly defnyddio sgiliau rhifedd.

  • Meddwl am sut mae’r rafft yn arnofio – Felly defnyddio sgiliau gwyddonol.

Roedd hyn yn agoriad llygad i ni fel athrawon y dyfodol a fydd yn defnyddio a dysgu cwricwlwm newydd Donaldson sy’n awgrymu ein bod ni’n dysgu ar sail creadigrwydd. Mi fydd y dasg yma yn ffordd dda i fynd a’r disgyblion allan i’r awyr agored ac iddyn nhw ddod yn ymwybodol a’r hyn sydd o’i chwmpas. Yn ôl Duffy, (2005) mae’n bwysig bod plant gyda mynediad i brofiadau a chyfleoedd gwahanol sy’n greadigol a llawn dychymig, i sicrhau'r canlyniad dysgu gorau phosib mae’n rhaid bod y cyfleoedd yma yn eang, cytbwys ac yn hygyrch. Trwy ddefnyddio'r awyr agored mae’n galluogi’r plant i ddefnyddio ei ddychymig i edrych am yr hyn sydd angen am y dasg ond hefyd yn rhoi cyfle i’r athro i ehangu’r dysgu creadigol a gofyn cwestiynau fel “Beth sy’n byw yn yr ardal yma e.e.. yn y Goedwig? a’i droi mewn i broject lle mae’r plant yn gallu datblygu sgiliau personol a chreadigol.

“I crouched upon a thick cushion of thatch and, looking up, saw one of my 4th-grade students carefully weaving twigs into a network of branches that made up the roof structure of his fort” (Rufo, 2012). Mae’r diffiniad yma o erthygl Rufo yn sôn am beth welodd ef wrth sylwi ar ei ddisgyblion yn adeiladu tu fas yn defnyddio adnoddau naturiol. Roedd Rufo eisiau ystafell dosbarth lle'r oedd hawl gyda’r plant i arwain y dysgu ac yn galluogi nhw i ddysgu trwy ‘inquiry based learning’. Rufo, (2012). Felly aeth ef ymlaen i fynd a’r disgyblion tu fas er mwyn iddynt gael y cyfle i ddysgu yn yr awyr agored. Fe ddwedai ef fod hyn yn agoriad llygad iddo wrth wylio’r plant yn tyfu’n greadigol a hefyd dysgu’r gwerth o natur ac annibyniaeth.Rufo, (2012).

Mae sawl mantais o ddysgu awyr agored, yn ôl Ofstead, (2008) pan ddefnyddiwyd yn iawn, mae dysgu tu fas i’r ystafell dosbarth yn gallu gwella datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol y disgybl trwy godi hyder a hybu annibyniaeth. Hefyd mae defnyddio’r awyr agored fel ardal dysgu mae’n rhoi profiadau dysgu cyfoethog i’r disgyblion lle yr ydynt yn gallu dysgu am yr amgylchedd a defnyddio sgiliau datrys problemau. Hefyd mae’n hyrwyddo ffordd o fyw iachus a gweithredol i’r disgyblion. LOTC, (2009). Mae Donaldson, (2015), hefyd yn cefnogi'r hyn soniwyd uchod ac yn gofyn bod dyma’r fath o bethau sy’n cael ei ddysgu trwy’r cwricwlwm.

Mae creadigrwydd yn hollol bwysig o fewn addysg gynradd, ac mae’n rhaid sicrhau bod plant yn derbyn y cymorth sydd angen er mwyn datblygu yn greadigol gan ddefnyddio cefnogaeth athrawon a rhieni. Trwy ymgorffori creadigrwydd i mewn i’r ystafell dosbarth mae’n galluogi plant i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol a’i harfogi ar gyfer y dyfodol.



Cyfeiriadau.
Beetlestone, F. (1998). Creative children, Imaginative teaching. 1st ed. America: Open University, pp.2-8.
Duffy, B. (2005). Supporting Creativity and Imagination in the Early Years. 2nd ed. Berkshire: McGraw-Hill Education. Available from: ProQuest Ebook Central. [2 November 2017]. P.4
Getzels, J. and Jackson, P. (1962). Creativity and Intelligence. 1st ed. America: University of Chicago, p.1.
Kemple, K. and Nissenberg, S. (2000). Nurturing Creativity in Early Childhood Education: Families Are Part of It. Early Childhood Education Journal, [online] 28(1), pp.67-70. Available at: https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.1023/A:1009555805909 [Accessed 7 Nov. 2017].
LOTC (2009). Benefits for Early Years of Learning Outside the Classroom. Council for learning outside the classroom, [online] p.1. Available at: http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2010/12/Benefits-for-Early-Years-LOtC-Final-5AUG09.pdf [Accessed 20 Nov. 2017].
Ofstead, (2008). Learning outside the classroom How far should you go?. [online] p.5. Available at: http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2010/12/Ofsted-Report-Oct-2008.pdf [Accessed 20 Nov. 2017].
Rufo, D. (2012). Building Forts and Drawing on Walls: Fostering Student-Initiated Creativity Inside and Outside the Elementary Classroom. ART EDUCATION, pp.40-44.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.

Monday, 13 November 2017

Sut allai dysgu trawsgwricwlaidd i raddau effeithio ar addysg gynradd?

Sut allai dysgu trawsgwricwlaidd i raddau effeithio ar addysg gynradd?
     
Mae’r ymagwedd trawsgwricwlaidd wrth ddysgu yn cael ei ymddangos wrth ganolbwyntio ar nodweddion gwahanol megis sgiliau, dealltwriaeth a gwybodaeth o fewn nifer o bynciau. Mi fydd yr agwedd pedagogaidd yma yn cymhell ffordd o ddysgu sy’n croesawi ac yn ymchwilio o fewn i bynciau’n fwy eang wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau (Savage, 2010).

Mae fidio yma’n dangos beth ydy dysgu trawsgwricwlaidd a’i manteision ac anfanteision.

(Jones, 2017)

    O fewn ysgolion mae pwyslais enfawr ar ddysgu i gyffwrdd ar bob un maes dysgu. Mae saith maes dysgu yng Nghymru ar y foment, ond yn fuan mi fydd cwricwlwm Donalson yn cael ei gyflwyno i addysg ac y mae’r cwricwlm yma ond yn cynnwys chwech maes dysgu. Y chwech maes dysgu yw “Expressive arts, Health and well-being, Humanities, Languages, literacy and communication, Mathematics and numeracy, Science and technology” (Donaldson, 2015). Gweler bod y pynciau yma’n llawer fwy eang o ran dysgu yn hytrach na pynciau ffurfiol megis saesneg, mathemateg a phynciau unigol, spesifig. Mae’r llwybr o ddysgu medru arwain i nifer o ffyrdd yn wahannol i ddilyn un criteria penodol; Mae modd dysgu nifer o meysydd gwahannol o fewn ffyrf prosiect neu ymchwil yn lle tafleni gwaith yn unig neu dysgu o lyfr testun.
     Cefnogai Donaldson dysgu trawsgwricwlaidd wrth iddo gynllunio cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd. Mae tair cyfrifoldeb yn cael ei nodi o fewn ei adroddiad; sef Llythrenedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Dywed Donalson “that literacy, numeracy and digital competence should be Cross-curriculum Responsibilities for all teachers and people who work with children and young people. The curriculum structure needs to ensure that children and young people develop high levels of competence in these aspects and have frequent opportunities to develop, extend and apply them across the curriculum” (Donaldson, 2015). Gweler o hyn taw brif amcanion cwricwlwm Donaldson ydy hybu gweithio’n drawsgwricwlaidd a phwysleisio gwella ar sgiliau a phrofiadau bywyd yn lle pwysau pynciau unigol. Mae cefnogaeth i raddau helaeth gan nifer o ffynonellau gwahanol wrth ystyried dysgu trawsgwricwlaidd. Wrth drafod manteision gan Donaldson mae Kerry (2015) hefyd yn ei chefnogi wrth ymchwilio i astudiaeth sydd o blaid i ddysgu’n drawsgwricwlaidd gan Jane Johnston. Dywed o fewn cam allweddol un yn yr ysgol gynradd bod “Learning is best acquired through motivating experiences” (Johnston, 2015) sydd yn cefnogi Donaldson wrth ddangos taw dysgu drwy brofiad ac ymchwil yn lle darllen ffurfiol sy’n manteisio dysgu plant orau. Hefyd dywed Johnston “Learning is best acquired through effective peer interaction. Learning requires effective adult support and interaction” (Johnston, 2015) Dengys fod gweithio gydag eraill yn hytrach na’n draddodiadol ac yn unigol yn gweithio’n well ac hefyd yn pwysleisio ar gyfraniad yr athro/ymarferwr o fewn y broses wrth ei ystyried yn bwysig.
      Wrth edrych ar ochr gwahanol gwelwn gall ddysgu trawsgwricwlaidd nid dim ond manteisio ar blant a’i dysgu, ond ar y llaw arall gall fod yn heriol i athrawon wrth gynllunio gwersi. Rhaid ystyried amgylchedd o fewn dosbarth er mwyn sicrhau bod y plant medru ymchwilio i’w dymuniad, cytunai Hadow efo’r syniad yma gan nodi yn eu adroddiad “What is necessary is that the curriculum of the school should make every use of the environment of the pupils” (Hadow, 1931). Gweler yma fod Hadow yn pwysleisio ar ddefnydd yr amgylchedd gan y disgyblion ac yn ffocysu ar ddysgu arweiniol gan y plant eu hunain o fewn amgylchedd addas ac effeithiol. Felly gwelwn fod llawer o bwyslais ar athrawon sicrhau fod y dosbarth a’r amgylchedd yn berffaith i strwythuro dysgu llwyddianus ond yn anffodus nid oes gan bob ysgol mynediad i rhai adnoddau neu ardaloedd anghenreidiol oherwydd rhesymau megis arian neu lleoliad. Mae athrawon/ymarferwyr yn treulio llawer o amser yn cynllunio gwersi a chynllun y dosbarth er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau sy’n cael eu darparu yn ffitio i bob maes dysgu ac yn addas, gweler yn y fidio yma beth y mae Paula Parkinson a holl athrawon yr ysgol gynradd yn ystyried wrth ddarparu a dysgu i’w ddisgyblion:


(Parkinson, Kelly and Furlong, 2014)
    
Cefais y cyfle profi dysgu trasgwricwlaidd i ddisgyblion yn fy nosbarth i yn y brif ysgol. Roedd cyfle i mi gynllunio gwers a’i ddysgu i grwp o ddisgyblion efo partner. Roedd rhaid llenwi taflen strwythr gwers gan y PGCE; Roedd hyn yn ddefnyddiol oherwydd roedd modd gweld yn union faint o meysydd sydd rhaid i athrawon ei ystyried wrth gynllunio gwers. Dyma rhan o’r taflen yn dangos beth oedd rhaid ystyried wrth gynllunio.



    Gwelwch ym mocs yr ail cwestiwn roedd rhaid sicrhau bod sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael ei ddysgu o fewn y tasg. Rhaid i athrawon feddwl yn hir am wersi a sicrhau cynllunio manwl wrth ystyried dysgu plant a sicrhau eu bod yn ychwanegu popeth sydd rhaid dysgu. Wrth ddysgu o brofiadau personol; Gwelaf fod dysgu trawsgwricwlaidd yn effeithiol iawn wrth iddi adael i blant arwain eu dysgu eu hun o fewn y dosbarth a chael y cyfle i mynegi eu hunain yn greadigol, ond ar y llaw arall mi fydd llawer o waith ychwanegol i athrawon wrth gynllunio ac efallai bydd angen hyfforddiant ar syt i ddysgu’n wahanol i ddulliau traddodiadol y maent yn arfer iddi.


Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.39-40. Available at: http://file:///Users/amypippen/Downloads/Donaldson%20Report%20-%20Successful%20Futures%20-%20Independent%20Review%20of%20Curriculum%20and%20Assessment%20Arrangements%20in%20Wales%20(3).pdf [Accessed 9 Nov. 2017].

Hadow, W. (1931). Report of The Consultative Committee on THE PRIMARY SCHOOL. [online] London: HIS MAJESTY'S STATIONERY OFFICE, p.xxiii. Available at: http://www.educationengland.org.uk/documents/hadow1931/hadow1931.html [Accessed 13 Nov. 2017].

Johnston, J. (2015). The cross-curricular approach in Key Stage 1. In: T. Kerry, ed., Cross-Curricular Teaching in The Primary School Planning and Facilitating Imaginative Lessons, 2nd ed. New York: Routledge, p.58.

Jones, C. (2017). Cross Curricular Teaching. [video] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=YcacGpY4lyk [Accessed 13 Nov. 2017].

Kerry, T. (2015). Cross-Curricular Teaching in The Primary School Planning and Facilitating Imaginative Lessons. 2nd ed. New York: Routledge, p.58.

Parkinson, P., Kelly, J. and Furlong, J. (2014). Cross-Curricular Teaching and Learning. [video] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=3KpPS_q8FKc [Accessed 13 Nov. 2017].

Savage, J. (2010). Cross-curricular teaching and learning 5: Definitions. [ebook] Jonathan Savage. Available at: http://www.jsavage.org.uk/research/cross-curricular-teaching-and-learning-5-definitions/ [Accessed 13 Nov. 2017].


Sunday, 12 November 2017

Pwrpas Addysg Gynradd Heddiw

Pwrpas Addysg Gynradd Heddiw

Addysg Gynradd yw'r cam cyntaf o addysg, mae ganddo nod sylfaenol sef i greu, sefydlu a chynnig cyfleoedd i bob plentyn, heb ots am ei oedran, rhyw neu wlad tarddiad, i sicrhau datblygiad gwybyddol, emosiynol a seicomotor cytbwys (Hughes,2016).

Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, mae pwrpas addysg gynradd yng Nghymru a Lloegr wedi cael ei newid a’i hailstrwythuro (McClung, 2013). Er bod nifer fawr o fentrau a newidiadau wedi bod yn y system, mae nodau, dibenion, gwerthoedd a blaenoriaethau addysg gynradd wedi parhau, yn ystod y cyfnod, i gael eu siapio gan ddau brif ddylanwad.

Mae’r cyntaf, a gyflwynwyd gan eiriolwyr o addysg sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yw’r angen am system hyblyg ac ymreolaethol o addysg gynradd (Boyce 1946; Marshall 1963; Schiller 1972; March 1970; Armstrong 1980; Rowland 1984); mae'r ail, wedi'i sbarduno'n fwy gan nodau gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol gwlad, yn pwysleisio ar ganoli a safoni (Shuayb, 2008).

Yn fy marn i, mae cyfrifoldeb ar athrawon i ddysgu eu disgyblion am ei tharddiad. Yn ôl McClung, dylai addysg gynradd fod yn siawns i blant i ddod yn gyfarwydd â'u gwareiddiad a'u traddodiad ac i ddatblygu parch a chariad am eu treftadaeth genedlaethol, gan ddod yn ymwybodol o'u hunaniaeth genedlaethol. Mae dysgu am draddodiadau a threftadaeth o oedran ifanc yn rhoi sylfaen, dyfnder a dealltwriaeth ym mhynciau economeg, addysg, daearyddiaeth, y gyfraith, seicoleg, ieithyddiaeth, gwyddoniaeth wleidyddol a pholisi tramor - ymhlith eraill. Mae'n darparu hadau a fydd yn tyfu'n ddoethineb wrth astudio unrhyw un o'r pynciau uchod ymhellach wrth iddyn nhw barhau trwy addysg. (McClung, 2013).

I fi, mae addysg gynradd yn ymwneud â hybu creadigrwydd a darparu cymaint o brofiadau ymarferol ag sy’n bosib i'r plant. Tripiau ysgol yw rhan o addysg gynradd yr wyf yn credu sy’n hynod o bwysig, Mae teithiau maes yn bwysig i helpu i bontio'r bwlch rhwng addysg a phrofiadau ymarferol. Edrychwch ar ysgolion preifat fel enghreifftiau, fe welwch fod teithiau maes yn ofyniad hanfodol i'w cwricwlwm addysgol (Karaca, 2016). Ymhlith y nifer o ganlyniadau posibl, mae ymchwil wedi dangos bod teithiau maes yn:

ü  Cynyddu diddordeb ac ymgysylltu gyda’r pwnc, heb ystyried diddordeb blaenorol ynddo (Kisiel, 2005; Bonderup Dohn, 2011),

ü  Canlyniad enillion megis teimladau mwy cadarnhaol tuag at bwnc (Csikszentmihalyi & Hermanson, 1995; Nadelson & Jordan, 2012).

ü  Profiadau y gellir eu galw'n ôl arno ac sy’n ddefnyddiol ar ôl ymweliad (Salmi, 2003; Falk & Dierking, 1997; Wolins, Jensen, a Ulzheimer, 1992).

(Franklin, 2014)

I grynhoi, dylai addysg gynradd baratoi pobl ifanc am fywyd, gwaith a dinasyddiaeth, ond mewn ffordd hwyliog a chorfforol. Hefyd, mae'r byd yn symud yn gyflym - felly mae'n hanfodol bod plant yn cael eu cyflwyno i dechnolegau newydd a chael cyfle i'w dysgu a'u profi mewn ystafell ddosbarth.

Mae ysgol gynradd yn gyfle perffaith i blant ffeindio’i hun,i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, eu meddwl beirniadol a'u creadigrwydd. Dylai plant gael y cyfle i brofi ac archwilio eu synhwyrau, trwy ddysgu yn yr awyr agored neu ddysgu tra ar daith ysgol (Cullingford, 1989).

Mae'r ysgol gynradd yn lle i blant ddod o hyd i ble maent yn dod, eu treftadaeth a'u tarddiad er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o draddodiadau, dynoliaeth a'r byd yr ydym yn byw ynddo (McClung, 2013). Dylent gael y cyfle i ddysgu trwy wneud a defnyddio eu gwybodaeth mewn ffyrdd creadigol.




Cyfeiriadau

Cullingford, C. (1989). The Primary teacher. London: Cassell.
Franklin, T. (2014). A Review of Research on School Field Trips and Their Value in Education. ERIC, 9(3).
Gov.uk. (2017). The purpose of education - GOV.UK. [online] Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 7 Oct. 2017].
Hughes, P. (2016). Principles of primary education. [Place of publication not identified]: Routledge.
KARACA, N. (2016). FIELD TRIPS IN PRE - SCHOOL EDUCATION. Journal of International Social Research, 9(45), pp.590-590.
McClung, M. (2013). Repurposing Education. SAGE journals, [online] 94(8). Available at: http://journals.sagepub.com.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/doi/abs/10.1177/003172171309400809 [Accessed 12 Oct. 2017].
Moec.gov.cy. (2017). Department of Primary Education. [online] Available at: http://www.moec.gov.cy/dde/en/ [Accessed 3 Nov. 2017].
Shuayb, M. (2008). Aims and Values in Primary Education: England and other countries. [online] Cprtrust.org.uk. Available at: http://cprtrust.org.uk/wp-content/uploads/2014/06/research-survey-1-2.pdf [Accessed 3 Nov. 2017].