Addysg yw un o’r
systemau mwyaf cymhleth yn y byd, a heb i ni sylwi, rydyn yn ei ddefnyddio
trwy’r amser yn ein bywyd bob dydd. Mae sawl safbwynt gwahanol ar beth yw
addysg a’i phwrpas, ond yn ôl Novack, (2005) “Education should give every child
the chance to grow up spontaneously, harmoniously and all-sidedly.”
Trwy addysg mae gan blant
y cyfle i dyfu ac i flodeuo, ac yn bwysicach y cyfle i lwyddo. Felly mae’n
rhaid sicrhau system addysg gorau phosib ar ei gyfer nhw. Wrth edrych ar
ddiwygiad Donaldson o’r cwricwlwm mae ffocws eitha’ mawr ar ddatblygiad
sgiliau'r disgyblion. “General social competences, life skills and personal
confidence were seen by all as important things to be gained from school.”
(Donaldson, 2015 p.17). Mae disgwyl i ysgolion cynradd paratoi ddisgyblion ar
gyfer y dyfodol, felly mae’r sgiliau yma yn holl bwysig er mwyn iddynt ymdopi
gyda’r byd mawr sy’n datblygu’n ddyddiol.
“Education is the engine
of our economy, it is the foundation of our culture, and it’s an essential
preparation for adult life.” (Gibb, 2015).
Mae pwyslais mawr ar baratoi plant i fod yn ddinasyddion sy’n ymwybodol o’r byd
o’i chwmpas. wrth yr hyn mae’r llywodraeth yn dweud a hefyd beth mae Donaldson
yn ei gredu. Un o bedwar pwrpas Donaldson, (2015) yw hybu dinasyddion gwybodus
a moesegol sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. Yn y clip fideo
isod mae’n hefyd yn pwysleisio dylai’r system addysg rhoi mwy o bwyslais ar
baratoi plant ar gyfer y dyfodol a dysgu mwy am gydweithrediad a globaleiddio
Mae pwrpas addysg gynradd
yn un anodd ofnadwy i ddiffinio. Mae rhai yn dweud dylai pwrpas addysg bod i
roi digon o wybodaeth i blant er mwyn iddynt lwyddo, i baratoi nhw ar gyfer y
dyfodol neu i ddysgu digon o sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw. Ond yn fy marn i
ddylai’r pwrpas fod yn un syml sy’n sicrhau'r gorau am y disgyblion, mae pob
unigolion gyda sgiliau a phriodoleddau gwahanol a dylwn ni fel addysgwyr
sicrhau ein bod ni’n cryfhau'r pethau yma yn lle ceisio gwthio’r plant lawr
trywydd gwahanol, trwy wneud hyn rydyn yn galluogi’r plant i fod y gorau y
gallan nhw fod. y plant sy’n nabod ei chryfderau a diddordebau'r gorau, a trwy
ddysgu ar sail beth maen nhw’n mwynhau, maen nhw’n fwy tebygol o gofio a dysgu
ar y ffurf yma.
Yn
ôl Liberto, (2016) mae addysg dan arweiniad y plant yn dechneg dysgu sy’n
gweithio yn effeithiol ac yn effeithlon iawn. Wrth edrych ar y dull Reggio
Emelia, sef dull poblogaidd iawn o ddysgu yn Ogledd America, maen nhw’n dysgu
ar sail diddordebau'r plant a phrojectau sy’n cael ei gynnal trwy bartneriaeth
athro-plentyn (stone,2012). Cafodd project ei gynnal lle'r oedd 7
athro/athrawes Cymraeg mynd draw i Ogledd America i gael profiad o ddysgu yn
defnyddio’r dull Reggio Emelia. Yn ôl Maynard and Chicken (2010), roedd yn anodd
ar y cychwyn oherwydd roedd yr athrawon yn ceisio rhoi gormod o’r arweiniant
i’r plant, ond ar ôl gadael y plant i arwain, roedd canlyniad llwyddiannus iawn
gyda un athrawes blwyddyn un yn ysgrifennu…
“Wow! Talked to my class about the project.
They have so many brilliant ideas and questions they want to answer – I am so
enthused by their responses and attitude… They have come up with starting
points that I would not have dreamt of….” (Maynard, T. and Chicken, S. 2010,
p.34).
Wrth edrych nôl at gwricwlwm
Donaldson, (2015) I grynhoi, mae ef yn dweud bod plant eisiau gwersi sy’n
ddiddorol ac yn ddeniadol. hefyd gwersi sy’n ymarferol o fewn a thu fas i’r
ystafell dosbarth. Mae lles y plentyn a beth yr ydyn nhw eisiau yn holl bwysig
o fewn y system addysg a ddylai pwrpas addysg fod i lwyddo cyflawni hyn.
cyfeiriadau:
Donaldson, G. (2015). Successful
Futures. Independant review of the curriculum and assessment arrangements in
wales, pp.13-21.
Gibb, N. (2015). the purpose of
education. [online] gov.uk. Available at:
https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20
Nov. 2017].
Liberto, G. (2016). Child-led and
interest-inspired learning, home education, learning differences and the impact
of regulation. STUDENT LEARNING, CHILDHOOD & VOICES | RESEARCH ARTICLE,
[online] 3(1). Available at: https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.1080/2331186X.2016.1194734
[Accessed 22 Nov. 2017].
Maynard,
T. and Chicken, S. (2010). Through a different lens: exploring Reggio Emilia in
a Welsh context. Early Years, [online] 30(1), pp.29-39. Available at: https://doi.org/10.1080/09575140903443000.
Novack, G. (2005). John Dewey's
theories of Education. [online] marxists. Available at:
https://www.marxists.org/archive/novack/works/1960/x03.htm [Accessed 20 Nov.
2017].
Stone, J. (2012). A Vygotskian
Commentary on the Reggio Emilia Approach. Contemporary Issues in Early Childhood, [online] 13(4), pp.276-289. Available at:
https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.2304/ciec.2012.13.4.276 [Accessed
23 Nov. 2017].
Rwyf yn hoffi y pwyslais ar phlant yn arwain ei ddysgu ac yn gwbl cyntuno gyda hyn a’r syniad o annibyniaeth. Mae Handscomb (2012) yn rhoi pwyslais ar llais y ddisbyblion, nid jyst o fewn y dosbarth ond yn yr ysgol. Mae ef yn ddweud ‘The important thing is that you genuinely let the pupil’s voice count’ (Handscomb, 2012). Mae’r syniad yma o gweithio yn annibynnol yn gyd-fynd gyda’r syniad o cydweithrediad.
ReplyDeleteRwyt yn siarad am y syniad o addysg yn paratoi chi ar gyfer eich dyfodol, wyt ti’n credu dyma prif pwrpas addysg? Yn ol Waite (2011) pwrpas addysg yw i cael fwy o pwyslais ar pofiadau er enghraifft yn yr awyr agored. “the value of working outside the classroom is in providing pupils with experiences that are different from those inside it. … We want them to learn to behave in ways that are different to classroom behaviour.” (Waite, 2011, p.14). Wyt ti’n credu fod dysgu yn yr awyr agored yn gallu dysgu sgiliau newydd i phlant, fel rwyt ti’n pwysleisio yn dy blog?
Cyfeiriadau
Handscomb, G. (2012). Working together and enquiring within. In Cockburn, A. and Handscomb, G. eds. Teaching Children 3-11. 3rd Ed. London: SAGE.
Waite, S. (2011) Children Learning Outside the Classroom. London: Sage
Diolch am yr ymateb Jessica, yn fy marn i gredaf fod addysg sy'n paratoi disgyblion ar gyfer y dyfodol yw un o'r ychydig o bethau sy'n cyfuno i greu pwrpas addysg gynradd. yn ôl Gibb, (2015) mae yna tair peth sy'n cyfuno i greu pwrpas addysg gyda pharatoi plant ar gyfer bywyd oedolion yn un o rheini. Er hyn fy marn bersonol i yw bod sawl elfen yn cyfuno i greu pwrpas addysg a does dim un ateb syml. Un o’r elfennau yma yw rhoi profiadau dysgu cyfoethog i'r disgyblion ac un enghraifft o hyn fydd dysgu awyr agored. Mae dysgu awyr agored yn gallu sicrhau datblygiad sgiliau plant trwy eu mwynhad nhw. mae sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, cymryd risg, cydweithrediad a datrys problemau i gyd yn gallu datblygu trwy ddysgu awyr agored, cefnogwyd gan Bilton, (2010). felly ydw, credaf fod dysgu awyr agored gyda sawl mantais i ddatblygiad plant. Yn dy farn di, pa sgiliau ddylwn ni arfogi plant gyda, er mwyn iddyn nhw lwyddo yn y dyfodol?
ReplyDeleteBilton, H. (2010). Outdoor learning in the early years - management and innovation. 3rd ed. London: Routledge, pp.11-13.
Gibb, N. (2015). the purpose of education. [online] gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 11 Nov. 2017].