Sunday 12 November 2017

Pwrpas Addysg Gynradd Heddiw

Pwrpas Addysg Gynradd Heddiw

Addysg Gynradd yw'r cam cyntaf o addysg, mae ganddo nod sylfaenol sef i greu, sefydlu a chynnig cyfleoedd i bob plentyn, heb ots am ei oedran, rhyw neu wlad tarddiad, i sicrhau datblygiad gwybyddol, emosiynol a seicomotor cytbwys (Hughes,2016).

Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, mae pwrpas addysg gynradd yng Nghymru a Lloegr wedi cael ei newid a’i hailstrwythuro (McClung, 2013). Er bod nifer fawr o fentrau a newidiadau wedi bod yn y system, mae nodau, dibenion, gwerthoedd a blaenoriaethau addysg gynradd wedi parhau, yn ystod y cyfnod, i gael eu siapio gan ddau brif ddylanwad.

Mae’r cyntaf, a gyflwynwyd gan eiriolwyr o addysg sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yw’r angen am system hyblyg ac ymreolaethol o addysg gynradd (Boyce 1946; Marshall 1963; Schiller 1972; March 1970; Armstrong 1980; Rowland 1984); mae'r ail, wedi'i sbarduno'n fwy gan nodau gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol gwlad, yn pwysleisio ar ganoli a safoni (Shuayb, 2008).

Yn fy marn i, mae cyfrifoldeb ar athrawon i ddysgu eu disgyblion am ei tharddiad. Yn ôl McClung, dylai addysg gynradd fod yn siawns i blant i ddod yn gyfarwydd â'u gwareiddiad a'u traddodiad ac i ddatblygu parch a chariad am eu treftadaeth genedlaethol, gan ddod yn ymwybodol o'u hunaniaeth genedlaethol. Mae dysgu am draddodiadau a threftadaeth o oedran ifanc yn rhoi sylfaen, dyfnder a dealltwriaeth ym mhynciau economeg, addysg, daearyddiaeth, y gyfraith, seicoleg, ieithyddiaeth, gwyddoniaeth wleidyddol a pholisi tramor - ymhlith eraill. Mae'n darparu hadau a fydd yn tyfu'n ddoethineb wrth astudio unrhyw un o'r pynciau uchod ymhellach wrth iddyn nhw barhau trwy addysg. (McClung, 2013).

I fi, mae addysg gynradd yn ymwneud â hybu creadigrwydd a darparu cymaint o brofiadau ymarferol ag sy’n bosib i'r plant. Tripiau ysgol yw rhan o addysg gynradd yr wyf yn credu sy’n hynod o bwysig, Mae teithiau maes yn bwysig i helpu i bontio'r bwlch rhwng addysg a phrofiadau ymarferol. Edrychwch ar ysgolion preifat fel enghreifftiau, fe welwch fod teithiau maes yn ofyniad hanfodol i'w cwricwlwm addysgol (Karaca, 2016). Ymhlith y nifer o ganlyniadau posibl, mae ymchwil wedi dangos bod teithiau maes yn:

ü  Cynyddu diddordeb ac ymgysylltu gyda’r pwnc, heb ystyried diddordeb blaenorol ynddo (Kisiel, 2005; Bonderup Dohn, 2011),

ü  Canlyniad enillion megis teimladau mwy cadarnhaol tuag at bwnc (Csikszentmihalyi & Hermanson, 1995; Nadelson & Jordan, 2012).

ü  Profiadau y gellir eu galw'n ôl arno ac sy’n ddefnyddiol ar ôl ymweliad (Salmi, 2003; Falk & Dierking, 1997; Wolins, Jensen, a Ulzheimer, 1992).

(Franklin, 2014)

I grynhoi, dylai addysg gynradd baratoi pobl ifanc am fywyd, gwaith a dinasyddiaeth, ond mewn ffordd hwyliog a chorfforol. Hefyd, mae'r byd yn symud yn gyflym - felly mae'n hanfodol bod plant yn cael eu cyflwyno i dechnolegau newydd a chael cyfle i'w dysgu a'u profi mewn ystafell ddosbarth.

Mae ysgol gynradd yn gyfle perffaith i blant ffeindio’i hun,i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, eu meddwl beirniadol a'u creadigrwydd. Dylai plant gael y cyfle i brofi ac archwilio eu synhwyrau, trwy ddysgu yn yr awyr agored neu ddysgu tra ar daith ysgol (Cullingford, 1989).

Mae'r ysgol gynradd yn lle i blant ddod o hyd i ble maent yn dod, eu treftadaeth a'u tarddiad er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o draddodiadau, dynoliaeth a'r byd yr ydym yn byw ynddo (McClung, 2013). Dylent gael y cyfle i ddysgu trwy wneud a defnyddio eu gwybodaeth mewn ffyrdd creadigol.




Cyfeiriadau

Cullingford, C. (1989). The Primary teacher. London: Cassell.
Franklin, T. (2014). A Review of Research on School Field Trips and Their Value in Education. ERIC, 9(3).
Gov.uk. (2017). The purpose of education - GOV.UK. [online] Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 7 Oct. 2017].
Hughes, P. (2016). Principles of primary education. [Place of publication not identified]: Routledge.
KARACA, N. (2016). FIELD TRIPS IN PRE - SCHOOL EDUCATION. Journal of International Social Research, 9(45), pp.590-590.
McClung, M. (2013). Repurposing Education. SAGE journals, [online] 94(8). Available at: http://journals.sagepub.com.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/doi/abs/10.1177/003172171309400809 [Accessed 12 Oct. 2017].
Moec.gov.cy. (2017). Department of Primary Education. [online] Available at: http://www.moec.gov.cy/dde/en/ [Accessed 3 Nov. 2017].
Shuayb, M. (2008). Aims and Values in Primary Education: England and other countries. [online] Cprtrust.org.uk. Available at: http://cprtrust.org.uk/wp-content/uploads/2014/06/research-survey-1-2.pdf [Accessed 3 Nov. 2017].








1 comment:

  1. Rydw i’n cytuno i raddau helaeth efo’r blog yma ac efo’r syniad fod pwrpas addysg gynradd yw er mwyn darparu profiadau ymarferol, wrth ddarparu profiadau gwelwn ei fod yn paratoi plant at fywyd y dyfodol, credai Craft hyn wrth iddo gael ei gyfeio gan Shaheen (Shaheen, 2010, cited Craft, 1999) “there is a call for its inclusion in education as a “fundamental life skill”. Felly gwelwn mi fydd profiadau a chreadigrwydd yn rhoi’r cyfle i blant ymarfer ar sgiliau ar gyfer eu dyfodol. Hefyd, rydw i’n cytuno efo’r elfen o gynal diddordeb o fewn y pwnc er mwyn cadw ffocws y plant yn ystod y weithgareddau. Credaf hefyd yn ychwanegol bod rôl yr athro yn hanfodol wrth modelu gwersi, oherwydd heb wersi diddorol, na fydd diddordeb yn cael ei chynal gan y disgyblion; Felly o fewn gwersi dylai athrawon cynnig nifer o weithgareddau gwahannol er mwyn I blant gael mwynhau eu dysgu. Gweler fod OFSTED yn cefnogi hyn wrth ddweud dylai plant “feel safe in contributing their ideas, being inventive, making connections and experimenting with practical approaches to problem-solving.” (OFSTED, 2010). Credaf yn gryf hefyd efo’ch dehongliad fod ysgol gynradd yn lle i blant ddarganfod elfen o hunan werth a hyder wrth iddynt dderbyn y cymorth a’r cyfleusterau er mwyn ei bwysleisio i mynegi eu hun.


    OFSTED (2010). Learning: creative approaches that raise standards. [ebook] Manchester: OFSTED, p.15. Available at: http://www.creativitycultureeducation.org/wp-content/uploads/learning-creative-approaches-that-raise-standards-250.pdf [Accessed 8 Dec. 2017].

    Shaheen, R. (2010). Creativity and Education. Creative Education, [online] 01(03), pp.166-169. Available at: https://files.eric.ed.gov/fulltext/ED521875.pdf [Accessed 8 Dec. 2017].

    ReplyDelete