Monday 20 November 2017

Beth yw effaith creadigrwydd ar addysg gynradd?


Mae diffinio creadigrwydd yn gallu bod yn un anodd ofnadwy, yn enwedig gan fod y byd rydyn yn byw ynddi yn newid trwy’r amser. Yn ôl Getzels a Jackson (1962) “creativity is one of the most highly valued of human qualities”. Ond pam? Pam mae creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth ac eisoes mor bwysig?

O fewn y diwygiad y cwricwlwm yng Nghymru mae proffesir Graham Donaldson yn argymell pedwar pwrpas i’r cwricwlwm, mae creadigrwydd yn codi o fewn un o rain sef i ddatblygu plant yng Nghymru i fod yn ‘gyfranwyr creadigol’ (Donaldson, 2015). Yn amlwg fe welodd Donaldson diffyg creadigrwydd mewn addysg gynradd ac o fewn y cwricwlwm presennol. “For many teachers and schools, the key task has become to implement the prescribed external expectations for the curriculum and accountability faithfully, with a consequent diminution of both local creativity and responsiveness to the individual needs of children and young people” (Donaldson, 2015). Mae’r darn yma o ‘successful futures’ sef adolygiad Donaldson, yn pwysleisio bod y cwricwlwm presennol sydd a’r fai am ddiffyg creadigrwydd o fewn addysg gynradd, gan fod ormod o ffocws ar bynciau unigol yn lle tasgau/projectau a sgiliau penodol sy’n rhwystro athrawon rhag ymestyn addysg y plant wrth fod yn greadigol.

Mae addysgu y plentyn cyfan yw’r bwriad mwyaf o fewn addysg gynradd ac i sicrhau bod y plentyn yna yn ddatblygu yn holistig. Dros y flynyddoedd mae damcaniaethwyr arweiniol megis Dewey, Bloom a Guilford wedi tanlinellu creadigrwydd ac y gallu i feddwl yn gritigol fel brosesau hanfodol o fewn addysg (Kemple, K.M. & Nissenberg, 2000). Trwy fod yn greadigol yn yr ystafell dosbarth mae’n galluogi plant a ddisgyblion i ddatblygu sgiliau fel chwilfrydedd, rhyfeddod, brwdfrydedd ac y gallu i fod yn ddyfeisiol lle nag y gallen nhw ddysgu trwy rhifedd neu llythrennedd yn unig. Wrth gyfuno creadigrwydd i mewn i bynciau academaidd a’i droi mewn i dasgau greadigol neu projectau ddyfeisgar mae’nt yn herio y ddysgyblion ac yn rhoi weledigaeth mwy eang iddynt ar yr hyn mae nhw’n dysgu.  Yna yn dilyn hyn, mae’r ddysgyblion yn dysgu sut i feddwl yn creadigol ac yn gritiol wrth ddatrys probelmau yn annibynnol neu fel tim ac wrth gyflawni y dasg neu project (Beetlestone, 1998).

Yn ystod seminar wnaethon ni trafod creadigrwydd mewn addysg gynradd a’r sgiliau gall ddisgyblion datblygu wrth ddysgu trwy wneud hyn. Rhai o’r sgiliau wnaeth codi oedd sgiliau ymchwilio, meddwl, datrys problemau, cyfathrebu, defnyddio dychymig a chydweithio. Yna aethon ni ymlaen i arbrofi gyda thasg a oedd yn ddelfrydol i blant addysg gynradd. Roedd y dasg yn gofyn i ni adeiladu rafft a fydd yn arnofio ar ddŵr wrth ddefnyddio adnoddau o’r tu fas a darn o linyn yn ychwanegol. Doedd dim cyfeiriadau penodol ar gyfer y dasg yma, felly roedd rhaid i ni ddefnyddio ein dychymig i feddwl am ba adnoddau i gasglu ac am dechneg i ddilyn wrth ei adeiladu.
Roedd y tasg yma yn lot o hwyl ac yn dangos i ni sut allwn ddysgu yn draws cwricwlaidd gan ddefnyddio creadigrwydd yn ysgogwr. Roedd y dasg yn cynnwys sawl elfen megis:
  •      Casglu adnoddau – Felly defnyddio'r awyr agored fel awyrgylch dysgu a’r dychymig i feddwl am ba adnoddau sydd angen.
  •  Meddwl am siâp y rafft –  Felly defnyddio sgiliau rhifedd.

  • Meddwl am sut mae’r rafft yn arnofio – Felly defnyddio sgiliau gwyddonol.

Roedd hyn yn agoriad llygad i ni fel athrawon y dyfodol a fydd yn defnyddio a dysgu cwricwlwm newydd Donaldson sy’n awgrymu ein bod ni’n dysgu ar sail creadigrwydd. Mi fydd y dasg yma yn ffordd dda i fynd a’r disgyblion allan i’r awyr agored ac iddyn nhw ddod yn ymwybodol a’r hyn sydd o’i chwmpas. Yn ôl Duffy, (2005) mae’n bwysig bod plant gyda mynediad i brofiadau a chyfleoedd gwahanol sy’n greadigol a llawn dychymig, i sicrhau'r canlyniad dysgu gorau phosib mae’n rhaid bod y cyfleoedd yma yn eang, cytbwys ac yn hygyrch. Trwy ddefnyddio'r awyr agored mae’n galluogi’r plant i ddefnyddio ei ddychymig i edrych am yr hyn sydd angen am y dasg ond hefyd yn rhoi cyfle i’r athro i ehangu’r dysgu creadigol a gofyn cwestiynau fel “Beth sy’n byw yn yr ardal yma e.e.. yn y Goedwig? a’i droi mewn i broject lle mae’r plant yn gallu datblygu sgiliau personol a chreadigol.

“I crouched upon a thick cushion of thatch and, looking up, saw one of my 4th-grade students carefully weaving twigs into a network of branches that made up the roof structure of his fort” (Rufo, 2012). Mae’r diffiniad yma o erthygl Rufo yn sôn am beth welodd ef wrth sylwi ar ei ddisgyblion yn adeiladu tu fas yn defnyddio adnoddau naturiol. Roedd Rufo eisiau ystafell dosbarth lle'r oedd hawl gyda’r plant i arwain y dysgu ac yn galluogi nhw i ddysgu trwy ‘inquiry based learning’. Rufo, (2012). Felly aeth ef ymlaen i fynd a’r disgyblion tu fas er mwyn iddynt gael y cyfle i ddysgu yn yr awyr agored. Fe ddwedai ef fod hyn yn agoriad llygad iddo wrth wylio’r plant yn tyfu’n greadigol a hefyd dysgu’r gwerth o natur ac annibyniaeth.Rufo, (2012).

Mae sawl mantais o ddysgu awyr agored, yn ôl Ofstead, (2008) pan ddefnyddiwyd yn iawn, mae dysgu tu fas i’r ystafell dosbarth yn gallu gwella datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol y disgybl trwy godi hyder a hybu annibyniaeth. Hefyd mae defnyddio’r awyr agored fel ardal dysgu mae’n rhoi profiadau dysgu cyfoethog i’r disgyblion lle yr ydynt yn gallu dysgu am yr amgylchedd a defnyddio sgiliau datrys problemau. Hefyd mae’n hyrwyddo ffordd o fyw iachus a gweithredol i’r disgyblion. LOTC, (2009). Mae Donaldson, (2015), hefyd yn cefnogi'r hyn soniwyd uchod ac yn gofyn bod dyma’r fath o bethau sy’n cael ei ddysgu trwy’r cwricwlwm.

Mae creadigrwydd yn hollol bwysig o fewn addysg gynradd, ac mae’n rhaid sicrhau bod plant yn derbyn y cymorth sydd angen er mwyn datblygu yn greadigol gan ddefnyddio cefnogaeth athrawon a rhieni. Trwy ymgorffori creadigrwydd i mewn i’r ystafell dosbarth mae’n galluogi plant i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol a’i harfogi ar gyfer y dyfodol.



Cyfeiriadau.
Beetlestone, F. (1998). Creative children, Imaginative teaching. 1st ed. America: Open University, pp.2-8.
Duffy, B. (2005). Supporting Creativity and Imagination in the Early Years. 2nd ed. Berkshire: McGraw-Hill Education. Available from: ProQuest Ebook Central. [2 November 2017]. P.4
Getzels, J. and Jackson, P. (1962). Creativity and Intelligence. 1st ed. America: University of Chicago, p.1.
Kemple, K. and Nissenberg, S. (2000). Nurturing Creativity in Early Childhood Education: Families Are Part of It. Early Childhood Education Journal, [online] 28(1), pp.67-70. Available at: https://doi-org.ezproxy.cardiffmet.ac.uk/10.1023/A:1009555805909 [Accessed 7 Nov. 2017].
LOTC (2009). Benefits for Early Years of Learning Outside the Classroom. Council for learning outside the classroom, [online] p.1. Available at: http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2010/12/Benefits-for-Early-Years-LOtC-Final-5AUG09.pdf [Accessed 20 Nov. 2017].
Ofstead, (2008). Learning outside the classroom How far should you go?. [online] p.5. Available at: http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2010/12/Ofsted-Report-Oct-2008.pdf [Accessed 20 Nov. 2017].
Rufo, D. (2012). Building Forts and Drawing on Walls: Fostering Student-Initiated Creativity Inside and Outside the Elementary Classroom. ART EDUCATION, pp.40-44.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in wales, pp.13-21.

2 comments:

  1. Rwy'n cytuno â'ch pwyntiau Chelsea, mae'n amlwg bod creadigrwydd yn dod yn un o'r rhinweddau mwyaf hanfodol y gall cenhedlaeth y dyfodol eu cael. Mae Ken Robinson yn trafod mewn un Ted Talk y bydd y rhan fwyaf o'r plant sy'n gwneud gwaith yn yr ystafelloedd dosbarth heddiw yn mynd i mewn i byd gwaith na all un ohonom ragweld neu ddychmygu, gyda datblygiadau technoleg newydd yn dod â chyfleoedd newydd i fod yn greadigol ac i feddwl y tu allan i'r bocs. Felly, mae'n bwysig bod gan blant y gallu i fod yn greadigol a datblygu syniadau yn greadigol (Wilson, 2014).

    Fodd bynnag, a yw hyn yn golygu bod dysgu ffeithiau, sillafu a rheolau bellach yn llai pwysig? A oes ganddo lai o werth yn ein byd heddiw nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl? Er bod rhai yn dadlau nad yw darparu tunnell o ddata i blant yn caniatáu i blentyn feddwl, mae Woods yn dadlau nid yw plant yn cael addysg briodol heb y tri pheth hyn (Woods, 1995). Bydd ein plant yn dibynnu ar 'Google' , heb yr anrheg syml o wybod gwybodaeth ar gyfer eu hunain. Beth ydych chi'n ei feddwl? Ydych chi'n meddwl bod angen i blant heddiw ddysgu ffeithiau a data?

    Cyfeiriadau

    Wilson, A. (2014). Creativity in primary education. 3rd ed. Sage.
    Woods, P. (1995). Creative teachers in primary schools. Buckingham: Open University Press.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am dy ymateb Harriet, cytunaf gyda'r hyn rwyt ti wedi sôn am ynglŷn â cholli pwysigrwydd ffeithiau a gwybodaeth erbyn heddiw. yn fy marn nad yw'n ddelfrydol i blant dibynnu ar 'Google' neu wefannau tebyg yn y dyfodol. Mae sicrhau plant gwybodus i'm genhedlaeth ni a'r dyfodol yn hynod o bwysig a gefnogwyd Donaldson, (2015) hyn hefyd yn eu hadolygiad o'r cwricwlwm. Er hyn credaf fod y gallu i gofio digonedd o wybodaeth yn dechrau dod yn llai pwysig ac yn cael ei ddisodli gan sgiliau allweddol. Mwy pwysigrwydd sgiliau yn dod yn fwy a fwy perthnasol. Ac yn fy marn i mi fydd sgiliau fel y gallu i gyfathrebu, cydweithio a datrys problem yn fwy buddiol na'r wybodaeth gallwch ail ymweld â mewn llyfr.

      Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in wales

      Delete