Creadigrwydd Mewn Addysg Gynradd
Gall creadigrwydd ymddangos
unrhyw adeg gan unrhyw un. Mae credigrwydd yn anodd i ddiffinio gan ei fod yn
llawn elfennau gwahannol megis dychymyg, datrus problemau, meddwl yn eang a
gwneud pethau’n wahannol. Fel arfer mae
syniadau credigol yn ymddangos yn annisgwyl ac yn ddigymell (Boden, 1996. pg.75).
O fewn y system addysg pressennol mae cymhelliant gorfodol ar y defnydd o greadigrwydd
o fewn y dosbarth; Mae’r Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar yn gorfodi i athrawon
feithrin creadigrwydd plant a’i gyflwyno’n aml er mwyn sicrhau bod y plant yn cael
y cyfle ehangu ar eu meddyliau o phosibiliadau a hyfforddi dysgu gwahannol yn
lle’n hollol traddodiadol. (Craft, 2017. pg.1). O fewn addysg yn y cyfnod
presennol mae creadigrwydd yn bwnc pwysig iawn, dywed Craft “there is a call
for its inclusion in education as a “fundamental life skill.” (Craft, 1999,
Shaheen, 2010).
Mae nifer o ffyrdd y gallech
integreiddio creadigrwydd i wersi, yn enwedig o fewn y Cyfnod Sylfaen, “Dylai
cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferferol drwy gydol y Cyfnod Sylfaen
ddatblygu creadigrwydd, dychymyg, mynegiant a chwilfrydedd plant.” (Llywodraeth
Cymru, 2008. pg.26). Fel arfer wrth i bobl feddwl am ‘dysgu’ maen’t yn ei weld
fel gweithred traddodiadol lle mae athro yn arwain gwers efo “preferred
learning style”. (Pritchard, 2014. pg.46). Felly wrth ystyried y ffyrdd
wahannol o ddysgu gwelwn fod Pritchard yn rhestri’r gwahannol ffyrdd ac yn
pwysleisio bod “a learning style is a preferred way of learning and studying;
for example, using pictures instead of text; working in groups as opposed to
working alone; or learning in a structured rather than an unstructured manner.”
(Pritchard, 2014 pg.47). Gweler fod dysgu’n greadigol yn mynd yn erbyn y math o
ddysgu traddodiadol. Cefnogai Piaget hyn wrth cyflwyno’r camau datblygu y mae
plentyn yn eu cwrdd wrth dyfu; Ail cam datblygu Piaget ydy’r cam
‘cyn-weithredol’ sy’n disgwyl ddigwydd pan y mae plentyn yn 2-7 mlwydd oed Mae
Piaget yn esbonio “The use of symbolic thought begins, and the imagination also
begins to develop” (McLeod, 2015, Pritchard, 2014. pg.20). Felly gwelwn fod y
defnydd o dychymyg yn ehangu’n parhaol o fewn plentyn ers 2 mlwydd oed. Dyma
pam mae’r Cyfnod Sylfaen yn cymhellu defnyddio ac ymestyn creadigrwydd. Gweler
fod theory Bandura (1997) yn cefnogi Piaget wrth ystyried “learning as an
active process” (Pritchard, 2014. pg.29). Ond yn wahannol i Piaget mae Bandura
yn annog pwysigrwydd o cael naws cymdeithasol wrth ddysgu, a’i fod yn cefnogi
meddyliau a syniadau adeiladol.
O
fewn dysgu mae’r amgylchedd lle y mae plant yn dysgu yn cael ei ystyried fel
“perhaps one of the most underrated features in the learning process” (Reid,
2005. pg.33). Ond mae’r lleoliad lle y mae plentyn yn dysgu yn bwysig ac y mae
nifer o elfennau angen cael ei chynig er mwyn cwrdd ag anghenion plant a
sicrhau dysgu effeithiol. Dyma fideo o athrawon o fewn lleoliad yn esbonio’r pwysigrwydd
o amgylchedd a lleoliad wrth ddysgu’n greadigol:
Dywed Wilson, er mwyn cael yr allu I ddysgu’n greadigol,
rhaid “widen your understanding of your own creativity, and the imaginative
approaches and repertoire of engaging activities that you can employ in order
to develop the children’s capacity for original ideas and action. You will also
want to exert your professional autonomy, learning to be flexible and
responsive to different learners and diverse learning contexts.” (Wilson,
2014). Felly dengys fod rhaid i athrawon ac ymarferwyr addasu I ddysgu o fewn
ffordd wahannol yn hytrach na dilyn ffordd traddodiadol fel yr oedd y fideo
uchaf yn son wrth ystyried desgiau a chadeiriau wedi’i lleoli’n draddodiadol
e.e o flaen bwrdd gwyn wrth dderbyn gwers ffurfiol gan athro. Hefyd cefnogai’r
fideo syniad Wilson o chynnig gweithgareddau ymgysylltu oherwydd mae’r athrawon
yn ymwybodol fod angen lleoliad mawr efo llawer o le er mwyn i blant awtistig
teimlo’n gyfforddus ac yna ymgysylltu efo’r gwers yn effeithiol.
O fewn fy nghwrs i
sef Addysg Ysgol Gynradd yn Cardiff Metropolitan University, rydym yn ffocysu
llawer ar gweithio ty allan i’r dosbarth ac annog plant I ymchwilio ac arwain
gwersi eu hunain. Fel gweithgaredd roedd rhaid i ni fynd i’r goedwig a’r ardal
o amgylch y brifysgol yn edrych am frigau a dail er mwyn creu rafft. Roedd hyn
yn gweithgaredd wych oherwydd wrth iddi fod yn greadigol a bron a fod yn hollol
annibynol, roeddwn hefyd yn curo’r 6 maes dysgu a phrofiad,
Celfyddydau Mynegiadol
|
Roedd modd mynegi syniadau a chreadigrwydd wrth greu rafft
gwahannol i grwpiau eraill, wrth i’r grwp cynnig syniadau hollol wahannol ac
yna’i rhoi at ei gilydd I wneud darn o gelf.
|
Dyniaethau
|
Roedd modd gweithio fel grwp a defnyddio’r amgylchedd er
mwyn creu’r prosiect
|
Mathamateg & Rhifedd
|
Cafon ni’r cyfle defnyddio mathemateg a rhifedd wrth mesur
faint o ddŵr
oedd angen er mwyn sicrhau bod y rafft yn arnofio a faint o frigau oedd angen
er mwyn sicrhau eu bod yn arnofio a chlymu efo’i gilydd yn effeithiol
|
Health & Wellbeing
|
Wrth weithio ty allan cafon ni’r cyfle cael awyr iach,
ymarfer corff a hwyl wrth chwilio am adnoddau
|
Science & Technology
|
Cafon ni’r cyfle ymweld a thechnoleg o fewn y wers wrth
ddilyn cynllyn strwythuro’r rafft ar y bwrdd rhyngweithiol a hefyd defnyddio
gwyddoniaeth wrth mesur pwysau’r rafft a sicrhau ei fod yn arnofio
|
Languages, Literacy & Communication
|
Wrth ymchwilio a gweithio fel grwp cefais y cyfle
cymdeithasu, cynnig syniadau a helpu’n gyffredinol efo adeiladu’r rafft a
dewis yr adnoddau addas.
|
Ac felly gwelwn fod creadigrwydd o fewn addysg yn elfen
bwysig iawn, ac wrth i amser fynd ymlaen gallwn weld y raddfa o ddefnyddioldeb
sydd ar gael o ddysgu creadigol.
Boden,
M. (1996). Dimensions of Creativity. Margaret A. Boden, p.75.
Craft,
A. (2017). Creativity and Possibility in the Early Years. [ebook]
Anna Craft, p.1. Available at:
http://www.tactyc.org.uk/pdfs/Reflection-craft.pdf [Accessed 26 Oct. 2017].
Creativeteachersorg
(2012). Environment - Creative Teaching for Creative Learning.
[video] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=_WRMAlaFNWU [Accessed 28
Oct. 2017].
Llywodraeth
Cymru, L. (2008). Datblygiad creadigol. Caerdydd: Yr Adran Plant,
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, p.26.
McLeod,
S. (2015). Jean Piaget | Cognitive Theory | Simply Psychology.
[online] Simplypsychology.org. Available at:
https://www.simplypsychology.org/piaget.html [Accessed 31 Oct. 2017].
Pritchard,
A. (2014). Ways of Learning. 3rd ed. Abingdon: Routledge, p.46.
Reid,
G. (2005). Learning styles and inclusion. London: Paul Chapman,
p.33.
Shaheen,
R. (2010). Creativity and Education. [ebook] Birmingham: Robina
Shaheen, p.166. Available at: http://files.eric.ed.gov/fulltext/ED521875.pdf
[Accessed 28 Oct. 2017].
Wilson,
A. (2014). Creativity in Primary Education. 3rd ed. [ebook] Anthony
Wilson, p.34. Available at:
https://books.google.co.uk/books?hl=en&lr=&id=fxWJCwAAQBAJ&oi=fnd&pg=PP1&dq=creativity+in+primary+education&ots=jBjB3Lu06b&sig=vUkebQjPNKI8ciggYgozVZ0ise4#v=onepage&q=creativity%20in%20primary%20education&f=false
[Accessed 28 Oct. 2017].
Rydw i'n cytuno gyda'r hyn yn dy flog Amy, yn enwedig beth drafodaist ti am leoliad dysgu. mae lleoliad dysgu yn holl bwysig i sut mae plant yn dysgu ac yn ymddwyn. Yn ôl Donaldson,(2015) mae angen amgylcheddau cyfoethog ac ysgogol ar blant er mwyn iddyn nhw ymchwilio ac ymgysylltu gyda syniadau ac adnoddau. Un enghraifft o leoliad dysgu gwahanol yw dysgu awyr agored sy’n cynnig sawl mantais addysgol i blant. Trwy ddysgu yn yr awyr agored mae’n rhoi rhyddid i’r plant chwarae a dod yn ymwybodol gyda’r hyn sydd o’i chwmpas. Maen nhw hefyd yn dysgu ffiniau a sut i gymryd risg yn ddiogel. “they need to learn not to be frightened of the outside but to simply see it as part of life.” (Bilton, 2010, p.11).Mae Bilton, (2010) yn pwysleisio’r pwysigrwydd o awyr iach a gweithgareddau corfforol i iechyd plant ifanc lle mae modd iddynt sicrhau trwy ddysgu awyr agored. Mae Donaldson (2015) hefyd yn tanlinellu’r pwysigrwydd iechyd a lles plant o fewn ei adolygiad cwricwlwm sy’n cefnogi dysgu awyr agored. Mae cynnig lleoliadau dysgu gwahanol i blant yn sicrhau profiadau addysgol a sawl cyfle newydd iddyn nhw. Beth yw dy farn ar yr hyn mae plant yn dysgu yn yr awyr agored? a yw'r dechneg yma yn ddiogel i blant ifanc yn dy farn di?
ReplyDeleteBilton, H. (2010). Outdoor learning in the early years - management and innovation. 3rd ed. London: Routledge, pp.11-13.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in wales
Credaf yn gryf efo'r syniad o ddysgu tu allan oherwydd y mae hi'n cynnig y cyfle i blant deimlo rhyddid, a hefyd yn cefnogi syniad Donaldson wrth iddo gymhellu pwyslais ar lles y plentyn a'r ysbrydoliaeth gan blant er mwyn arwain eu dysgu a datblygu personoliaeth. Cefnogai Donaldson hyn hefyd wrth iddo eisiau i blant fod yn “healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.” Donaldson, G. (2015) Wrth i blant ddysgu tu allan mae hi’n sicrhau ymarfer corff sy’n gwella iechyd a lles, hyder wrth iddynt ymchwylio i wahanol ardaloedd a hefyd teimlad o rhyddid sydd medru cynyddu hunan werth y plentyn wrth gael ei adael efo’r cyfrifoldebau yma. Credaf bod risg wrth ddysgu tu allan oherwydd efallai nad ydy hi’n cynnwys yr un nifer o rheolaeth fel y dosbarth, ond, credaf yn gryf bod modd rheoli’r sefyllfa gwmws yr un faint wrth ddysgu’r plant am y risg, sicrhau eu bod yn deall terfynau a ffiniau, a hefyd yn syml addysgu am yr heriau er mwyn cadw’n ddiogel.
ReplyDeleteDonaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.29.