Sut allai dysgu trawsgwricwlaidd i raddau effeithio
ar addysg gynradd?
Mae’r ymagwedd trawsgwricwlaidd wrth ddysgu
yn cael ei ymddangos wrth ganolbwyntio ar nodweddion gwahanol megis sgiliau,
dealltwriaeth a gwybodaeth o fewn nifer o bynciau. Mi fydd yr agwedd
pedagogaidd yma yn cymhell ffordd o ddysgu sy’n croesawi ac yn ymchwilio o fewn
i bynciau’n fwy eang wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau (Savage, 2010).
Mae fidio yma’n dangos beth ydy dysgu trawsgwricwlaidd a’i
manteision ac anfanteision.
(Jones,
2017)
O fewn ysgolion mae pwyslais enfawr ar
ddysgu i gyffwrdd ar bob un maes dysgu. Mae saith maes dysgu yng Nghymru ar y
foment, ond yn fuan mi fydd cwricwlwm Donalson yn cael ei gyflwyno i addysg ac
y mae’r cwricwlm yma ond yn cynnwys chwech maes dysgu. Y chwech maes dysgu yw “Expressive
arts, Health and well-being, Humanities, Languages, literacy and communication,
Mathematics and numeracy, Science and technology” (Donaldson, 2015). Gweler bod y pynciau yma’n llawer fwy eang o ran dysgu
yn hytrach na pynciau ffurfiol megis saesneg, mathemateg a phynciau unigol,
spesifig. Mae’r llwybr o ddysgu medru arwain i nifer o ffyrdd yn wahannol i ddilyn
un criteria penodol; Mae modd dysgu nifer o meysydd gwahannol o fewn ffyrf
prosiect neu ymchwil yn lle tafleni gwaith yn unig neu dysgu o lyfr testun.
Cefnogai
Donaldson dysgu trawsgwricwlaidd wrth iddo gynllunio cyfrifoldebau
trawsgwricwlaidd. Mae tair cyfrifoldeb yn cael ei nodi o fewn ei adroddiad; sef
Llythrenedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Dywed Donalson “that
literacy, numeracy and digital competence should be Cross-curriculum
Responsibilities for all teachers and people who work with children and young
people. The curriculum structure needs to ensure that children and young people
develop high levels of competence in these aspects and have frequent
opportunities to develop, extend and apply them across the curriculum” (Donaldson, 2015).
Gweler o hyn taw brif amcanion cwricwlwm Donaldson ydy hybu gweithio’n
drawsgwricwlaidd a phwysleisio gwella ar sgiliau a phrofiadau bywyd yn lle
pwysau pynciau unigol. Mae cefnogaeth i raddau helaeth gan nifer o ffynonellau
gwahanol wrth ystyried dysgu trawsgwricwlaidd. Wrth drafod manteision gan
Donaldson mae Kerry (2015) hefyd yn ei chefnogi wrth ymchwilio i astudiaeth sydd
o blaid i ddysgu’n drawsgwricwlaidd gan Jane Johnston. Dywed o fewn cam
allweddol un yn yr ysgol gynradd bod “Learning is best acquired through
motivating experiences” (Johnston, 2015) sydd yn cefnogi Donaldson wrth ddangos
taw dysgu drwy brofiad ac ymchwil yn lle darllen ffurfiol sy’n manteisio dysgu
plant orau. Hefyd dywed Johnston “Learning is best acquired through effective
peer interaction. Learning requires effective adult support and interaction”
(Johnston, 2015) Dengys fod gweithio gydag eraill yn hytrach na’n draddodiadol
ac yn unigol yn gweithio’n well ac hefyd yn pwysleisio ar gyfraniad yr
athro/ymarferwr o fewn y broses wrth ei ystyried yn bwysig.
Wrth edrych ar ochr gwahanol gwelwn gall
ddysgu trawsgwricwlaidd nid dim ond manteisio ar blant a’i dysgu, ond ar y llaw
arall gall fod yn heriol i athrawon wrth gynllunio gwersi. Rhaid ystyried
amgylchedd o fewn dosbarth er mwyn sicrhau bod y plant medru ymchwilio i’w
dymuniad, cytunai Hadow efo’r syniad yma gan nodi yn eu adroddiad “What is necessary is that the curriculum of the school should make
every use of the environment of the pupils” (Hadow, 1931).
Gweler yma fod Hadow yn pwysleisio ar ddefnydd yr amgylchedd gan y disgyblion
ac yn ffocysu ar ddysgu arweiniol gan y plant eu hunain o fewn amgylchedd addas
ac effeithiol. Felly gwelwn fod llawer o bwyslais ar athrawon sicrhau fod y
dosbarth a’r amgylchedd yn berffaith i strwythuro dysgu llwyddianus ond yn
anffodus nid oes gan bob ysgol mynediad i rhai adnoddau neu ardaloedd
anghenreidiol oherwydd rhesymau megis arian neu lleoliad. Mae athrawon/ymarferwyr yn treulio llawer o amser yn
cynllunio gwersi a chynllun y dosbarth er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau sy’n
cael eu darparu yn ffitio i bob maes dysgu ac yn addas, gweler yn y fidio yma
beth y mae Paula Parkinson a holl athrawon yr ysgol gynradd yn ystyried wrth
ddarparu a dysgu i’w ddisgyblion:
(Parkinson,
Kelly and Furlong, 2014)
Cefais y cyfle profi dysgu trasgwricwlaidd i
ddisgyblion yn fy nosbarth i yn y brif ysgol. Roedd cyfle i mi gynllunio gwers
a’i ddysgu i grwp o ddisgyblion efo partner. Roedd rhaid llenwi taflen strwythr
gwers gan y PGCE; Roedd hyn yn ddefnyddiol oherwydd roedd modd gweld yn union
faint o meysydd sydd rhaid i athrawon ei ystyried wrth gynllunio gwers. Dyma
rhan o’r taflen yn dangos beth oedd rhaid ystyried wrth gynllunio.
Gwelwch
ym mocs yr ail cwestiwn roedd rhaid sicrhau bod sgiliau llythrennedd, rhifedd a
chymhwysedd digidol yn cael ei ddysgu o fewn y tasg. Rhaid i athrawon feddwl yn
hir am wersi a sicrhau cynllunio manwl wrth ystyried dysgu plant a sicrhau eu
bod yn ychwanegu popeth sydd rhaid dysgu. Wrth ddysgu o brofiadau personol; Gwelaf
fod dysgu trawsgwricwlaidd yn effeithiol iawn wrth iddi adael i blant arwain eu
dysgu eu hun o fewn y dosbarth a chael y cyfle i mynegi eu hunain yn greadigol,
ond ar y llaw arall mi fydd llawer o waith ychwanegol i athrawon wrth gynllunio
ac efallai bydd angen hyfforddiant ar syt i ddysgu’n wahanol i ddulliau
traddodiadol y maent yn arfer iddi.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of
Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.39-40. Available at:
http://file:///Users/amypippen/Downloads/Donaldson%20Report%20-%20Successful%20Futures%20-%20Independent%20Review%20of%20Curriculum%20and%20Assessment%20Arrangements%20in%20Wales%20(3).pdf
[Accessed 9 Nov. 2017].
Hadow, W. (1931). Report
of The Consultative Committee on THE PRIMARY SCHOOL. [online] London: HIS
MAJESTY'S STATIONERY OFFICE, p.xxiii. Available at:
http://www.educationengland.org.uk/documents/hadow1931/hadow1931.html [Accessed
13 Nov. 2017].
Johnston, J. (2015). The cross-curricular approach in Key
Stage 1. In: T. Kerry, ed., Cross-Curricular
Teaching in The Primary School Planning and Facilitating Imaginative Lessons,
2nd ed. New York: Routledge, p.58.
Jones, C. (2017). Cross
Curricular Teaching. [video] Available at:
https://www.youtube.com/watch?v=YcacGpY4lyk [Accessed 13 Nov. 2017].
Kerry, T. (2015). Cross-Curricular Teaching in The Primary School Planning and Facilitating
Imaginative Lessons. 2nd ed. New York: Routledge, p.58.
Parkinson, P., Kelly, J. and Furlong, J. (2014). Cross-Curricular Teaching and Learning.
[video] Available at: https://www.youtube.com/watch?v=3KpPS_q8FKc [Accessed 13
Nov. 2017].
Savage, J. (2010). Cross-curricular
teaching and learning 5: Definitions. [ebook] Jonathan Savage. Available
at:
http://www.jsavage.org.uk/research/cross-curricular-teaching-and-learning-5-definitions/
[Accessed 13 Nov. 2017].
No comments:
Post a Comment