Sunday 10 December 2017

Dysgu draws gwricwlaidd


Effaith dysgu draws gwricwlaidd ar addysg gynradd

Mae dysgu trawsgwricwlaidd yn cynnig ffordd greadigol i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth plant tra'n eu cymell i ddysgu trwy bynciau symbylus, rhyng-gysylltiedig (Donaldson, 2015).

Mae astudiaeth sy'n croesi ffiniau pwnc yn caniatáu ymchwiliadau sy'n ennyn diddordeb dychymyg plant. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i athrawon annog ymholiad gweithredol, cymryd y fenter, a thrafod a dadlau gan blant. Mae'n ddefnyddiol meddwl am gysylltiadau trawsgwricwlaidd mewn dwy ffordd (Hayes, 2006). Yn gyntaf, ceir y cysylltiadau lle mae plant yn defnyddio ac yn cymhwyso agweddau ar ddysgu o un pwnc yn un arall - e.e. cymhwyso dealltwriaeth gwyddoniaeth yn Dylunio & Thechnoleg. Gall dysgu yn y ddau bwnc fod o fudd. Nid yn unig y bydd plant yn cael y cyfle i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddoniaeth allweddol, byddant hefyd yn well ar gyfer gwneud penderfyniadau dylunio gwybodus yn D & T (Barnes, 2015). Er enghraifft, gall plant sy'n dylunio a gwneud bagiau ddefnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o briodweddau deunyddiau wrth ddewis o ystod o ffabrigau, meddwl am bwy mae'r bagiau ar eu cyfer a sut y byddant yn cael eu defnyddio. Wrth gwrs, mae cyfleoedd hefyd gyda'r prosiect hwn i blant wneud defnydd o ddysgu o nifer o bynciau eraill: mathemateg, celf a dylunio a TGCh (Donaldson,2015).

Yr ail fath o gysylltiad yw lle mae un pwnc yn darparu cyd-destun ar gyfer datblygu dysgu mewn un arall. Mae hyn yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn helpu i gynnwys plant yn eu dysgu ac mae'n darparu mecanwaith i athrawon addasu gweithgareddau fel y gall pob plentyn wneud cynnydd da. Y peth pwysig yma yw adnabod eich dosbarth yn dda, gan nodi cyd-destunau bod grwpiau o blant ac unigolion yn dod o hyd i ysgogiad, gan roi ymdeimlad o bwrpas a chyfeiriad i'w dysgu. Gellir rhoi hwb aruthrol i gyflawniad plant mewn meysydd megis llythrennedd a mathemateg trwy edrych ar draws y cwricwlwm ar gyfer cyd-destunau ymgysylltu. Cefnogir yr ymagwedd hon gan dystiolaeth o Adolygiad Cynradd Caergrawnt a welodd nad yw "cwricwlwm cytbwys a rheoli'n dda," yn bell o fod yn fygythiad i gyrraedd safonau mewn 'pethau sylfaenol', yn wirioneddol y rhagofyniad ar gyfer y safonau hynny. " (Hayes, 2006)
      Pethau positif
       
  • Mae'n caniatáu i blant wneud cysylltiadau rhwng gwybodaeth flaenorol a chyflwyno gwybodaeth newydd (Barnes, 2015)
  • Mae'n agor cwricwlwm cul, i sicrhau ehangder a chydbwysedd ehangach (Donaldson, 2015)
  • Mae ymchwil yn dangos bod yr ymennydd dynol yn cynyddu'r gallu trwy wneud cysylltiadau (trwy synapsau), nid yn unig trwy roi gwybodaeth am gasgliad (Barnes, 2015).

    Pethau negatif
     
  • Mae'n anodd cyflawni dilyniant pwnc, hyd yn oed pan fo dau bwnc yn unig yn gysylltiedig; mae bron yn amhosibl gyda thri neu ragor (Hayes, 2006)
  • Mae cysylltiadau trawsgwricwlaidd rhwng rhai pynciau yn fwy naturiol nag ydyn nhw rhwng eraill, er enghraifft, mae'n haws cysylltu gwyddoniaeth a d na cherddoriaeth a daearyddiaeth (Barnes, 2015)

Yn eu hastudiaeth ar effaith dysgu trawsgwricwlaidd, canfu'r Panel Ymchwil Athrawon Cenedlaethol fod y prosiect: "yn darparu tystiolaeth bod gwaith trawsgwricwlaidd gan ddefnyddio sgiliau meddwl yn rhoi budd i fyfyrwyr o bob lefel cyrhaeddiad, ac mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r dull hwn wedi annog myfyrwyr i weld sut y gall sgiliau meddwl, fel trefnu a dosbarthu, eu galluogi i fynd at bwnc o ongl wahanol. Mae'n ymddangos hefyd eu bod yn eu helpu i weld trosglwyddedd sgiliau o'r fath ar draws eu dysgu mewn ystod o bynciau. " (Hosack, 2014)

Cefais y cyfle i baratoi gwers mewn ffordd drawsgwricwlaidd ar bwnc penodol. Roedd ein gwers ar Gaeaf Calan Gaeaf, penderfynasom gynnwys hanes, TGch, celf, llythrennedd a mathemateg ynddi. I ddechrau wnaethom wers hanes cyflym ar beth yw Galan Gaeaf, sut y dechreuodd a beth yw'r traddodiadau y tu ôl iddo. Nesaf, fe wnaethon ni ymgorffori mathemateg trwy ddangos siapiau i'r myfyrwyr , yna fe wnaethom brofi eu gwybodaeth trwy ofyn iddynt ailadrodd yr enwau sawl gwaith a chael cwis arnynt ar y diwedd.
Ar ôl iddynt ddysgu'r siapiau, fe wnaethom ddod â lluniau plaen o bwmpenau - fe wnaethom ofyn i'r myfyrwyr wneud siâp wyneb ar y pwmpenni trwy ddefnyddio'r siapiau a roddwyd yn gynharach, roedd hwn yn gyfle i'n myfyrwyr fod yn greadigol ac yn artistig.
 


Ar ôl cwblhau'r wers fer hon, roeddwn i'n teimlo fy mod wedi rhoi digon o siawns i'r myfyrwyr ddatblygu'n greadigol, herio eu hunain a defnyddio gwybodaeth flaenorol i gwblhau'r dasg benodol.

Yn fy marn i, mae dysgu'n trawsgwricwlaidd yn ffordd effeithiol o gadw diddordeb disgyblion, tra'n ehangu eu cyfleoedd dysgu a datblygu eu meddwl beirniadol.


Cyfeiriadau

BARNES, J. (2015). Cross-curricular learning 3-14. London: Sage publications.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. [online] Gov.wales. Available at: http://gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-en.pdf [Accessed 11 Nov. 2017].
Hayes, D. (2006). Primary education. London: Routledge, Taylor & Francis Group.
Hosack, K. (2014). Using the Visual Arts for Cross-curricular Teaching and Learning. Hoboken: Taylor and Francis.

Friday 8 December 2017

Sut y gall dysgu traws-gwricwlaidd gael effaith ar addysg cynradd?

Cafodd y Cwricwlwm Cenedlaethol ei cyflwyno yn ddilyn y Education Reform Act 1988. Roedd hyn yn cynnwys ‘a subject-based approach’ a oedd yn amlinellu y gwybodaeth, sgiliau ac dealltwriaeth ddylai phlant cael ei ddysgu o fewn pwnc arbennig.  Yn cynnwys targedau cyrhaeddiad a fydd y phlant yn cael ei ‘mesur’ yn eu herbyn (Lowe and Harris, 2014). Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn nodi’r amcanion, pwrpas a cynnwys ar gyfer Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Celf a Ddylunio, Dinasyddiaeth, Cyfrifiadurol, Dylunio a Technoleg, Dearyddiaeth, Hanes, Cerddoriaeth ac Addysg Gorfforol ar gyfer phob cyfnod allweddol (Lowe and Harris, 2014).

Mae yna ymagwedd traws-gwricwlaidd i’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Wrth ddysgu phob pwnc mewn modd arwahanol yn gallu cyflwyno ffiniau anhyblyg rhwng pwnciau, effallai na fydd phlant yn gallu adnabod fel artiffisial ac felly na fyddent yn trosglwyddo eu dysgu rhwng meysydd pynciau (Lowe and Harris, 2014). Wnaeth rhai ysgolion ceisio diwygio’r cydbwysedd trwy defnyddio ymagwedd traws-gwricwlaidd yn hytrach na dysgu mewn modd arwahanol. Mae Lowe a Harris (2014) yn ddweud ‘In using a cross-curricular approach it is important to ensure that there is a breadth across the curriculum and that all the necessary curriculum objectives are taught.’ Mae hyn yn bwysig oherwydd mae dal yn hanfodol i ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol i sicrhau bod yr amcanion yn cael ei cwrdd. Er hynny mae dysgu traws-gwricwlaidd yn gallu cael effaith cadarnhoal ar addysg gynradd oherwydd mae datblygu sgiliau newydd ac yn ffordd newydd o ddysgu a gall fod o fudd i athrawon a’r phlant.

Mae Barnes (2011) yn dadlau bod ddysgu yn traws-gwricwlaidd yn ddisgwydd pan mae sgiliau, gwybodaeth ac agwedd o sawl gwahanol disgyblaethau yn cael ei cymhwyso mewn un thema, problem, syniad neu profiad. Mae dulliau traws-gwricwlaidd yn cael bod yn effeithiol mewn ddysgu ac ymchwilio atebion moesegol, adeiladu unigolyn a cymhelliant grwp (Barnes, 2011). O fewn ei lyfr mae Barnes (2011) yn siarad am beth mae ymarfer traws-gwricwlaidd dda yn edrych fel? Mae Barnes (2011) yn ddweud bod unrhyw cwricwlwm sydd yn egnio, ysgogi, profocio, chynnal dysgu o ansawdd uchel, ddysgu denfyddiol yn gwneud gwaith dda. ‘This book is not written to suggest that all teaching and learning should be cross-curricular. I claim rather that cross-curricular methods are a means of promoting learning that are highly motivating for some, even most, children’ (Barnes, 2011). Felly mae Barnes (2011) yn ddweud bod dysgu traws-gwricwlaidd yn ffordd dda o ddysgu ac gallu bod o fudd i phlant. Roeddwn yn hoffi pan darllenais yn ol Barnes (2011) mae unrhyw pwnc yn gallu bod yn addas ar gyfer ddysgu yn traws-gwricwlaidd.

Technoleg
Mae Twining (2014) yn siarad am defnyddioldeb technoleg digidol ar draws y cwricwlwm (TGCh), gan ddweud bod TGCh wedi cael effaith ar bron phob disgyblaeth o fewn y byd tu allan i’r ysgol. Mae Twining (2014) yn awgrymu ei fod yn rhesymol i ddweud ddylai pynciau rydym yn ddysgu yn yr ysgol cysylltu gyda disgyblaethau tu allan i’r allan, ac felly os mae TGCh wedi newid y disgyblaeth yma, ddylai hefyd newid y cwricwlwm ar gyfer y pwnc yna. Mae TGCh yn darparu ni gyda stratagaethau ychwangol ar gyfer ddysgu: mae’n ymestyn pedagogy. Er enghraifft, mae bwrdd gwyn rhyngweithiol yn alluogi ni i symud o ‘teacher-dominated form’ sydd yn ddysgu y dosbarth i gyd i un sydd yn llawer fwy rhyngweithiol ax deinamig (Twining, 2014). Felly mae datblygiad technoleg wedi cael effaith cadarnhoal ar gyefr addysg gynradd oherwydd mae cynnig llawer fwy o cyfleodd. Rydym yn gallu, chwilio am gwybodaeth yn gyflymach, cyflwyno gwaith ac rhannu ei gwaith.

O fewn adroddiad Donaldson (2015) ‘successful futures’ mae ef yn amlygu bod yna amrywaieth o cymwyseddau a sgiliau sydd yn sylfaen ar gyfer ddysgu sydd yn hanfodol er mwyn gallu cyfranogi yn llwyddiannus ac hyderus mewn y byd modern. Mae blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i llythrennedd ac rhifedd o fewn y Cwricwlwm Cymraeg trwy yr ‘National Literacy and Numeracy Framework’ (LNF). Roedd casgliad o’r canfyddiadau o’r adolygiad wedi pwysleisio bod cymhwysedd digidol (CD) yn sylfaenol i ddysgu a bywyd a ddylai CD derbyn statws tebyg o fewn y cwricwlwm fel llythrennedd ac rhifedd. Felly mae Donaldson (2015) yn cynnig dylai llythrennedd, rhifedd ac cymhwysedd digidol fod yn gyfrifoldeb traws-gwricwlaidd ar gyfer holl athrawon a pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae Donaldson (2015) yn ddweud;

Llythrennedd - “Competence in literacy, including competence in the spoken word, syntax and spelling, is essential for learning across the curriculum” Mae angen i phlant a pobl ifanc derbyn y cyfle i esbonio feddwl, archwilio ac trafod syniadau a defnyddio sgiliau iaith at lefel briodol.

Rhifedd - “Similarly, numeracy, including arithmetical and data-handling skills, is deployed widely across the curriculum, and competence in numeracy is essential for independent living and work.” Mae angen I phlant ac pobl ifanc cael yr cyfle i dyfnhau ei dealltwriaeth o rhif i atgyfnerthu ac defnyddio ei sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau gwahanol.

Cymhwysedd Digidol – “Digital competence plays an increasingly powerful role in the lives of children and young people, for communication, networking, information, leisure and entertainment as well as for an increasing range of transactions and educational applications.”
(Donaldson, 2015)
   
Yn ystod ein seminars, cawsom y cyfle i cynllunio gwers sydd yn addas ar gyfer phlant yn flwyddyn 2. O fewn partneriaid, derbynodd ni chopi o cynllun ddysgu wers sydd yn cael ei ddefnyddio ar y cwrs PGCE. Roedd angen i ni cynllun gwers yn ddilyn y thema o Galan Gaeaf. Roedd ein wers yn traws-gwricwlaidd oherwydd roedd ni’n cynnig sgiliau llythrennedd, rhifedd ac cymhwysedd digidol. Roedd rhaid cynnig tasg felly es ni cynnig tasg creadigol oherwydd er mwyn mynd gyda ein wers, sydd yn sgil ychwanegol. Ein syniad oedd i ddysgu siapau 2D (Rhifedd). I ddechrau fe ddefnyddiodd cyflwyniad point pwer i ddangos lluniau o calan Gaeaf, siapau fyddaf yn dysgu ac enghraifft o’r dasg (Cymhwysedd digidol). Fe ddysgom nhw am hanes Calan Gaeaf ac dysgu enwau’r siapau (Llythrennedd). Ar gyfer ein dasg creadigol roedd rhaid iddi nhw creu wyneb ar pwpen gan denfyddio’r siapau wnaeth nhw newydd ddysgu. Fe cynnigodd siapau fwy heriol hefyd er mwyn rhoi’r opswin i’r ‘phlant’ gallu herio ei hunain. Roedd y wers yma defnyddiol iawn i mi oherwydd roeddwn yn gallu weld sut i cynllunio wers ac ymgorffori y sgiliau traws-gwricwlaidd mewn i un wers. Dwi wedi atodi chopi or cynllun ddysgu.



Cyfeiriadau
Barnes, J. (2011) Cross-curricular learning 3-14. 2nd edn. London: Sage publications.
Donaldson, G. (2015). Successful Futures. Independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.
Harris, K. and Lowe, S. (2014). Short, Medium and Long-Term Planning. In Cooper, H. eds. Professional Studies in Primary Education. 2nd ed. London: SAGE, pp. 57.
Twining, P. (2014) Unpacking ICT. In Cremin, T. and Arthur, J. eds. Learning to teach in Primary Schools. 3rd ed. Oxon: Routledge, pp.521-2


Sut all dysgu cydweithredol cael effaith ar Addysg Gynradd?




Mae dysgu cydweithredol yn defnyddio tasgau hunangynhwysol a gweithgareddau grŵp sy’n fel arfer yn seiliedig ar un topig er mwyn ddatblygu sgiliau cymdeithasol y disgyblion. Trwy hyn mae’r plant yn derbyn cyd-ddealltwriaeth o’r topig sy’n gallu annog trafodaeth addysgol bellach. (Tolmie et al., 2010).

Gan edrych ar theori Vygotsky (1896-1934) o ddysgu cymdeithasol, sylwais roedd Vygotsky yn gweld dysgwyr fel trefnwyr gweithredol. A chredodd bod tasgau meddyliol a corfforol oedd y ffordd orau i ysgogi meddyliau plant. (Kozulin, 2003). Trwy ddysgu cydweithredol mae’r plant gyda chyfle i ddatrys problemau gyda’i chyfoedion, darganfod gwybodaeth newydd a dysgu sut i gydweithio yn llwyddiannus. Trwy wneud hyn mae’r plant yn datblygu mewn sawl maes dysgu ac yn gwella sgiliau a fydd yn hanfodol iddynt ar gyfer y dyfodol. Vygotsky’s work on the interdependence of individual and social processes in children’s meaning-making provides an important foundation for developing teaching–learning environments that value the whole child and honour the different cultures, languages, prior experiences, and learning styles that children take to the classroom.” (Kozulin, 2003, p.120). Rydw i wedi dewis cysylltu'r theori yma gyda dysgu cydweithredol gan fod Vygotsky yn sôn am ba fathau o dasgau sy’n ysgogi plant a hefyd sut mae prosesau cymdeithasol yn gallu sicrhau profiadau dysgu gwerthfawr i blant. Mae’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ddysgu cymdeithasol a hefyd darganfod pa arddulliau dysgu all siwtio plant orau. Mae sawl mantais o wneud hyn sef gwella sgiliau cymdeithasol y disgyblion, sicrhau partneriaeth yn y dosbarth a datblygu sgiliau datrys problemau. 

“In order to fully engage with learning, children and young people require rich, stimulating environments where they can explore and experiment with ideas and resources, collaborate actively with their peers and make dynamic connections with a clear sense of purpose to construct meaning.” (Donaldson, 2015, p.68). Mae dysgu cydweithredol yn cyd-fynd gyda chwricwlwm Donaldson (2015) ac yn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol a cydweithredol. Erbyn heddiw mae’r sgil i allu cymdeithasu a rhannu syniadau yn holl bwysig a fydd yn fuddiol ofnadwy erbyn i’r disgyblion aeddfedu. Felly trwy ddefnyddio'r dechneg hon mewn addysg gynradd rydyn yn sicrhau’r sgiliau yma i’n plant.

Mae rôl iaith yn bwysig Iawn o fewn dysgu cydweithredol, ac yn ôl Lloyd and Beard, (1995) mae’n hanfodol i ddatblygiad plant gan ei bod nhw’n ei ddefnyddio i gyfathrebu, dehongli, gweithio trwy, ac i greu synnwyr o brofiadau. “Learning to communicate is at the heart of education. Not only is talking and writing a major means by what people learn, but what they learn can hardly be distinguished from the ability to communicate it.” (Barnes, 1976, p.73).

Elfen arall a all cael effaith ar ddysgu cydweithredol yw technoleg ac fe welwn ni enghraifft berffaith o sut all hyn gweithio mewn darlith. Roeddwn yn ddigon lwcus i gael y cyfle i gyfathrebu trwy’r rhyngrwyd Skype gyda phrifathro o ysgol yn Kenya, o’r enw Cheery School. Roedd hyn yn enghraifft dda o sut all hyn gweithio mewn addysg gynradd, ffordd dda o gadw diddordeb y disgyblion a’i dysgu am ddiwylliannau gwahanol. A gan fod cymhwysedd digidol yn bwysig iawn erbyn heddiw mae’r dechneg yma yn ffordd dda o ddangos i blant sut i ddefnyddio'r we i fuddio nhw a sut i aros yn ddiogel. Mae’r llun isod yn dangos rhai syniadau arall ar sut i gyfuno technoleg i mewn i ddysgu cydweithredol.

Mae’r sgiliau partneriaeth, cymdeithasol a datrys problemau yn rhai sy’n bwysig iawn i ddatblygiad plant, sy’n gallu datblygu trwy ddysgu cydweithredol. “In group learning, the relationships between students and teachers are different from more traditional educational contexts. Both learners and instructors share the responsibility for the learning experience. Students become participants who use social skills to create knowledge, and undertake and complete tasks.” (Gillies and Ashman, 2003). Isod mae rhai enghreifftiau o ba fath o dasgau allwn ddefnyddio er mwyn arwain dysgu cydweithredol.






Yn fy marn i mae technegau dysgu sy’n cefnogi datblygiad sgiliau'r plentyn yn holl bwysig gan ei bod nhw’n sicrhau bod y plentyn yn gallu ymdopi gyda newidiadau mawr ac yn gallu gwneud synnwyr ohono. Hefyd trwy hyn rydyn yn paratoi nhw ar gyfer y dyfodol a sut i gyfuno sgiliau i fod yn hyderus ac yn gydweithredol o fewn y byd gwaith.


Cyfeiriadau.
Barnes, D. (1976) From communication to curriculum. Harmondsworth: Penguin.

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales.. [ebook] Graham Donaldson, p.8. Available at: http://Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [Accessed 5 Dec. 2017].

Gillies, R. and Ashman, A. (2003). Cooperative learning. London: Routledge-Falmer.

Kozulin, A. (2003). Vygotsky's educational theory in cultural context. Cambridge: Cambridge University Press.

Lloyd, C. and Beard, J. (1995). Managing classroom collaboration. London: Cassell.

Moskowitz, J., Malvin, J., Schaeffer, G. and Schaps, E. (1983). Evaluation of a Cooperative Learning Strategy. American Educational Research Journal, 20(4), pp.687-696.

Tolmie, A., Topping, K., Donald, C., Donaldson, C., Howe, C., Jessiman, E., Livingston, K. and Thurston, A. (2010). Social effects of collaborative learning in primary schools. Learning and instruction, [online] 20(3), pp.177-191. Available at: https://doi.org/10.1016/j.learninstruc.2009.01.005 [Accessed 7 Dec. 2017].











Thursday 7 December 2017

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?

Beth ydy’ch chi’n credu dylai fod yn bwrpas addysg?


Credai’r llywodraeth “Education is the engine of our economy, it is the foundation of our culture, and it’s an essential preparation for adult life.” (GOV, 2017) Credaf yn gryf efo hyn oherwydd mae addysg gynradd yn gweithio fel sylfaen ar gyfer eich dyfodol. Mae mynedi addysg gynradd yn orfodol ac felly rhaid iddi gael effaith bositif ar blant er mwyn iddyn nhw dyfu i fod yn llwyddiannus.
     Cefnogai Kolb (2008) y syniad yma o baratoi blant at eu dyfodol, dywed “It is a holistic theory that defines learning as the major process of human adaptation involving the whole person. As such, ELT (Experiential Learning Theory) is applicable not only in the formal education classroom but in all arenas of life” (Kolb, 2008, p.3). Felly gwelwch yma bod dysgu ac addysg yn broses lle y mae plant yn gallu datblygu eu addasiadau fel person cyfan ag all hyn ei pharatoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau datblygiad llwyddianus.
      Gweler fod Hewitt and Tarrant, (2015) hefyd yn cytuno efo’r syniad yma wrth ddweud “Education is important in itself, because it helps children to develop as individuals.” (Hewitt and Tarrant, (2015). Hefyd dywed “Education enables young people to be prepared for adult life.” (Hewitt and Tarrant, (2015) ac felly mae’r syniad fod pwrpas addysg yn paratoi plant at bywyd a dyfodol yn cael ei gefnogi gan nifer.
      Mae’r clip fideo yma yn pwysleisio ar ein cwricwlwm presenol, a beth gallwn wella o’i fewn:


      O fewn y clip fideo, dengys pynciau o fewn y cwricwlwm megis meddylfryd, lles a hunan  ymwybyddiaeth. Gweler fod y cwricwlwm newydd y mae Graham Donaldson yn ei gyflwyno ym mhwysleisio’n fawr ar lles y plentyn, paratoi plant am fywyd a gadael i’r plant arwain eu dysgu. Wrth ddarllen adroddiad ‘Successful Futures’ gan Donaldson, dywed, wrth ofyn ‘Beth ydy’r tair elfen orau o addysg yng Nghymru?’,  un elfen oedd  the health and well-being of our children and young people.” (Donaldson, 2015, p.24). Mae hyn yn dangos y pwyslais ar y plentyn yn lle canlyniadau. Wrth ffocysu ar y disgybl mi fydd canlyniadau fwy llwyddianus gan ystyried cymhelliant ac ymddygiad y plant. O fewn cwricwlwm Donaldson gweler ei fod yn cyflwyno “The intention is to signal the importance of educational experiences as an integral part of the curriculum, to broaden children and young people’s horizons, stimulate their imaginations and promote enjoyment in learning. The education of children and young people should include rich experiences that are valuable in their own right.” (Donaldson, 2015, p.38). Felly gwelwch eto bod y pwyslais o fewn addysg ydy sicrhau fod y plentyn ym mhrif ffocws pob gweithred.
      Cytunaf ym mhersonol, dylai addysg a phwrpas addysg fod yn seiliedig ar ffocysu ar y plentyn a’i lles, a hefyd addasu dysgu i gallu’r plentyn. O fewn darlith yn y brif ysgol, cafon ddarlith gan Emma ar ‘Independent coastal schools’. Credaf fod yr ysgolion yma yn wych oherwydd maent yn pwysleisio ar iechyd a lles y plentyn wrth hyfforddi gwersi tu allan yn unig. O’r ddarlith dengys Emma wybodaeth am yr ysgol, y gweithgareddau, manteision a heriau’r ysgol. Credai Emma taw dysgu tu allan yw’r ffordd gorau o ddysgu ac y mae hi’n manteisio sgiliau a hyder y plant. Ffocws pedagogaidd fwyaf Emma oedd rhyddid y plant. Fel manteision dywed bod y plant yn chwarae wrth ddefnyddio’i ddychymig yn fwy, yn ffocysu ar y dasg yn fwy manwl, yn gwrando’n well a hefyd yn ymddwyn yn well. Wrth ddysgu tu allan mae’r elfenau yma yn cael ei phrofi a hefyd y maent yn helpu gwella iechyd a lles y plant yn y broses. Mae gwefan ar gael er mwyn cael ymweld y math o wersi y mae’r ysgol yn cynnig a hefyd mae modd trefnu ymuno efo rhai o’r gwersi a teithiau y maent yn mynedi.
  
Ac felly credaf fel casgliad taw pwrpas addysg ydy darparu lleoliad i blant cael yr hawl I ddysgu o fewn ffyrdd eu hun. Wrth sicrhau dysgu llwyddianus credaf dylai plant fod yng nghanol y dysgu a taw nhw dylai arwaid y dysgu efo tipyn o hyfforddiant oherwydd y ffordd y mae plant yn dysgu gorau ydy wrth gael ei cymhellu a’I ymddiried i fod yn hyderus a chael dysgu diddordebau’n rhydd.


Cyfeiriadau:

Donaldson, G. (2015). Successful Futures Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. [ebook] Wales: Graham Donaldson, p.24-38. Available at: http://file:///Users/amypippen/Downloads/Donaldson%20Report%20-%20Successful%20Futures%20-%20Independent%20Review%20of%20Curriculum%20and%20Assessment%20Arrangements%20in%20Wales%20(3).pdf [Accessed 26 Nov. 2017]

GOV (2017). The purpose of education - GOV.UK. [online] Gov.uk. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 20 Nov. 2017].

Hewitt, D. and Tarrant, S. (2015). Innovative teaching and learning in primary schools. Des Hewittt, p.2.

Kolb, A., & Kolb, D. A. (2008). Experiential learning theory: A dynamic, holistic approach to management learning. Education and Development Department of Organizational Behavior. Case. Western Reserve University. 

Sut y gall dysgu cydweithredol effeithio ar addysg cynradd?


Nid oedd Dillenbourg (1999) ac weddill o’r ysgolheigion yn gallu cytuno ar diffiniad o dysgu cydweithredol, mae yna amrywiath eang o diffiniadau ar gyfer y term yma mewn wahanol meysydd academaidd. Mae Dillenbourg (1999) yn ddweud ‘The broadest (but unsatisfactory) definition of 'collaborative learning' is that it is a situation in which two or more people learn or attempt to learn something together’. Er hyn mae gwahanol elfen yn gallu cael ei ddehongli mewn ffyrdd wahanol. Mae “two or more” yn gallu cael ei ddehongli mewn par, grwp fach (3-5 pobl), ddosbarth (20-30), cymdeithas neu chymuned. Mae hefyd yn ddweud sut mae “leanring something” ac “together” yn gallu cael ei ddehongli (Dillenbourg, 1999).

Mae dysgu cydweithreol yn digwydd phob dydd yn yr dosabarth, trwy gweithio ar tasgau, prosiectau ac gweithgareddau. Mae yna nifer o manteision i dysgu cydweithredol.Mae Laal ac Ghodsi (2011) wedi rhannu’r mantesion mewn i pedwar categori, gan ddyfynnu gwaith Johnsons (1989) ac Pantiz (1999) sydd yn rhestru dros 50 mantais ar gyfer ddysgu yn cydweithredol. Y pedwar categori yma yw cymdeithasol, seicolegol, academaidd ac asesiadau.

·         Manteision Cymdeithasol;
-          Helpu i ddatblygu system cymdeithasol i ddysgwyr.
-          Adiladu dealltwriaeth ymysg myfyrwyr a staff.
-          Sefydlu awyrgylch cadarnhoal ar gyfer modelu ac ymarfer chydweithredu.
-          Datblygu cymunedau dysgu.
·         Manteision Seicoloegol;
-          Mae student-centered instruction yn cynyddu hunan-barch myfyrwyr.
-          Lleihau pryder.
-          Datblygu agweddau positif tuag at athrawon.
·         Mantesion academaidd;
-          Hyrwyddo sgiliau o feddwl yn beirniadol.
-          Cynnwys myfyrwyr yn weithgar yn y broses dysgu.
-          Canlyniadau dosbarth yn wella.
-          Modelu technegau datrys problemau myfyrwyr priodol.
-          Ddefnyddiol trwy ysgogi myfyrwyr mewn cwricwlwm penodol.
·         Technegau asesu myfyrwyr eiledol ac athrawon;
-          Mae technegau addysgu cydweithredol yn defnyddio amrywiaeth o asesiadau.

Er mwyn i phlant ysgol gynradd gweithio yn cydweithredol mae hyn yn gallu weithio trwy grwpio. Yn ol Harris a Lowe (2014) mae grwpio effeithiol yn ganlyniad allweddol o asesiad ffurfiannol, lle mae’r athrawon yn gallu creu gweithgareddau cymywys ar gyfer phob grwp o ddysgwyr, ar eu lefel gallu (Harris and Lowe, 2014). Mae hyn yn gysylltiedig i’r Standard 5 (DfE 2013) sydd yn focysu ar y angen o ‘adapt teaching to the strengths and needs of pupils, knowing when and how to differentiate properly, using approaches which enable children to effectively’. Mae hyn yn cydfynd gyda’r syniad o gweithio yn cydweithredol oherwydd mae’n amlygu bod disgyblion yn gallu weithio yn well gyda disgyblion eraill sydd ar yr un lefel academaidd.

Mae Vygotsky (1978) wedi datblygu’r syniad o ‘Zone of Proximal Development’ sydd yn adnabod beth mae phlant yn gallu wneud ar ben ei hunain ac beth mae nhw’n gallu wneud gyda cymorth gan cyfoedion ac oedolion. Wrth gwahanu nhw yn effeithiol, gall athrawon cael mynediad i’r cyfle dysgu hwn gan grwpio’r phlant yn effeithiol i cynnig amgylchedd orau posib ar gyfer dysgu (Vygotsky, 1978).

Er hyn mae yna anfantesion trwy denfyddio y grwpio yma, mae athrawon yn tebyg o grwpio o fewn ei lefelau llythrennedd ac rhifedd ond yn cadw y grwpiau yma ar gyfer pwnciau eraill (Harris and Lowe, 2014). Mae hyn yn meddwl bod y disgyblion sydd gyda cryfderau mewn pwnciau eraill ddim yn teimlo ei fod wedi cael ei herio oherwydd y grwpio gwahanol (Harris and Lowe, 2014). Yn fy marn i ddylai phlant cael ei chymysgu er mwyn gallu gweithio yn cydweithredol gyda phlant eraill. Mae hyn yn gallu wella perthnasau y dosabarth trwy creu ffrindiau ac rhannu syniadau gwahanol.
I grynhoi dwi’n credu fod cydweithrediad yn hynod bwysig yn addysg gynradd oherwydd mae’n ffordd newydd o ddysgu lle mae phlant gyda annibyniaeth. Mae gweithio fel grwp yn sgil pwysig o fewn y dosbarth heddiw yn hytrach na gwrando i’r athrawes ac ysgrifennu. Mae yna nifer o mantesion fel es i siarard am yn gynharach. Felly mae dysgu yn cydweithredol yn gallu cael effaith positif ar addysg gynradd.

Yn ystod ein darlithoedd, cawsom ni y siawns i cysylltu gyda ysgol gynradd yn Nairobi, Kenya, or enw Cheery school. Cawsom ni amser i gwneud galwad skype gyda sylfaenydd yr ysgol. Wnaeth e cynnig llawer o wybodaeth ynglyn yr amygylchedd a sut mae’r ysgol wedi cael ei leoli yn slym. Dechreuoedd yr ysgol gyda tri disgyblion on erbyn heddiw wedi cynddu gyda cannoedd o disgyblion, sydd yn teithio yn bell i mynegi ysgol. Aethom ati I cydweithio gyda’r ysgol trwy codi arian i helpi adiladu wal ar gyfer dosbarth sefydlog. Penderfynais fy nghrwp gwerthu cacennau yn ein amser rhydd yn y prifysgol. Llwyddodd ein grwp codi £101 ar gyfer ysgol Cheery. I ategu at hyn yn ei seminar fe defnyddiodd ein sgiliau creadigol i chreu fideo am Chaerdydd ac yr iaith Cymraeg. Yn unigol wedyn es i chreu taflen waith ar gyfer y disgyblion I ddysgu nhw lliwiau’r enfys yn Gymraeg. Dwi wedi atodi fideo a chopi taflen waith isod. Mae hyn yn profi bod cydweithrediad yn gallu cael effaith positif ar ysgolion cynradd oherwydd mae’n cynnig cefnogaeth yn enwedig ar gyfer phlant sydd yn llai ffodus as ddim gyda mynediad hawdd ac syml i addysg. Mae ysgol Cheery nawr wedi ddysgu am diwylliant Caerdydd ac rydym wedi ddysgu am diwylliant ac sefyllfa addysg yn Kenya.


                                                                                                                                                   


Cyfeiriadau
DfE (2013) Teachers’ standards (DFE-00066-2011), Available at: https://www.gov.uk
Dillenbourg P. (1999) What do you mean by collaborative learning? In P. Dillenbourg (Ed) Collaborative-learning: Cognitive and Computational Approaches. (pp.1-19). Oxford: Elsevier.
Harris, K. and Lowe, S. (2014). Monitoring, assessment and record keeping. In Cooper, H. eds. Professional Studies in Primary Education. 2nd ed. London: SAGE, pp. 93.
Johnson, D.W. & Johnson, R.T. (1989). Cooperation and Competition Theory and Research. Edina, Minnesota; USA. Interaction Book Co. Publishing.
Laal, M. and Ghodsi, S. (2011) Benefits of collaborative learning. Elsevier. Available at: https://ac.els-cdn.com/S1877042811030205/1-s2.0-S1877042811030205-main.pdf?_tid=533bdea4-db5b-11e7-8bb3-00000aacb361&acdnat=1512657274_ace43ca0b6175697db25fb15a86a56e7 (Accessed: 1 December 2017).
Panitz, T. (1999). Benefits of Cooperative Learning in Relation to Student Motivation", in Theall, M. (Ed.) Motivation from within: Approaches for encouraging faculty and students to excel, New directions for teaching and learning. San Francisco, CA; USA. Josey-Bass publishing.
Vygotsky, L. (1978) Mind in Society: The Development of Higher Psychological processes. Cambridge, MA: Harvard University Press.